“Aros mae’r mynyddau mawr” meddai Ceiriog yn ei gerdd Aros a Mynd a mae’r mynyddau yn siwr o aros yng nghof bachwr Cymru, Ken Owens ar ol yr haf hwn. Fis dwetha roedd carfan Cymru nol yn Fiesch yn y Swisdir ar gyfer eu gwersyll ymarfer ynghanol mynyddoedd yr Alpau. Dyma’r un dre lle bu Cymru’n ymarfer cyn Cwpan y Byd dwetha felly roedd ganddyn nhw ryw fath o syniad beth i’w ddisgwyl. Mae’r chwaraewyr yn byw, bwyta a chysgu tua 2300 troedfedd uwch lefel y mor ac yn ymarfer ryw 1000 troedfedd yn is. Ond mae hyd yn oed hynny’n gyfystur ag ymarfer ar ben yr Wyddfa!
“Roedden ni’n gwybod beth i’w ddisgwyl a roedd e’n amserlen ddwys iawn. Dyw e ddim yn bleserus ond ni’n gwybod pam ein bod ni yno a beth yw pwrpas yr hyn i ni’n ei wneud – yn enwedig os chi wedi bod drwyddo fe o’r blaen. Chi’n gallu gweld y canlyniadau ac yn gwybod gymaint o help yw e yn ystod y gemau mawr i ddilyn. Mewn gwirionedd ni wedi cael cwpwl o fisoedd o waith caled iawn ond ni wedi dod drwyddi a nawr ni’n edrych mlaen at y cyfle i chwarae a gobeithio cael y cyfle i fynd i Siapan. Mae’n braf gallu canolbwyntio ar y rygbi ar ol yr holl rhedeg lan a lawr y cae, y restlo, y taflu teiars anferth, y codi pwysau a’r holl waith corfforol arall, weithiau mewn tymheredd o hyd at 30 gradd.”
Ond cyn troi at y rygbi a’r gem yn Twickham y Sul dwetha roedd Ken nol ynghanol y mynyddoedd – y tro hwn mynyddoedd Dyffryn Conwy yn amgylchynu maes yr Eisteddfod yn Llanrwst. Roedd Ken a’i gyd-aelod o’r Scarlets Jonathan Davies yn y brifwyl i gael eu derbyn i’r Orsedd a’u hurddo a’r Wisg Las am eu cyfraniad arbennig i Gymru. Doedd dim syndod am yr enwau gorseddol ddewiswyd gan y naill na’r llall – y ddau yn mynd am y llysenwau sy’n gyfarwydd i unrhyw ddilynwyr rygbi. Ar ol cael ei fagu yn nhafarn y Fox and Hounds, Bancyfelin a’i adnabod fel Jon “Fox” Davies – Jon Cadno bydd enw’r canolwr tra bo’r holl dynnu coes mai Ken yw sheriff answyddogol ei dre enedigol, Caerfyrddin yn golygu bydd y bachwr yn cael ei nabod fel Ken y Siryf.
“Roedd e’n meddwl lot i fi gael fy urddo. Chi’n gweld nifer o ffrindiau a phobl sy’n byw yn ddigon agos sy’n cerdded mewn yn rhan o’r Orsedd. A hefyd mae hanes rhwng rygbi yng Nghymru a’r Orsedd, fel Robin McBryde, Ray Gravell a George North a Jamie Roberts yn rhan o’r Orsedd hefyd felly mae’r hanes yna rhwng y ddau yn enfawr ac mae’n rhywbeth pwysig i gadw fynd a dathlu”
Ac ar ol dathlu un uchafbwynt mae Ken yn ysu i ddathlu un arall – sef dechrau gem yng Nghwpan y Byd am y tro cynta erioed. Oherwydd er ei fod wedi bod mewn dau Gwpan Byd ac wedi chwarae chwech gem, oddiar y fainc mae e wedi dod bob tro. Yn erbyn Namibia yn 2011 fe ennillodd Ken ei gap cynta erioed ac yntau’n drydydd dewis yn y garfan ar y pryd ac yn 2015 fe chwaraeoedd mewn pum gem fel ail ddewis i Scott Baldwin.
“Wrth fynd mewn i’r gystadleuaeth yn 2011 roeddwn i newydd wella o anaf difrifol, ond oherwydd bod bechgyn eraill wedi’u hanafu hefyd fe lwyddes i ennill fy lle yn y garfan a roeddwn i wrth fy modd i ennill fy nghap cynta. Digon tebyg oedd yr hanes yn 2015. Roeddwn i wedi bod mas am wyth neu naw mis gydag anaf i fy ngwddf eto. Fe gas Scott dwrnament ardderchog a fy rol i oedd creu argraff oddiar y fainc – rol nes i fwynhau’n fawr iawn.”
Ond nawr ar drothwy Cwpan y Byd arall mae pethau wedi newid. Mae Ken wedi hen sefydlu’i hun fel y prif ddewis, mae e wedi bod ar daith Llewod ac wedi ennill mwy o gapiau (65) na’r un bachwr arall o Gymru gan guro eiconau fel Garin Jenkins (58) a Matthew Rees (60).
“Chi’n gwneud eich lwc eich hun a mae rol chwaraewyr yn newid o fewn carfanau gwahanol. Gobeithio alla i aros yn ffit a phrofi fy hun i’r garfan. Fe fyddai’n beth anferth i fynd i drydydd Cwpan y Byd.”
Ond dyw dim ond cyrraedd Siapan ddim yn ddigon mae na gemau anodd i fynd drwy’r grwp i gyrraedd rownd yr wyth ola – wedyn pwy a wyr?
“Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia llynedd – y cynta mewn 14 gem – yn bwysig yn seicolegol ac yn hwb mawr i’n hyder. Ond fedrwn ni ddim dweud mai yr unig beth sy’n rhaid gwneud yw curo Awstralia, bydd bob gem yn sialens. Mae Ffiji wedi ennill yn Ffrainc a chi’n gweld ym mhob Cwpan Byd eu bod nhw’n beryglus ar ol treulio amser gyda’u gilydd. Mae gan Georgia eu cryfderau a dyw Uruguay ddim yn mynd i ildio a rhoi’r pwyntiau i ni.”
Un peth mae Ken yn sylweddoli ar ol yr haf hyn, ac o bosib ar ol y canlyniad yn Twickenham, mae na fynydd arall i’w ddringo yn Siapan.
Gan Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru