Neidio i'r prif gynnwys
Diweddariad statws URC 1/04/20

Diweddariad statws URC 1/04/20

Bu i glybiau’r wythnos hon ddarllen y newyddion am doriadau cyflog ar draws yr holl staff gan URC, gyda chyflogai hŷn, o Wayne Pivac i staff uwchraddol, oll yn unfrydol, yn derbyn toriad o 25%. Mae’r polisi hwn i fod i gael ei ymestyn i’r gȇm broffesiynol ar draws Cymru, gyda’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol, ar hyn o bryd, yn gweithio’n galed ar y manylion.

Rhannu:

Bu i staff eraill yn URC, unrhywun yn ennill tros 25k y flwyddyn, yn ogystal, dderbyn toriadau cyflog neu weithredu ar gynllun ‘furlough’ y llywodraeth. Ar draws y bwrdd, hoffwn fynegi 
gwerthfawrogiad Rygbi Cymreig i’r unigolion hyn sy’n gwneud aberthiadau personol yn enw 
sefydlogrwydd tymor hir ein gȇm. O gwmpas y wlad, cedwir ein gȇm clwb i fynd gan rwydwaith o wirfoddolwyr a fydd yn gwneud aberthiadau tebyg ac, yn aml, rhai dyfnach tros yr wythnosau nesaf neu wedi gwneud hynny’n barod.

Mae gennyf alwad cynhadledd yr wythnos hon gydag Uwch Bwyllgor Rygbi’r Byd pan fyddwn i gyd yn diweddaru i greu perspectif traws byd ar y sefyllfa bresennol ac, rwy’n siwr, y bydd trafferthion Rygbi UDA yn cael ei drafod. Ma’r amseroedd hyn yn rhai anghredadwy o anodd ag, mae’r ffaith fod bwrdd cyfarwyddwyr a chyngres rygbi UDA bleidleisio tros ffeilio am fethdaliad wedi ymchwilio i’r holl bosibiliadau eraill, yn dangos yr effaith gyllidol y gall mewnbwn ariannol wedi’i ohirio oherwydd mesurau coronafeirws ei gael.

Ond, yr ydym yn hyn gyda’n gilydd a, chyda’n gilydd, gallwn weithio trwyddo. Ein hamcan gydlynol yw sicrhau fod Rygbi Cymreig yn parhau’n gyfan trwy’r cyfnod presennol hwn o ddim gweithredu wedi’i osod arnom, fel y gallwn ail godi eto lle y bu ini adael, pan ddaw’r amser. Yr ydym yn gwneud yr oll y gallwn er sicrhau fod hyn yn digwydd ac rydym yn gwerthfawrogi cydweithrediad pawb fel yr ydym yn cymryd pob cam sydd ei angen er mwyn cyrraedd y bwriad hwn.

I chwi mewnrygbi,
 Gareth Davies


Cadeirydd URC

Cefnogaeth Clwb
O roi’r newid cyflym sydd i natur y cyngor sydd ar gael, sefydlwyd Grŵp Gwaith sydd mewn deialog 
gyson gyda phartneriaid allanol er sicrhau fod clybiau’n derbyn y newyddion diweddaraf a’r un 
cywiraf.

Un o argymhellion cyntaf y Grŵp Gwaith yw i gylchlythyru Arolwg Effaith Clwb yn y diweddariadau 
gwybodaeth wythnosol a ddarperir gan y Tîm Datblygiad Clwb er mwyn deall yn well yr heriau 
penodol a wynebir gan bob un o’n clybiau.

Rhoddodd y diweddariad gwybodaeth clwb a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf fanylion pellach 
o’r camau brys y gall clybiau eu cymryd i leihau costau sy’n parhau. Rhoddir arweiniad yn ogystal ar y 
dewisiadau cyllidol i’r tymhorau canol a hir a mesurau arbedion y gallai clybiau eu hystyried o bosibl. 
Bydd y mwyafrif o’r clybiau yn addas erbyn hyn i ystyried Cymorthdaliadau Busnes dewisol a 
rhanwyd gwybodaethau o sut y gellir gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol ar gyfer pecynnau 
Llywodraeth Cymru.

