Bu inni hefyd ymgynghori gyda Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP) a chyda’n pwyllgorgwaith ein hunain am eu barnau.
Fel bob amser, mae’n hollbwysig i ni ein bod yn dilyn proses hollol gyfiawn yn llywodraethiant y gêm yng Nghymru a hoffwn gadarnhau’n ffurfiol i’n haelodau fel clybiau benderfyniad y Bwrdd i gefnogi Bill Beaumont yn ei gais i gael ei ail-ethol am dymor pellach.
Bu inni siarad gyda’r ddau ymgeisydd gan asesu’u hymrwymiadau maniffesto’n eu tro. Bu inni dreulio’r gyriant deinamig am newid a gyflwynwyd gan Agustin gan ddeall yr ymrwymiad i weld cynnydd a datblygiad ond hefyd y llaw sicr a’r sefydlogrwydd a gynigiwyd gan Bill.
Mynegodd rhai aelodau o’n Bwrdd gefnogaeth uniongyrchol i Bill tra bu i eraill gytuno i dderbyn ei harweiniad gan y rhai hynny ohonom sydd agosaf at y materion sydd ymlaen. Roedd yna aelodau o’n pwyllgor gwaith a’r BRP a fynegodd eu cefnogaeth i Agustin, ac nid oedd hyn, mewn unrhyw ffordd yn ‘ras un ceffyl’ yng ngholwg y Bwrdd ond cyrhaeddwyd ein penderfyniad cydlynol ar sail y dystiolaeth a roddwyd, ystyriaeth ddofn ag ymchwil i bob ymgeisydd.
Credwn yn gryf mai dyma’r ffordd gywir inni ymddwyn, yn union fel ag y gwnaethpwyd ar sut i bleidleisio ar gyfer ymgeiswyr croesawu Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023 – lle y bu inni ddilyn argymhellion yn codi o’r gwerthusiad technegol a wnaethpwyd gan Rygbi’r Byd – dilynwyd y dystiolaeth o’n blaenau ac, rydym yn siwr wedi cefnogi’r ymgeisydd gorau am y swydd.
Yr awydd pendant yma i ddilyn y broses gywir mewn modd agored a thryloyw a arweiniodd ni i ohirio’n etholiadau Cyngor Cenedlaethol a oedd i fod i’w cynnal bron yr un pryd ag y daeth cload y pandemig gyntaf. Darperir diweddariad pellach isod ar lle yr ydym yn sefyll ar hyn o bryd gyda’r etholiad penodol yma, ond digon yw dweud y byddwn yn sicrhau ein bod yn parchu’r broses iawn bob tro y bydd hynny’n bosibl – yn erbyn y cefndir o’r sefyllfaoedd ataliol presennol – a sicrhau fod y clybiau sy’n aelodau a’r tri ymgeisydd i gyd yn derbyn yr ornest dêg y maent yn eu haeddu.
Gonestrwydd a chywirdeb yw dau o’r gwerthoedd craidd allweddol Rygbi Cymreig a byddent yn parhau i gael eu cadw’n wir, serch yr helbulon cyfredol.
Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies
Cadeirydd URC
- Cyllid Clwb a’r Awdit
Y cwestiwn mwyaf cyffredin y bu inni ei dderbyn gan Glybiau hyd at hyn yw pa bryd y telir y 4ydd taliad cyllid a’r un olaf o dymor 2019/20 a gallwn gadarnhau fod y cyfraniad olaf o’r cyllid am eleni – a gyfrifiwyd gan awdit 2018/19 – yn cael ei dderbyn gan glybiau yfory, Iau, 30ain Ebrill 2020.
Rhanwyd gwybodaeth am y swm sy’n ddyledus i glybiau gyda’r taliad hwn o’r blaen drwy e-bost, a ddylai fod wedi’i dderbyn ar y 10fed Ionawr 2020.
AWDIT 2019/20 (sy’n berthnasol i daliadau ar gyfer 2020/21) – a adnabyddir yn ogystal fel ‘Model Cyllido Cymunedol’
Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol a grewyd gan Covid-19 ac fel canlyniad in gyfarfodydd hir a niferus gyda staff, aelodau Bwrdd URC a’ch cynrychiolwyr Ardal, cytunodd y Bwrdd Gêm Gymunedol i ganslo awdit 2019/20:
- Felly, ni fydd angen i unrhyw glwb gwblhau’r awdit cyfredol (2019/20). Tra y gwerthfawrogwn fod clybiau wedi symud ymlaen eu cynnig llynnedd, teimlwyd, mewn tymor anorffenedig, mai dyma’r datrysiad mwyaf têg.
