Hynny unai drwy Chwaraeon y Ddraig, Arweinwyr Cyfoed neu gyrsiau WRU. Ers i mi gael fy nhystysgrif gyntaf gyda’r WRU mae ‘na lawer o ddrysau wedi agor i mi ac rwyf wedi cael fy ymrwymo i mewn i amryw o ddigwyddiadau ar hyd Gogledd Cymru. Hynny unai mynd o amgylch ysgolion cynradd ac uwchradd yn cyflwyno sesiynau tag, helpu allan gyda camps rygbi dros yr hanner tymor, i helpu cychwyn clwb rygbi merched ochra Pwllheli a nawr yn aelod o staff yn RGC.
Mae unigolion yn holi, “pam ydw’i yn gwirfoddoli gymaint gyda’r rygbi?” I mi mae gweld plant yn mwynhau eu hunain wrth gadw’n heini a dysgu a datblygu sgiliau newydd yn fy ngwneud i’n hapus. Mor syml â hynny.
Yr anrhydedd rwyf yn ei deimlo pam mae’r rhieni yn dŵad ataf yn deud eu bod eu plentyn nhw wrth eu bodda gyda’r sesiynau a methu aros dan y tro nesa yn gwneud fy niwrnod. Rwyf yn gwirfoddoli er mwyn helpu plant cael y cyflaeon i datblygu eu fframwaith llythrennedd corfforol drwy gemau sydd wedi cael eu addasu, fel bod unigolion yn gweld ac yn teimlo llwyddiant, bod plant yn teimlo’n hyderus yn eu gallu nhw i chwarae ac cymryd rhan mewn chwareon.
Fy nghôl i ydy i greu profiad positif gyda chwaraeon er mwyn dylanwadu eu cyfranogiad nhw ar weddiwll eu bywydau.