Dylai Clybiau hefyd fod yn ymwybodol o’r help sydd ar gael gyda benthyciadau presennol a 
chynlluniau newydd ar gyfer busnesau, ochr yn ochr ȃ’r rhaglowg y delir TAW yn ôl trwy HMRC. 
Parhawn i weithio ar ein rhagolygon cyllidol sy’n ei gwneud yn glir fod y sefyllfa’n heriol. Os y daw 
unrhyw gyllid uchwanegol yn rhydd ar gyfer clybiau gan URC i’r dyfodol, bydd yn hollbwysig i glybiau, 
yn y lle cyntaf, arddangos eu bod wedi defnyddio’n llwyr yr holl gyfleon i gael mynediad at gyllid o 
wahanol gynlluniau’r llywodraeth sydd wedi’u cyfathrebu.

Dylid nodi y bydd unrhyw gyllid i’r dyfodol yn ddibynnol ar i hyn gael ei arddangos. 
Am wybodaeth bellach neu i ddilyn i fyny neu wirio unrhyw fanylyn, buasem yn annog yr holl glybiau 
i barhau i gysylltu gyda’r Tîm drwy’r ddesg gymorth: clubdevelopment@wru.wales

Defnydd o Swyddog Hwb Cenedlaethol
Mae gennym 45 o Swyddogion Hwb sydd, ar hyn o bryd, yn gweithio fel Gweithwyr Cefnogi 
Allweddol o mewn eu sefydliadau addysgol eu hunain, cyrchfannau Hwb canolog neu wedi’u 
cofrestru i gefnogi safleoedd a grewyd gan Awdurdodau Unedol. Cynnwys hyn swyddogion sy’n 
ymwneud ȃ rhannu prydau’n eu cymunedau i’r bregus, darparu gweithdrefnau Dosbarthiadau 
Google i ddisgyblion ysgol a darparu cefnogaeth i ddatblygiad Clwb URC. Ail restrwyd un swyddog 
gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fel ag i gefnogi gwaith GIG a hoffem ddiolch ir holl unigolion am 
eu hymrwymiad parhaus.

Ffitrwydd Cymuned a chynlluniau Bwyta’n Iach


Yr wythnos hon, cyhoeddodd tîm perfformiad corfforol Undeb Rygbi Cymru, arweinir gan Paul 
Stridgeon, ddogfen gynhwysfawr a gynlluniwyd i gadw rygbi Cymreig yn ffit ac yn iach yn ystod yr 
amseroedd anodd hyn. Ar ffurf arweiniad pdf y mae’r ddogfen, gyda phedair adran sy’n targedu’r 
oedolyn a’r plentyn (12 i 16 oed), gweithredoedd ffitrwydd a maeth.

Tynna’r tîm sylw ei bod yn allweddol ein bod i gyd yn cadw’n heini’n ystod yr amser heriol yma er 
mwyn gwarchod a chadw llesiant meddwl a chorff da a lluniwyd rhaglenni ymarfer y gellir eu 
gweithredu gartref gydag ond ychydig, neu ddim cyfarpar. Bu iddynt hefyd ychwanegu peth 
arweiniad ar faeth a fydd yn eich cynorthwyo i gadw’n ffit ag yn iach tros yr wythnosau nesaf. Rhai 
sylfaenol yw’r rhaglenni ag mae ganddynt wahanol ddwyseddau ar gyfer lefelau ffitrwydd gwahanol i 
bob gallu a gellir eu canfod yma ar bit.ly/WRUStayActive


Arlein yn ogystal, hoffem dynnu’ch sylw at y safle gyfeiriadau  ‘game locker a’r dosbarth digidol’, lle y 
parheir i osod cynnwys ar gyfer defnydd gartref:

Yn barod, mae gan y ‘Game Locker’ gyfoeth o gynnwys lle y gall clybiau gan mynediad ato, fodd bynnag, cynnwys Newydd yw: 
‘Stay Home, Stay Active’, ‘Scorch activity packs’ a fideos gweithredoedd ‘Short ‘Garden Rugby’ 
I’w llwytho’n fuan:

