Mae’r clo, sy’n 20 oed ac yn hanu o Ynystawe, wedi ennill 8 cap ers ymddangos dros ei wlad am y tro gyntaf y llynedd yn erbyn Hong Kong. Bydd Crabb yn dechrau dros
Gymru ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw fynd benben a’r Barbariaid yn Stadiwm Principality. Bydd y gêm i’w gweld yn fyw ar S4C am 11.35am.
Hon fydd y trydydd gwaith i dîm menywod Cymru chwarae yn y Principality, a’r gobaith yw gweld y dorf fwyaf erioed i wylio’r tîm. Cafodd record presennol y tîm o 11,062 ei osod yn y stadiwm llynedd yn erbyn yr Eidal, cyn gêm y dynion yn erbyn yr Azzuri.
“Collais y gêm yn y stadiwm y llynedd yn erbyn yr Eidal, oherwydd anaf i’m mhen-glin, ond mi roeddwn i yn y dorf.” meddai Crabb, sy’n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
“Rwy’n credu fydd yr achlysur hwn hyd yn oed yn fwy na’r ddwy gêm flaenorol yn y stadiwm ac ry’n ni’n gobeithio am dorf fawr. Yn bendant, hon fydd y dorf fwyaf i mi erioed ei chwarae o’i blaen ac mae e’n gyfle gwych i rygbi menywod.
“Mae cael y cyfle i chwarae i Gymru yn y stadiwm, cyn gêm y dynion, yn mynd i fod yn brofiad anhygoel. Gallai hyn fod yn gipolwg ar ddyfodol proffesiynol gêm y menywod ac mae hynny’n rhywbeth fi wir yn dyheu am fod yn rhan ohono.”
Ar ôl gorffen yn bedwerydd yn y Chwe Gwlad y tymor diwethaf, mae tîm y menywod yn adeiladu tuag at gystadleuaeth y flwyddyn nesaf gyda canlyniadau calonogol. Hyd yn hyn yr Hydref hwn maen nhw wedi curo’r Alban ac Iwerddon ar ôl dechrau eu hymgyrch ym mis Tachwedd gan golli yn erbyn Sbaen ym Madrid.
Ac wrth iddi geisio sicrhau ei lle yn y tîm cenedlaethol am flynyddoedd i ddod, tuag at ei chyd Walch a chapten tîm dynion Cymru, Alun Wyn Jones, mae Gwen yn edrych am ysbrydoliaeth.
“Fi eisiau bod y gorau gallaf i fod ac ni fyddai’n stopio nes mai fi yw’r gorau. Dyna’r ffordd fi’n gweld pethau,” ychwanegodd Crabb.
“Mae Alun Wyn Jones yn arwr mawr i mi a fi’n hoff iawn o’r ffordd mae e’n cyflwyno’i hun ar y cae. Mae mor bwyllog trwy’r amser, ond mae e wastad yn gwneud y basics yn iawn.
“Dyw e ddim bob amser yn sefyll mas ond mae e bob amser yn y cefndir yn gweithio’n galed, beth bynnag arall sy’n digwydd. Mae e hefyd bob amser yno i’r chwaraewyr eraill, sy’n beth bwysig.
“Mae wedi bod yn gapten gwych i Gymru ac mae hynny’n rhywbeth fyddwn i’n gobeithio cyflawni ryw ddiwrnod, felly does dim syndod ei fod yn arwr i mi.”
Rygbi Menywod: Cymru v Y Barbariaid
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd, 11.35
Sylwebaeth Saesneg
Ar gael ar alw ar S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Media Atom ar gyfer S4C