“Mae Robin yn ddyn teulu balch ac rydyn ni fel carfan yma i’w gefnogi ef a’i deulu mewn unrhyw ffordd bosib yn ystod yr amser hwn.”
Meddai Robin McBryde: “Rwyf wedi derbyn cefnogaeth wych o’r tîm a’r rheolwyr draw fan hyn, a gyda chefnogaeth fy nheulu nôl adre mae’n caniatáu imi aros yn Japan.
“Doedd neb yn fy nghefnogi mwy na’ fy mam, ac fel gydag unrhyw riant, byddai hi eisiau’r gorau i mi, felly dwi’n gwybod fy mod i yn union le byddai hi eisiau i mi fod.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn Ward Cybi, Ysbyty Gwynedd, am y gofal a’r sylw arbennig gafodd fy mam.”