Digwyddiadau DPP ar gyfer hyfforddwyr ar ffurf webinarau (dyddiadau i’w cadarnhau)
Cynnwys dysgu o bell newydd ar gyfer hyfforddwyr yn ystod y pandemig Coronafeirws
Cyrsiau dosbarth Google i gynorthwyo ymarfer ffurfiol penodol wrth baratoi at ddychwelyd i hyfforddi.
Yn benodol, hyfforddwyr yn trawsnewid o rygbi di-gyswllt, Dan 8 i rygbi cyffwrdd Dan 9
Ymwelwch ȃ ‘Game Locker’ yma: https://www.wrugamelocker.wales/

Gellir cael mynediad at ‘Dosbarth Digidol URC’ gan yr holl ysgolion, sydd ond eisiau arwyddo i mewn 
gan ddefnyddio fideos tiwtorial ‘How to’ (bydd hyn yn debygol o fod yn fyw erbyn diwedd yr 
wythnos), gyda’r mynediad wedi’i basio ‘mlaen at holl Swyddogion Hwb URC er mwyn eu 
cynorthwyo’n y gweithle tra’n gofalu am blant ysgol gweithwyr rheng flaen.
Tudalen arwyddo i mewn i ‘WRU Digital Classroom’: https://signup.wruschools.co.uk/

Fel y crybwyllwyd uchod, bu inni gyhoeddi mesurau pellach i leihau costau yn ystod y cyfnod
presennol o ddi-weithredu’n y gȇm yng Nghymru.
Heb unrhyw ddigwyddiadau’n y stadiwm ar hyn o bryd a phwysau ar afonydd incwm arall, a dilyn adolygiadau dwfn o ddyddiadau ‘dychwelyd i rygbi’ posibl, gweithredwyd ar gynllun cynhwysfawr ar gyfer arbedion costau.
Mae’r rhan gyntaf o’r cynllun hwn,sef, lleihau yr hyn sy’n mynd allan ac adolygiad o brosiectau sy’n parhau eisoes wedi dod ag arbedion ariannol i URC. Cynhwysai rhan dau adolygiad o gostau staff.
Bydd staff rygbi hŷn, gan gynnwys y prif hyfforddwr, Wayne Pivac, a phrif swyddogion URC, yn
cynnwys y Prif Weithredwr, Martyn Phillips, yn cymryd gostyngiad o 25% i’w cyflogau.
Yn ôl anghenion busnes, bydd staff eraill yn cymryd gostyngiadau tȃl o naill ai 25% neu 10% gyda’r gwahaniaeth, yn fras, yn cael ei adnabod gan faint y mae eu rolau’n ymwneud yn uniongyrchol gyda rygbi proffesiynol.
Gweithredir ‘Furlough’, yn ôl cynllun Cadw Gwaith y Llywodraeth,lle bo hynny’n gymwys tan
ddiwedd Mai.
“Fe’m trawyd gan ymdrechion ag agweddau holl staff URC yn ystod y creisis hwn,” meddai Prif
Weithredwr Grŵp URC, Martyn Phillips.
“Fel y mae busnesau ar draws y wlad yn wynebu problemau anodd tebyg, gwnaethpwyd
mabwysiadu’r polisi newydd hwn yn fwy heriol gan pa le bynnag yr edrychwch, gwelir fod pawb yn URC wedi addasu a ‘torchi’u llewys’.
“Fodd bynnag, bu inni gymryd y camau hyn gyda’r amcan o gadw swyddi ac arbed iechyd tymor
canol a hir y gȇm yng Nghymru. Rydym yn parhau i ffocysu ar ein bwriad i ddod allan ar yr ochr arall i’r creisis hwn.
“Parhawn gyda’n deialog gadarnhaol gyda’r Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymreig (CCRC) a’r Rhanbarthau. Cynnwys hyn gyfnewid gwybodaethau gyda CCRC, yn enwedig o gwmpas y cyllido cymhleth sydd ynghlwm, fel y gall yr holl ochrau ddod at benderfyniadau gwybodus. Gweithiwn mor gyflyn ȃ phosibl i ddod a hyn i ddiwedd”.