- Yn amlwg felly, ni fydd y taliadau a wneir i glybiau am y tymor sydd i ddod (2020/2021) ddim yn cael eu seilio ar yr awdit a byddwn yn cyfarfod eto’n hwyrach yn y flwyddyn (Gorffennaf ag Awst) i benderfynu’r rhaniadau. Gwneir hyn drwy broses o ymgynghori gyda’r amcan o ddiogelu’r gêm a chadw pob Clwb URC yn fyw. Gwneir y penderfyniad terfynol gan Fwrdd y Gêm Gymunedol mewn ymgynghoriad â “Grŵp Gwaith” gweithredol a fydd yn cynnwys Aelodau Bwrdd URC, Aelodau Ardal a’r Cynrychiolwyr Clybiau Ardal a enwebwyd gennych chwi. Yr amcan fydd cytuno ar ddatrysiad a fydd yn helpu ein holl glybiau i ddod trwy’r heriau a brofir ar draws y wlad.
- Yn olaf, parheir i adolygu ag i gysylltu gyda’r Strategaeth Gymunedol newydd yr ‘awdit’ am y flwyddyn nesaf (tymor 2020/21) – sy’n penderfynu cyllido ar gyfer tymor 2021/22. Cymerir hyn at y Bwrdd Gêm Gymunedol i’w dderbyn unwaith y bydd y Grŵp Gwaith ‘Awdit’, wedi’i lunio allan o aelodau Bwrdd ac Ardaloedd URC plws y cynrychiolwyr Clwb Ardal, a gadeirir gan Jon Morgan (Aelod Cyngor URC) wedi cael dweud eu dweud yn y broses ymgynghori.
Daeth y Bwrdd Gêm Gymunedol i’r penderfyniadau uchod i gynorthwyo a chadw’n sicr ein holl glybiau ac, fel y nodwyd, unwaith y byddwn yn gwybod ychwaneg, byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu gyda’r clybiau sy’n aelodau er ail-gysylltu’r grŵp gwaith gweithredol i wneud yr argymhellion a’r penderfyniadau cywir er cefnogi’n holl glybiau a’r teulu rygbi.
Dyklid cyfeirio, os gwelwch yn dda, unrhyw gwestiynau neu gais am eglurder at gyfarwyddwr cymunedol URC, Geraint John, neu’ch cynrychiolydd Ardal URC, neu’ch rheolwr rhanbarth.
- Etholiad Cyngor Cenedlaethol
Ar ddiwedd Mawrth, wedi enwi’r ymgeiswyr am yr ornest, gohiriwyd yr etholiad i ganfod Aelod newydd o Gyngor Cenedlaethol URC oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd y pandemig.
Parhâ’r sefyllfa yma’r un ond, hoffem sicrhau ‘r clybiau sy’n aelodau a’r tri enwebiad – Nigel Davies, Ieuan Evans a John Manders – eint bod yn barhaus yn monitro materion y sefyllfa bresennol ag mai’n bwriad a nodwyd yw i gwblhau’r etholiad mor fuan ag sy’n ymarferol bosibl ag i wneud hynny cyn unrhyw etholiad arall fyd ei hangen eleni.
Fodd bynnag, fel y dywed ein cadeirydd, Gareth Davies uchod, mae’n hollbwysig i ni ein bod yn dilyn proses mor dêg a chywir â phosibl serch y cyfyngiadau presennol sy’n parhau.
Rydym yn hollol ymwybodol fod canslo’n tymor presennol yn golygu nad yw clybiau’n cyfarfod ac mae’u pryderon mwyaf ar hyn o bryd yw rhai cyllidol. Ni chafodd rhai clybiau gyfle i gyfarfod ymgeiswyr nag i drafod eu nodweddion a’u barnau ac hefyd, nid oes cyfarfodydd ardal yn cael eu cynnal. Tra y byddai’n bosibl i ymgyrchu, canfasio a phleidleisio, hyd yn oed ,yn gyfangwbl drwy ddulliau electroneg a phost nid ymddengys hyn yn ddull cywir a thêg o wneud pethau. Yn bennaf, nid yw erthyglau URC yn caniatau, ar hyn o bryd, y gallu i redeg etholiad yn electronaidd.
