Neidio i'r prif gynnwys
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd

Y Siryf Dan Gadfridog Newydd

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Cymru’n dechrau ar gyfnod newydd heddiw gyda Wayne Pivac wrth y llyw am y tro cynta. A mae’n brofiad newydd i’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr sydd ond yn gyfarwydd a chael Warren Gatland fel prif hyfforddwr.

Rhannu:

Ond mae gan chwaraewyr y Scarlets rhyw syniad beth i’w ddisgwyl, a neb yn fwy na chapten y Scarlets Ken Owens. “Roedd e bach o sioc bod yng ngwesty’r Fro heb Gats yno. Dim ond Alun Wyn sydd wedi bod gyda hyfforddwr arall felly mae e wedi bod bach yn wahanol, ond i fod yn deg mae Wayne wedi cadw lot o’r staff hyfforddi tu ôl y llenni a mae nhw wedi gwneud yn siwr bod dim gormod o newid yn rhy sydyn.

“Ar ddiwedd y dydd mae beth ni wedi gwneud dros y deuddeg mlynedd dwetha wedi bod yn llwyddiannus iawn a mae Wayne wedi siarad am beidio newid popeth ond rhoi gwerth ychwanegol i’r hyn sy’n rhan annatod o’r ffordd mae Cymru wedi datblygu dros y blynyddoedd. O ran symud mlaen a’r trawsnewid rhwng y ddwy garfan a’r hyfforddwyr roedd e’n grêt bod Steve (Stephen Jones) wedi cael y cyfle i weithio ’da ni yng Nghwpan y Byd a chael profiad o hyfforddi ar y lefel ucha.

“Roedd e’n gallu gweld beth oedden ni’n gwneud wrth ymarfer, beth oedd yn gweithio a fel oedd e’n gallu gwella a datblygu’r ffordd i ni’n ymarfer a chwarae. Fi wedi bod yn ffodus iawn i chwarae gyda Steve a cael fy hyfforddi ganddo fe, Byron a Wayne felly fi’n nabod nhw’n dda iawn. O’n i’n lwcus i fod yn gapten i Wayne am bum mlynedd felly mae perthynas dda ‘da ni a mae hwnna’n bwysig i Wayne fel mae e’n dod i nabod y chwaraewyr bod ‘da fe rhywun mae e’n gallu siarad gyda a bo fi’n gallu dweud wrtho fe beth sydd ar feddyliau’r chwaraewyr hefyd.”

Nid yn aml mae Cymru’n wynebu’r Barbariaid, felly beth am yr achlysur a’r profiad o fynd yn erbyn Warren Gatland? “Gyda Wayne yn dod mewn mae’n grêt cael wythnos lle dyw’r pwysau ddim arno fel mae e yn y Chwe Gwlad. Ni’n gallu rhoi’r sustemau newydd yn eu lle a gweld beth sy’n gweithio a beth sydd ddim a gall y chwaraewyr fynd mas a just chwarae.

“Fi’n siwr bydd camgymeriadau a bydd hi’n gêm galed a mae stori yno gyda Gats yn cael ei gêm ola yn y Stadiwm, ond mae’n wych i gael cyfle i weld shwd mae pethau’n mynd dan bwysau gêm a phan byddwn ni’n dod mewn i’r Chwe Gwlad byddwn ni wythnos o flaen ble bydden ni wedi bod. Mae calon y garfan yr un peth.

“Ni ddim yn wlad fawr a sdim lot o newidadau ond mae gweld y wynebau newydd a’r bois ifenc yn dod mewn i gael y cyfle i ddangos beth mae nhw’n gallu gwneud yn rhoi ryw ffresni i bethau a mae hynny’n bwysig i unrhyw garfan. Un peth yn enwedig yn y blynyddoedd dwetha mae’r chwaraewyr profiadol wedi gwthio’r bechgyn i gael barn a siarad lan. Dim ond achos mai ni sydd wedi bod o amgylch yr hiraf dyw e ddim wastad yn golygu mai ni sy’n gwybod orau a’n bod ni’n gwybod popeth.

“Fel carfan un peth ni’n pwysleisio yw i’r bois weithio’n galed ac os oes pwynt ‘da nhw i wneud y pwynt hwnnw i gadw pawb yn meddwl a chadw pawb yn gwella. Yn safle’r bachwr ni mewn lle da ar y foment – yn ogystal ag Elliot Dee a Ryan Elias mae Dewi Lake wedi bod mewn yn ymarfer wythnos ‘ma a mae e’n un ar gyfer y dyfodol hefyd. Mae wastad rhaid cael y gystadleuaeth yna i gadw pawb yn ffres. Unwaith chi’n mynd yn stale a chyffyrddus mae’n effeithio nid yn unig chi fel chwaraewr ond pawb yn y garfan.”

Ond ydy cadw’r ffresni’n mynd yn annos i Ken, fydd yn dri deg a thair yn y flwyddyn newydd, yn enwedig ar ôl tymor mor brysur a hwn? “Mae wedi bod yn eitha caled dod nôl yn enwedig gyda gymaint o bobl yn ein llongyfarch ni ac yn dweud pa mor dda nethon ni yn Siapan. Fel chwarewr, fel carfan aethon ni mas na i ennill a nethon ni ddim gwneud hynny. Roedd e’n amser hir bant nid dim ond Cwpan y Byd ei hunan ond y gwersyll ymarfer hefyd felly mae wedi bod yn neis bod adre – hyd yn oed yn y glaw!

“Fi nôl ar gyfer y gêm hon a wedyn mae cwpwl o wythnosau bant gyda fi eto a fe fydda i nôl ar gyfer y darbis Cymreig dros y Nadolig. Ond mae’n beth da torri fe lan yn hytrach na cael un cyfnod o chwech wythnos bant. Mae’n teimlo fel ein bod ni wedi cael tymor llawn yn barod gyda Chwpan y Byd. Roedd wythnos dwetha’n trial mynd nôl i’r gampfa yn eitha anodd ond unwaith ti mewn da’r bois a chael y banter a’r hwyl a’r sbri mae’n iawn ac yn sbort.

“Mae’n anodd weithiau peth cynta yn y bore yn enwedig fel mae’r corff yn mynd yn hyn ac efallai ‘mod i’n dechrau meddwl mwy am y dyfodol yn ara bach. Mae’n anodd i baratoi achos sdim dyddiad penodol. Fi’n dal i joio er alla i ddim dweud ‘mod i’n dal i joio ymarfer bob dydd! Ond tra bo fi’n dal i fwynhau chwarae ar ddydd sadwrn fe fydda i’n dal i wneud y gwaith sydd angen ei wneud yn yr wythnos.

“Mae cwpwl o bethau personol hoffen i dal wneud – mae chware dau gant a hanner o gemau i’r Sgarlets yn darged a dyw e ddim yn bell bant nawr; bydde Cwpan y Byd arall yn neis ond mae hwnna’n rwbeth i edrych arno blwyddyn wrth flwyddyn. Fi just moyn cadw i fwynhau chwarae a cadw chwarae i’r safon ucha achos fi’n credu unwaith bydda i ddim ar y safon hwnnw bydd hi’n amser i roi’r gorau iddi.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Rhino Rugby
Sportseen
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd
Amber Energy
Opro
Y Siryf Dan Gadfridog Newydd