Gweithio gyda GIG

Mae’r gwaith yn parhau ar droi Stadiwm y Principality i Ysbyty Cae tros dro fydd yn gweithio’n llawn er mwyn darparu o gwmpas 2,000 o welyau ychwanegol i GIG Cymru fel rhan o gynllunio sefyllfa gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Gweithia Clinigwyr a Rheolwyr ar hyn o bryd gyda thîm Stadiwm y Principality ag ystod o gontractwyr arbenigol i greu’r adnodd newydd yn gyflym.

Dechreuodd y gwaith yn barod gyda thimau wedi’u gosod i addasu cartref rygbi Cymreig i ysbyty tros dro – tasg sylweddol mewn maint ag amseriad y feirws.

“Bu inni ryddhau’r hol Stadiwm y Principality Stadium i’w defnyddio ar sail anghenion GIG, yn cynnwys ardaloedd lletygarwch ac amrywiaeth o ystafelloedd eraill ac adnoddau,” meddai Prif  Weithredwr URC, Martyn Phillips.

“Mae’n fraint gallu cynnig ein gwasanaeth, cyfarpar a chryn nifer o staff gweithredol, yn ôl eu dewis eu hunain, i gynorthwyo’n ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol.

“Bu inni wneud cynlluniau pell gyrhaeddol i drawsnewid gwagleoedd perthnasol i ysbyty fydd gydag amgylcheddau llwyr weithredol, gan weithio’n agos gyda Levy UK, sy’n gyfrifol am oruchwylio trawsnewidiadau tebyg eraill.”

Bu i staff gweithredol yn Stadiwm y Principality dderbyn cynnig o’r cyfle i barhau i weithio’n llawn amser wrth gefnogi staff GIG fel y trawsffurfir y maes cenedlaethol.

Yn ogystal, dechreuodd gwaith ar osod ysbyty maes arall yn The Vale Resort, Hensol, ar safle Canolfan Arbenigrwydd Genedlaethol URC, gyda diolch i haelioni Leekes. Bydd hyn yn darparu 290 o welyau ychwanegol inni fe y cynydda’r niferoedd o bobl gyda COVID19. Llunir y safle gyda chefnogaeth ein hawdurdodau lleol a’r lluoedd arfog, a chontractwyr ffantastig.

“Mae cyflymder ag effeithiolrwydd trawsffurfiad ein stadiwm i ysbyty ond yn un enghraifft o waith caled ac ymroddiad ein tîm,” ychwanegodd Phillips.

“Yr wyf yn gwybod y bydd caledi i fyw trwyddo, ond, yn gyfartal, rwyf yn gwybod fod gan ein holl staff y diddordeb a’r awydd gorau bosibl i rygbi Cymreig a’r gymuned ehangach yng Nghymru yn eu calonnau ac y deuwn trwy’r amseroedd caled hyn gyda’n gilydd.

“Bu inni weithio gyda Leekes mewn partneriaeth am sawl blwyddyn yn y Ganolfan Arrderchogrwydd Genedlaethol. Rydym yn fwy na balch i’r adnoddau yno gael eu defnyddio gan y Bwrdd Iechyd ar yr amser heriol yma ac i gefnogi cymunedau ehangach Cymru.”

Dywedodd Dr Sharon Hopkins, Prif Weithredwr BIP Cwm Taf Morgannwg: “Rydym yn werthfawrogol o bawb sydd wedi cefnogi’r ymateb i her COVID19. Parha’r ymateb i fod yn anhygoel.

‘Mae URC a Leekes, yn garedig, wedi caniatau inni ddefnyddio eu cyfleusterau, sy’n cael ei groesawu’n fawr fel y aiff gwaith hynod gyflym ymlaen i gynyddu staff sydd ar gael, gwelyau a chyfarpar. Mae cefnogaeth y lluoedd arfog ag awdurdodau lleol mor bwysig wrth drawsffurfio’r gwagleoedd a gwneud y newidiadau sydd eu hangen.

