Pan fydd Justin Tipuric yn camu i’r maes rhyngwladol bydd e’n cyrraedd carreg filltir fach bersonol. Bydd e’n ennill cap rhif 75 ac yn y broses yn mynd heibio’r gwr bu e’n bwrydro’n erbyn am flynyddoedd am y crys rhif saith, Sam Warburton orffennodd ei yrfa ar 74 cap. Nid bod y gwr diymhongar o Drebanos yn ymwybodol o’r ystadegyn!
“Chi ddim yn sylweddoli gymaint o gapiau chi wedi ennill nes i chi edrych lawr ar y crys a chi’n meddwl diawch mae hwnna wedi cropian lan yn sydyn! Mae e’n neis – ro’n i’n teimlo’n lwcus i ennill un cap heb son am dros saith deg. Rwy’n meddwl am y peth bob diwrnod a mae’n dal rhaid i fi binso fy hun. ‘Do’n i ddim wedi sylweddoli ‘mod i’n mynd heibio Warby – mae e just yn un o’r pethau hynny, mwy na dim byd chi’n sylweddoli pa mor ffodus i chi i chwarae i’ch gwlad.
“Roeddwn i’n ceisio peidio meddwI gormod am y ffaith mai Warby oedd y capten a bod y ddau ohono ni’n chwarae rhif saith. Roedd Warby’n chwaraewr gwych a roeddwn i’n ceisio canolbwyntio ar, a gwella fy ngêm fy hunan a rhoi pwysau ar yr hyfforddwyr i ddewis fi i chwarae rhyw rhan yn y tîm boed hynny’n dechrau neu oddiar y fainc.
“Wrth i fi fynd yn hŷn rwy’n meddwl bod fy ngêm i wedi gwella. Pan chi’n ifanc chi’n teimlo’n rhwystredig achos bo chi am chwarae drwy’r amser a dechrau bob gêm yng nghrys Cymru, ond wrth edrych nol chi’n gallu gwerthfawrogi bod rhan fawr ganddo chi i chwarae o fewn y tîm. Dwi ddim yn meddwl bod fy ngêm i wedi newid yn sylfaenol ‘mond addasu rhywfaint yn gyson. Rwy wastad wedi credu’n gryf mewn gwella mewn unrhyw ffordd alla i a dod yn fwy deallus am y gêm er mwyn peidio cael fy ngadael ar ôl.”
Ond mae cysgod Sam Warburton yn dal yno gan ei fod e nôl gyda’r garfan fel arbenigwr ar ardal y dacl.
“Mae pethau’n mynd yn dda iddo – mae’n dod a gymaint o brofiad a mae’n rhoi ei stamp ar bethau yn ardal y dacl. Mae’r bechgyn i gyd yn prynu mewn i’w syniadau a dyna’r peth pwysig. Mae na strwythur chydig yn wahanol o dan Wayne a Stephen a mae chwaraewyr gwahanol yn canfod eu hunain mewn safleoedd gwahanol ond rwy’n mwynhau e. Dros y blynyddoedd dwetha’n enwedig roeddwn i’n cael fy nefnyddio fel neidiwr yn y leiniau ond dy’n nhw ddim ishe fi ‘na bellach a mae’n safio tipyn o straen ar y coesau a rhan isa’r cefn! Fel crwtyn ifanc efallai mai fy nghryfderau oedd yr elfennau amddiffynnol.
“Roeddwn i wrth fy modd yn taclo a gydag elfen gorfforol ardal y dacl. Roeddwn i’n casau methu’r un dacl a byddwn i’n cael llawer mwy o fwynhad o droi’r bel drosodd mewn tacl na sgori cais! Fi wastad wedi bod eitha da am ddal y bel a phasio a mae fy ngêm wedi esblygu gydag amser a rwy wedi ceisio peidio cael unrhyw wendidau yn fy ngêm.”
Nid Sam Warburton yw’r unig enw mawr mae Justin wedi gorfod dilyn – mae e wedi cymryd mantell Alun Wyn Jones fel capten y Gweilch a chapten Cymru yn erbyn Wrwgwai yng Nghwpan y Byd yn Siapan.
“Mae Alun Wyn yn ‘class’. Rwy lot tawelach – wnai ddim siarad cymaint ma hwnna’n bendant a mae nhw’n sgidiau enfawr i lanw. Roedd e’n rhywbeth sbesial i arwain y bechgyn mas yn enwedig yng Nghwpan y Byd. Heb os mae na deimladau cymysg am y gystadleuaeth ac roedd e hyd yn oed yn fwy rhwystredsig ar ol dod adre pan oedd chydig amser bant i hel meddyliau. I ddod mor agos a hynny chi ddim yn gallu help meddwl beth petae… yn enwedig yn y gêm yn erbyn De Affrica beth petawn ni wedi gwneud hyn neu arall.
“Ond allwch chi ddim tynnu dim oddiwrth y profiad a felna mae rygbi’n mynd weithiau. Dyma fy ail dymor fel capten y Gweilch, roedd e’n rhywbeth gwahanol ond rhywbeth rwy wedi mwynhau yn enwedig tua diwedd tymor dwetha pan aethon ni ar bach o rediad a llwyddo i sicrhau’n lle yng Nghwpan y Pencampwyr. Mae set o fechgyn da gyda’r Gweilch sy’n gwneud bywyd yn haws i gapten ond dyw eleni dim wedi bod y tymor oedden ni wedi dymuno a mae pethau wedi bod lot mwy anodd.
“Mae na bethau’n digwydd oddiar y cae chi’n cael eich tynnu mewn iddyn nhw fel capten a’r peth anodda un yw’r ffaith nad oeddwn i yno o ddechrau’r tymor oherwydd Cwpan y Byd a wedyn mae’r Chwe Gwlad wedi cyrraedd. Chi’n teimlo eich bod chi mewn a mas yn hytrach na bod yno drwy’r amser i’r bechgyn ond mae hwnna’n rhan o fywyd rygbi rhyngwladol. Mae wedi bod yn dymor anodd ond gobeithio bod pethau gwell ar y gorwel yn enwedig ar ol y fuddugoliaeth dros Ulster.”
A beth sydd ar y gorwel i Justin? Ydy e wedi gwneud penderfyniad am ei ddyfodol yntau?
“Na dwi’n dal heb sorto pethau! Rwy’n gobeithio gwneud dros yr wythnosau nesaf. Rwy’n gwybod ‘mod i wedi dweud hynny o’r blaen ond bydd rhaid gwneud yn eitha buan er mwyn bod pawb yn gwybod lle mae nhw’n sefyll. Ers dyddiau Nugget (Martyn Williams, sydd nawr yn rheolwr tîm Cymru) a Sam mae’r gystadleuaeth yn y rheng ôl wedi bod yn anhygoel a chi’n gorfod bod ar flaenau’ch traed a cadw i wella drwy’r amser ond rwy’n gobeithio bod mwy o flynyddoedd i ddod cyn gorfod edrych dros fy ysgwydd.”
Digon o amser i gyrraedd carreg filltir nodedig arall – curo can cap Martyn Williams a dod y rhif saith sydd wedi ennill y mwya o gapiau i Gymru.