Rhagwelir y gall Rygbi Cymreig fod mewn gwell sefyllfa i drefnu etholiad têg o gwmpas cyfnod Gorffennaf – rhai misoedd cyn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a drefnwyd ar gyfer Hydref – ond os y cyrhaeddwn yr adeg hynny heb i gymaint o ddatblygiad ac y gobeithir gael ei wneud yn nhermau ein gêm gymunedol yna, bydd raid inni ail-feddwl y sefyllfa.
Gobeithiwn fod yr ymgeiswyr a’n clybiau sy’n aelodau’n deall y safle gyfredol, ond, wrth gwrs, buasem yn croesawu unrhyw sylwadau pellach ar y mater.
- Arweiniad Clwb ar COVID-19
Tros yr wythnosau nesaf, bydd ein Tîm Datblygu Clwb yn darparu set o arweiniad hawdd eu dilyn i glybiau ar ystod o destunau parhad busnes.
Ffocws yr wythnos diwethaf oedd ar gynorthwyo clybiau i gael mynediad at holl gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru a allai fod ar gael.
Cynhwysai Arweiniad Clwb 1, a gylchwyd i bob ysgrifennydd, siartlif i benderfynu cymhwysedd clybiau i naill ai Cynllun Cefnogaeth Busnes Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Awdurdodau Lleol neu’r Gronfa Gwydnwch Economaidd.
Yr wythnos hon, darpara Arweiniad Clwb 2 gyngor ac arweiniad yn berthnasol i gynllunio cyllidol i’n clybiau wedi’i ffocysu ar leihau gwariant, darogan a chyllidebu.
WEBINARAU CLWB
Dilynir yr Arweiniad Clwb gan gyfres o webinarau fydd yn rhoi sylw i faterion y mae’n clybiau’n eu profi neu fydd angen arweiniad arnynt os, a phryd, y bydd cyngor Llywodraeth yn newid. Darperir y webinarau gan Dîm Datblygiad Clwb URC neu siaradwyr gwadd gydag arbenigedd allanol mewn sectorau diwydiant penodol. Darperir gwybodaeth ar sut i gael mynediad i’r webinarau drwy ddiweddariadau gwybodaeth pellach i’n clybiau.
- Newyddion o’r Gêm Gymunedol
Parhâ clybiau i arddangos gwytnwch cryf gydag ystod o gynlluniau arloesgar er cynorthwyo’u hunain a’u cymuned gyfan.
PEIDIWCH A BOD FEL DAFAD
Bu i Gadeirydd Aberhonddu, Paul Amphlett, sydd hefyd yn fugail ag yn baramedig wedi ymddeol, ddod i fyny gyda ffordd unigryw i gyfuno ei ddiddordeb mewn rygbi gydag amaethu – er llês y ddau – i gynhyrchu y trydydd effaith o’i ryddhau i ddychwelyd i’w gyn gyfrifoldebau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn yr amser yma o greisis mawr.
Ac, os nad yw hynny’n ddigon, mae ei brosiect dylanwadol hefyd yn codi arian at GIG. Yn cael ei wynebu gyda’r un tebygolrwydd o golli masnach ag incwm a welwyd gan glybiau rygbi ar draws y wald, trawodd Paul ar y syniad o’i ddiadell o 73 dafad i dreulio peth amser i lawr yn Parc de Pugh i bori’i gwelltglas ag i deilio’r ddaera yn naturiol – gyda’r bugail yn talu rhent rhesymol ac addas am y lle.
Roedd Paul yn awr yn rhydd i ddychwelyd i’r Gwasanaeth Ambiwlans, ond nid oedd wedi gorffen eto – mae’n cynnig i noddwyr y cyfle i ‘fabwysiadu’ un o’i ddiadell – gyda gwobrwyon uwch i’r cynigwyr uchaf – a chododd tros ££00 o fewn y pum munud cyntaf o wneud y cynnig. Dylid anfon unrhyw ymholiad noddi at ron.rowsell@btinternet.com ac, wrth gwrs, bydd yr holl arian a godir yn cael ei gyfrannu’n uniongyrchol i GIG.
GWNEUD Y MILLTIROEDD YCHWANEGOL
Bu i’r Trallwng redeg ras clwb yn rhithiol a chlocio i fyny bron i 2000 milltir rhyngddynt drwy’r app Strava gan godi £2000 i wasanaethau GIG yn lleol – buasai hyn yn eich cael i Bucharest!
