Bydd gornest agoriadol Chwe Gwlad y Menywod ddydd Sul yn erbyn yr Eidal yn nodi’n union ddwy flynedd i’r diwrnod er i Bethan Lewis chwarae gyntaf dros Gymru. Dechreuodd yn erbyn yr Alban ym Mae Colwyn ar yr 2ail Chwefror 2018 ac ni fu iddi edrych yn ôl o hynny ymlaen, gan ddechrau pob Prawf ar wahȃn i’r gȇm yr hydref yn ddiweddar yn erbyn Sbaen yn Madrid.
Ganwyd a magwyd y blaen-asgellwr cystadleuol yn Abergwili, ger Caerfyrddin, lle y mynychodd ysgolion Nantgaredig a Bro Myrddin gan chwarae i Cwiniaid Caerfyrddin o chwech oed ymlaen. Tra’n tyfu i fyny roedd y math gorau o chwaraewraig crwn, yn cystadlu mewn tenis ac athletau ymysg chwaraeon eraill a hyd yn oed yn cynrychioli Prydain Fawr ym mhencampwriaethau’r byd (Iau) mewn syrffio.
Fodd bynnag, roedd rygbi’n gyson yn ei gwaed, a phan ddaeth yn amser dewis, ni fu’n benderfyniad anodd i’w wneud gydag ethos teulu a thîm chwaraeon yn ffactor hollbwysig.
“Cefnogai a hybai fy rhieni mi geisio gwneud pob math o chwaraeon a mwynheais hwy’n fawr i gyd, yn enwedig, syrffio, ond roedd rygbi wastad yn angerdd imi drwy’r cyfan. Chwaraeais mewn timau cymysg tros Cwiniaid Caerfyrddin ac yna ar ochr merched y clwb yn ogystal ȃ chynrychioli’r ysgol.
“Yn gyntaf, trefnid ochr Dan 15 Cwiniaid Caerfyrddin gan y pȃr oedd yn briod ȃ’i gilydd, Gareth a Helen Rees gyda’u efeilliaid o ferched, Catrin a Cerys ychydig o flynyddoedd yn hŷn. Roeddwn yn wir edrych i fyny atynt ac roeddent yn ein trin i gyd fel rhan o’r teulu. Yn ddiweddarach, cymerodd y teulu Ridley trosodd. Chwaraeai eu meibion i dimau’r bechgyn a chwaraeai eu merch, Amy gyda ni. Roedd dad wastad o gwmpas hefyd i gynnig help llaw gyda hyfforddi a chefnogi. Roedd Alisha Butchers yn y tîm yn ogystal a chofiaf unwaith ein tadau’n chwarae gȇm o ‘rygbi cyffwrdd’ yn ein herbyn. Gorffenodd fy nhad yn fflat ar ei wyneb un tro a chawsom chwerthin mawr am y digwyddiad ac roedd gwir deimlad ac awyrgylch teulu o gwmpas.
“Mae ethos tîm mewn rygbi’n rhywbeth arbennig iawn ac yn deimlad y credwn yn gryf ynddo yng ngharfan Cymru. Os yr ydych yn gwneud camgymeriad – methu tacl neu rywbeth ddim yn mynd yn iawn, nid oes dim tebyg na chael eich cyd-chwaraewyr o’ch cwmpas i godi’ch ysbryd. Mae’n anoddach o lawer dod tros ‘ergyd’ mewn chwaraeon unigol, yn enwedig fel athletwr ifanc.
“Bum yn ymwneud ȃ Thimau 7 pob ochr dan 18 oed Cymru ond yr amcan a’r bwriad trwy’r adeg oedd ennill cap llawn ac, yn sicr, y gȇm honno’n Mae Colwyn oedd uchafbwynt fy nghyrfa’n sicr.
“Mae fy nheulu’n bwysig iawn imi ac roedd fy nheulu cyfan yno’r noson honno.”
Tad Beth, Tim, yw un o gefnogwyr mwyaf brwd y tîm, gan deithio i bob gȇm, gartref neu i ffwrdd. Mae’r cyswllt rhwng tad a merch yn sicr yn un cryf, gyda Beth yn rhoi ei phresenoldeb parhaus yn y tîm i lawr i anogaeth ei thad.
“Dywd fy nhad ddau beth bob amser – ‘chwaraea pob gȇm fel pebae yr un olaf iti’ a ‘rwyt ond gystal a dy gȇm ddiwethaf’. Ceisiaf ddilyn hynny. Mae’n gymaint o fraint gwisgo crys Cymru ac nid ydych byth yn gwybod p’ryd y daw hynny i ben ac felly, rwyf eisiau rhoi y cyfan sydd gennyf ym mhob perfformiad. Mae’n ffantastig if od yn chwarae gyda rhai o’m ffrindiau gorau yn awr ac rwyf ond eisiau perfformio’n dda er mwyn ad-dalu fy nheulu cyfan a phawb sydd wedi fy nghynorthwyo i gyrraedd yma.”
Bu i garfan ifanc Menywod Cymru fwynhau ymgyrch hydref addawol gan gynnwys ennill yn erbyn gwrthwynebwyr Chwe Gwlad Iwerddon a’r Alban a gorffen gydag ail hanner argraffiadol iawn yn erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Principality.
Cred Lewis, sydd yn ei thrydedd flwyddyn o gwrs gradd ‘Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer’ ym Mhrifysgol Hartpury, y gall y tîm adeiladu ar hynny fel y maent yn symud ymlaen at y Chwe Gwlad ag at Gwpan Rygbi’r Byd yn 2021, gan ddechrau gyda’r Eidal ddydd Sul.
“Mae’n mynd i fod yn gȇm gyffrous. Gorffenodd yr Eidal yn ail y tymor diwethaf, gan guro ochr gryf iawn Ffrainc ar y ffordd. Roedd y ddau dîm yn rhwystredig yn dilyn ein gȇm gyfartal 3-3 llynedd ond credaf y gallwn adeiladu ar y momentwm y bu inni ei greu at ddiwedd y tymor diwethaf a thrwy’r hydref. Os y parhawn i wella’n perfformiad, gan gynhyrchu’r canlyniad yn ogystal.”
Ewch i wru.wales/waleswomen am dicedi er cefnogi Menywod Cymru’n y Chwe Gwlad yma