“Bydd yr ysbytai maes yn holl bwysig wrth ddarparu gofal i gleifion a chymunedau tros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae’n enghraifft galonogol o gymdeithasau’n gweithio’n gydlynol i ddarparu amgylchfeydd gwir angenrheidiol er mwyn ymateb i COVID.”

Rygbi

Parhawn i weithio gyda chystadlaethau rygbi pro i gydlynu gemau a chynllunio ar gyfer a pha bryd y gellir chwarae rygbi eto.
Y digwyddiad diwethaf i’w ohirio, wed ii glybiau sywi’r wythnos ddiwethaf, oedd ‘Dydd y Farn’, ond mae’r gair gohirio’n un o bwys yma.

“Mae ‘Dydd y Farn’ y math o ddigwyddiad allai ffitio’n bur rwydd i dymor wedi’i ail drefnu, ffordd dda i ddechrau unrhyw ail gychwyn chwarae, er enghraifft,” ychwanegodd Phillips.

“Fel gyda gȇm Chwe Gwlad yr Alban, anogwn yr holl gefnogwyr i gadw’u tocynnau am yn awr, ond bydd ad-daliadau ar gael os y byddwn yn ail-drefnu ac na allwch wneud yr amser newydd, ond, am yn awr, gobeithiwn am ail gychwyniad rygbi’n weddol fuan, gan roi’r cyfle i ail-weithredu’r holl docynnau.”

Ac yn olaf, yr ystadegau Gyda’r ffeithiau a’r ystadegau olaf i mewn erbyn hyn, llongyfarchiadau i Billy McBryde, a gwblhaodd tymor Uwch Gynghrair y Grŵp Indigo 40 pwynt yn glir o’i wrthwynebydd agosaf yn y ras am deitl sgoriwr arweiniol yn yr ymgyrch wedi’i chwtogi.

Llwyddodd y cyn hannerwr tros Gymru Dan 20 i sgorio 163 pwynt tros RGC fel y cwblhaodd 50 gȇm yn ddi-dor.
Rhoddodd hynny ef tipyn ar y blaen i brif sgoriwr 2018/19, Jack Maynard o Aberafan gyda 148, ac roedd ganddo bum gȇm arall i’w chwarae.

Y gogleddwyr oedd yr arweinwyr o ran sgorio pwyntiau a cheisiadau yn yr Uwch Gynghrair gyda 409 a 53 yn ôl eu trefn. Cadwodd hynny hwy ychydig ar y blaen i arweinwyr y tabl, Caerdydd, chwe lleoliad yn uwch na hwy, serch iddynt chwarae un gȇm yn fwy na’u gwrthwynebwyr o Barc yr Arfau, a orffenodd gyda 392 pwynt a 50 o geisiadau.

Cynhwysai cyfanswm McBryde chwe cais – dau’n brin o asgellwr Pontypridd, Dale Stuckey, oedd ar ben y tabl gydag wyth. Dyma’r ail dymor yn olynol i asgellwr o Ponty hawlio’r anrhydedd, gydag Alex Webber yn rhedeg i ffwrdd gyda’r gong llynedd.
Un cais tu ôl i Stuckey oedd bachwr Cwiniaid Caerfyrddin, Torin Myhill, a hawliodd ei geisiau ar gefn moliau gyrru ardderchog ei ochr, tra y bu i asgellwyr RGC, Afon Bagshaw a Rhys Tudor hefyd orffen gyda saith ardderchog.

Caerdydd gwblhaodd y tymor saith pwynt yn glir o’r Cwiniaid wedi chwarae un gȇm yn llai. Roedd Aberafan un pwynt ymhellach yn ôl yn drydydd, gyda’r un nifer o gemau wedi’u chwarae a’r Glas & Duon.





Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Diweddariad statws URC 1/04/20
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Diweddariad statws URC 1/04/20
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Diweddariad statws URC 1/04/20
Rhino Rugby
Sportseen
Diweddariad statws URC 1/04/20
Diweddariad statws URC 1/04/20
Diweddariad statws URC 1/04/20
Diweddariad statws URC 1/04/20
Diweddariad statws URC 1/04/20
Diweddariad statws URC 1/04/20
Amber Energy
Opro
Diweddariad statws URC 1/04/20