Mae Clwb Rygbi Crughywel yn cymryd rhan mewn rhediad 5km i £5k er codi arian at fwrdd iechyd Aneurin Bevan. Am bob munud y cymer hi i gyfranogwr redeg 5km, cyfrennir un bunt. Dechreuodd y Clwb godi arian y Sadwrn diwethaf a, gyda diolch i Steve Carrington am y diweddariad, roeddent wedi codi £2.1k erbyn y nos Lun ganlynol.
Rhoddodd Pentyrch nwyddau bwytadwy a diodydd ysgafn, gwerth o gwmpas £700 i’r ysbyty lleol a’r cartref gofal gan redeg raffl gyda’u diodydd alcoholaidd a chyflwyno’r enillion at Elusen Bwrdd Iechyd ac achosion lleol
HER SIAFIO
Bu i un o chwaraewyr clwb Treorci ddechrau cynllun a oedd yn codi blew cefn gwddf rhywun er mwyn cefnogi GIG yn ystod yr argyfwng hwn. Drwy safwe ‘Just Giving’, gwahoddwyd chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr y ‘Zebras’ i siafio eu pennau drwy’r slogan #stayathomebaldy gyda’r freuddwyd ddechreuol o godi £1,000. Ar ddechrau’r wythnos hon, y swm a godwyd oedd £8,162 – cyrhaeddiad anhygoel ar gyfer achos mor werthfawr a diolch i Bryan James am y manylion.
Byddwn yn cadw cysylltiad gyda Chrughywel a Threorci i gael diweddariadau ar eu cyfansymiau ‘rhedegol’, ond os yr ydych yn codi arian neu’n cyfrannu mewn ffordd arall, buasem, yn ogystal, yn hoffi clywed gennych – cysylltwch fel y gallwn rannu’ch stori Rygbi Cymreig.
Bu i 48 aelod o Pencoed redeg am 48 awr – codwyd £7000 ar gyfer unedau ICU lleol!
- O gwmpas rygbi Cymreig
YR ADEG HYN LLYNNEDD
Flwyddyn ymlaen o’r tlws cenedlaethol cyntaf ar gyfer Abergafeni ac Aberhonddu, bu inni gael sgwrs gyda’r ddau gyn-chwaraewr rhyngwladol sydd yng nghofal timau hyfforddi llwyddiannus y clybiau.
Serch chwarae ar y llwyfan rhyngwladol uchaf, y mae Nathan Thomas ag Andy Powell yn awr yn rhannu’u profiad a’u harbenigedd ar lefel arall o’r gêm – gan ganfod pleser personol mawr yn y broses.
Yn y gyntaf o’n cyfres dwy ran sy’n edrych yn ôl ar ddiwrnod Gemau Cenedlaethol olaf URC y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn clywed gan gyn chwaraewr rheng ôl Cymru, Nathan Thomas. Gyda crybwylliad arbennig i gyd-hyfforddwr Abergafeni, Simon Williams sydd, flwyddyn ar ôl codi’r plât ar hyn o bryd yn chwarae rôl pur wahanol ar Stadiwm y Principality – fel Rheolwr Cyfleusterau GIG ar Fwrdd Prosiectsy’n rhan o BIP Caerdydd a’r Fro’n Ysbyty Calon y Ddraig.
Darllenwch fwy yma: https://community.wru.wales/article/on-this-day-abergavenny-claim-bowl-honours/
PLÂT MJ
Ar gyfer rhan dau, mae cyfeillgarwch Andy Powell gyda Matthew J Watkins yn mynd yn ôl yr holl ffordd at yr adeg yr ymunodd gydag Ieuenctid Casnewydd ar ddechrau’i yrfa rygbi gyffrous:
“We were together at Newport for a few seasons before I went to France and then we were reunited at the Scarlets. We would share a lift and remained good friends.
“I look back at last season now and think it was just meant to be. I have a photo of Matthew, myself and our defence coach Matthew Lewis up in my house that I look at every night and have a little smile. Looking at that drives me on and I know he’d want me to go on and do well.
“I invited Matthew to become Brecon backs coach alongside myself and he just said ‘why not’. He embraced that challenge as he embraced everything that he was faced with…”
Darllenwch fwy yma: community.wru.wales/article/powell-the-plate-win-was-meant-to-be-for-matthew-and-brecon/
CAFODD YOGA HYN
Fel nifer o’i chyd–chwaraewyr, mae Alecs Donovan, chwaraewraig ryngwladol Merched Cymru’n brysur i ffwrdd o’r maes – yn ei hachos hi’n darganfod a redeg ei busnes yoga unigryw ei hun.
i Donovan, roedd dwy agwedd ei bywyd yn croesi’n gyson cyn i’r pandemig coronafeirws daro’r tymor yn galed. Cynorthwya’r canolwr gyda saith cap ag sydd yn awr yng ngharfan Saith pob Ochr Merched Cymru, chwaraewyr rygbi i fynd i’r lefel nesaf drwy ymgymryd â ‘yogability’ i’w sesiynau ffitrwydd.
Darllenwch fwy yma: www.wru.wales/2020/04/donovan-how-yoga-can-help-players-reach-new-heoghts
POTENSIAL SEREN
Ystyria Kayleigh Powell sgorio cais cyntaf Cymru’n Nghyfres Saith pob Ochr y Byd, dod yn chwaraewraig rynglwadol hŷn dros Gymru a chymysgu gyda Tom Daley yng Nghemau’r Gymanwlad fel rhai o’i chyrhaeddiadau mwyaf hyd yn hyn – ond mae llawer iawn mwy i ddod gan y seren ifanc.
Capiwyd y person 21 oed hyfryd gan Gymru y tymor hwn yn dilyn llwyddiant cyson oedd yn tynnu sylw i’r amgylchedd ryngwladol wedi iddi gael ei chyflwyno i’r gêm gan brifathro oedd yn ei hannog ac a oedd yn hyfforddwr rygbi – Mr Emmanuel o Ysgol Gynradd Llantrisant.
Darllenwch fwy yma: www.wru.wales/article/powell-excited-for-the-future/
DIM DAL CARTER YN ÔL
Gyda thaldra o 1.98m ac yn pwyso mymryn dros 116 kg (6t 6mod a 18st 4pwys yn yr hen arian), chwaraeodd ail reng y Dreigiau, Ben Carter yn ei ymgyrch Dan 20 gyntaf yn y Chwe Gwlad ynghynt eleni ac, yn syth, daeth yn rhan anatod i gynllun gêm prif hyfforddwr Cymru, Gareth Williams.
Yn dawel a hyfryd oddiar y maes, mae’n arweinydd a anwyd yn naturiol i’r rôl ar y maes, hyd yn oed os nad oes ganddo ‘C’ wrth ochr ei enw yn rhaglen y dydd gêm.
Cynrychiolodd y llanc 19 mlwydd oed ei wlad ar lefel Dan16, Dan18 a Dan19 a bu iddo fod yn gapten ar y ddau grŵp oedran hynaf gyda gallu arbennig.
Dechreuodd yr ymgyrch Dan 20 Chwe Gwlad yn 2020 yng Nghogledd Cymru wrth ochr Jac Price a oedd yn dychwelyd am ei ail ymgyrch yn yr ail reng.
Pan anafwyd loc y Sgarlets yn yr ail gêm yn erbyn yr Iwerddon, camodd Carter i fyny at y plât gan gymryd trosodd fel gwladgarwr hŷn yn ystafell y boiler yn hollol ddi-ymdrech pan ymunodd ei gyn gyd-chwaraewr Dan 18 oed Cymru, James Fender gydag ef.
Darllenwch fwy yma: www.wru.wales/article/unruffled-carter-proves-crucial-to-the-cause/
- Sylwadau Martyn Phillips
Mae rygbi Cymreig yn ffodus o dderbyn cefnogaeth gan ystod eang o fusnesau a chymdeithasau sy’n rhannu’n brwdfrydedd a’n hymrwymiad i’n gêm genedlaethol. Mae’r cwmniau hyn a’r cymdeithasau wedi sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda ni’n ystod yr amseroedd heriol hyn.
Mae’n cytundebau’n fwy na rhai o fudd trefniadol busnesaidd i’r ddwy ochr, nawdd neu ddeliau cyflenwi; maent yn bartneriaethau ac ni fu’r ystyr yna erioed yn fwy amlwg a miniog yn eu ffocws nag ydynt yn awr.
Cynorthwyodd NatWest URCdrwy leihau’r pwysau i ad-dalu benthyciadau gan glybiau a pharhâ Banc Barclays i fod yn hynod o gefnogol yn uniongyrchol i’r busnes ag i’r gêm gymunedol. Mae’r syrfewyr siartedig, Cooke & Artwright wedi bod yn ein cynorthwyo gyda materion o gwmpas trethi busnes ac rydym yn gwerthfawrogi am ymyrraeth Cronfa Gwytnwch Economaidd Llywodraeth Cymru.
Cefnogodd ein partneriaid Stadiwm Principality ni’n llawn brwdfrydedd wrth adeiladu, cynllunio a chynnal o’n Hysbyty Calon y Ddraig sydd yn awr wedi’i sefydlu yn ein stadiwm genedlaethol ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn hynod o gefnogol inni’n yr ardal yma. O Heineken, a dynnodd allan yn fuan gynnyrch o ardaloedd o gwmpas y stadiwm i gael eu gosod i ddefnydd newydd i gyflenwadau megis Britvic a Walkers, sydd wedi cyfrannu cynnyrch i’r GIG er sicrhau fod ganddynt snaciau a diodydd i’w cadw i fynd drwy’r cyfnod anodd yma.
Rydym yn falch o weithio gydachyflenwyr cymreig lleol a chyflenwyr rhyngwwladol, y cyfan wedi’n cefnogi a’n cynorthwyo tra yr oeddem yn trawsffurfio i’n gwedd newydd fel ysbyty newydd: bu i Castell Howell, Alex Gooch a Total Produce ein cynorthwyo gyda chyflenwad o fwyd i’r tîm a gynlluniodd a chyflenwi’r cymalau cyntaf o’r adeiladu. Cefnogwyd ni’n ogystal gan rai fel Uprise a Harlequin, sydd wedi symud ein holl drysorau ac yn eu cadw’n ddiogel tan yr adeg y dychwelwn i fod yn Stadiwm unwaith yn rhagor.
Cefnogwyd ni’n ystod yr wythnosau diwethaf gan Levy UK a gyflenwodd inni rai mewnweliadau allweddol ar draws eu grŵp o gwmnïau, yn ein cynghori ar faterion staffio, yn cefnogi gyda phrosiect yr ysbyty , yn sicrhau fod llinellau cyflenwi’n parhau’n agored gan ein blaenoriaethu pan oeddem eu hangen.
Parha clientiaid corfforaethol Stadiwm Principality i’n synnu’n fawr gyda’r gefnogaeth y maent yn ei roi inni. Rydym, wrth gwrs, yn hollol ymwybodol fod busnesau ledled y wlad yn profi amseroedd anodd iawn ac rydym ynddiolchgar am y lefel o onestrwydd a thryloywder o bob man yr ydym wedi bod yn rhan ohonno tros yr wythnosau diweddar.
Yn y gymuned rygbi, bu AON, ein brocer yswiriant, weithio’n galed gyda ni a’n clybiau sy’n aelodau i ddarparu cefnogaeth, ein prif bartneriaid, Admiral, Isuzu, Under Armour ag, wrth gwrs, Cymdeithas Adeiladu Principality i gyd wedi ceisio cynorthwyo’n yr amseroedd heriol hyn. Mae’r help yma’n aml wedi dod mewn ffyrdd sydd byth am dderbyn canmoliaeth gyhoeddus neu gydnabyddiaeth, gyda’r naill yn chwilio am gyhoeddusrwydd ac mae’n hynod o gadarnhaol i wybod mai dyma yw calibr cwmni sydd ‘gyda’n cefn’.
O’n cyflenwyr swyddogol S.A. Brains, Guinness, Dove Men+Care, Specsavers, Heineken, Grŵp Indigo a SP Energy Networks sy’n parhau i fod yn gefnogol yn ein awr o angen i’r rhai fel ein partneriaid darlledu megis y BBC a S4C, rydym oll yn edrych ymlaen at yr amser pryd y gallwn oll fwynhau cwmni’n gilydd gyda’n gilydd a dychwelyd i rygbi.
Ond, yn y cyfamser, gwerthfawrogwn yn fawr y buddsoddiadau y bu i’n partneriaid eu gwneud, ag yn parhau i’w gwneud, fel y gallwn ddarparu’r refeniw a’r gefnogaeth sydd wir ei angen i rygbi Cymreig.
Yn olaf, bragiwn am restr hirfaith o gyflenwyr swyddogol sy’n cynrychioli’r seiliau y bu inni gael ein hadeiladu arnynt: o PAS i Lywodraeth Cymru, ACE, Peter’s Pies, Mom’s, Princes Gate, Rhino, Sinclair Mercedes, Perform Better, Britvic, Gullivers Sports Travel, Events International, The Brogue Trader, Sportseen, TM Lewin, Total Gas & Power, Amber Energy, Ticketmaster, Gilbert a Fanatics, gellwch weld cymaint y gefnogaeth sydd y tu cefn inni a gobeithiaf fod hyn yn eich sicrhau fel ag y mae i mi.
Arhoswch yn ddiogel,
Martyn Phillips
PW URC