Bydd rhaglen arbennig S4C yn edrych yn ôl ar gêm rygbi rhyfeddol a drefnwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant mudiad yr Urdd. Ar 26 Ebrill 1972, daeth sêr disgleiriaf dimau rygbi Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon at ei gilydd yng Nghaerdydd i chwarae mewn gêm elusennol i gefnogi Jiwbilî hanner can mlynedd Urdd Gobaith Cymru ac i ddathlu taith lwyddiannus y Llewod y flwyddyn flaenorol.
Ac am y tro cyntaf ers y darllediad gwreiddiol, bydd uchafbwyntiau estynedig o’r gêm yn cael eu dangos eto, yn y rhaglen Urdd 50: Barry John XV v Carwyn James XV, i’w gweld ar nos Fawrth 26 Mai am 9.00, ar S4C.
Tra bod gwirfoddolwyr yn prysur drefnu’r gêm, fe ddisgynnodd y cyfrifoldeb o ddenu chwaraewyr ar ysgwyddau dau fab o Gefneithin, a dau o gyn aelodau’r Urdd – Barry John a Carwyn James – a ni wnaethon nhw siomi.
Gyda Barry yn gapten ar dîm o sêr rygbi Cymru, a Carwyn yn hyfforddi tîm o fawrion gwledydd eraill ynysoedd Prydain ac Iwerddon, roedd 22 o’r chwaraewyr yn aelodau o garfan y Llewod a lwyddodd i ennill draw yn Seland Newydd yn Haf 1971, gan gynnwys y capten, John Dawes, Gareth Edwards, J.P.R Williams, David Duckham, Peter Dixon, Gordon Brown a sawl un arall.
Dywedodd John Evans, ysgrifennydd a threfnydd ar bwyllgor y digwyddiad: “Naw ohonom ni oedd ar y pwyllgor, llond dau ddwrn o bobl, ac mi oedd pawb yn mor weithgar. Y trefniadau gwreiddiol oedd bod y gêm yn cael ei chwarae ar gae Caerdydd, Parc yr Arfau, ac ar y pryd roedd pawb yn hapus iawn gyda hynny.
“Roedd angen i ni argraffu’r tocynnau, ac mi roeddwn ni’n meddwl mai rhywle rhwng deuddeg a deunaw mil, ar y mwyaf, fyddai eisiau dod i’r gêm. Ond ar ôl i’r datganiad fynd i’r wasg, o fewn pythefnos roedd yr holl docynnau wedi eu gwerthu. Wrth gwrs, roedd cefnogwyr rygbi cyffredin yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod nhw’n cael gweld Llewod Carwyn a Chymru, ar nos Fercher yng Nghaerdydd! Ond wedyn, fe benderfynwyd gofyn i’r Undeb os gawn chwarae’r gêm ar y maes cenedlaethol, drws nesaf.
Yn sgil y galw aruthrol, fe wnaethpwyd cais i chwarae’r gêm yng nghartref tîm rygbi Cymru; fe gytunodd Undeb Rygbi Cymru a chlwbiau Cymru yn unfrydol i ganiatáu’r gêm i gael ei chwarae ar y Maes Cenedlaethol. Ym mhen dim, roedd cartref Trysorydd Cenedlaethol yr Urdd, Bob Roberts, a’i wraig Ann, wedi ei droi mewn i’r “swyddfa brysuraf yng Nghaerdydd,” yn ôl Prif Weithredwr y mudiad ar y pryd, R.E.Griffith.
Dywedodd Ann Roberts: “Roedd yr holl ddiddordeb yn y gêm yn anhygoel, i ddweud y gwir. Roedd aelodau o’r aelwyd yn dod drosodd i’n tŷ ni bob nos i fynd drwy’r holl geisiadau am docynnau, a pharatoi i anfon tocynnau i bawb oedd wedi eu harchebu. Ac yn y fan yna fuon ni am dri mis llawn.
“Doedd y ffôn byth yn stopio. Roeddwn i’n gweithio fel athrawes ar y pryd, ac mi oeddwn i’n dod adref amser cinio i ateb y ffôn – roedd e’n canu’n ddi-stop. Fe gymerodd dros ein bywydau, yn sicr, ond mi gawsom ni lot mawr o hwyl a llawer iawn o bleser.”
Ychwanega John Evans: “Roedd rhaid cysylltu efo pob un o’r chwaraewyr, ysgrifennu atyn nhw, trefnu popeth. Chwaraewyr o Loegr, Yr Alban, Iwerddon ac wrth gwrs Cymru. Roedd David Duckham yn dod i lawr o Salford, er enghraifft. Gêm yr amaturiaid oedd e’r adeg hynny, felly dim ond treuliau roedd pawb yn gofyn amdano. Ac ar ddiwedd, mi gawsom y cwbl lot ynghyd yng Nghaerdydd, ar noson fwyn o Ebrill, ac mae’r dyddiad yn fy mhen i o hyd ac o hyd.”
Fe dalodd waith caled yr Urdd ar ei ganfed. Fe werthwyd 35,000 o docynnau i’r gêm gan godi £15,000 i’r mudiad. Fe ddaeth yr achlysur sylw i’r mudiad yn y wasg ac ar deledu yn ogystal, gyda’r rhaglen BBC, Sportsnight with Coleman, yn dangos uchafbwyntiau o’r gêm.
Efallai’r peth mwyaf arwyddocaol am y gêm o safbwynt cefnogwyr rygbi, yw mai dyma oedd gêm olaf yng ngyrfa Barry John. Naw ddiwrnod wedi’r gêm, fe gyhoeddodd ei bod yn rhoi’r gorau i chwarae. Ond am gêm ryfeddol i orffen ei yrfa. Fe ddisgleiriodd yr holl sêr, gan sgorio ceisiau godidog a thaclo’n ffyrnig a ddigyfaddawd. Ond, a enillodd Barry John yn ei gêm olaf erioed? Bydd rhaid gwylio’r rhaglen, Urdd 50: Barry John XV v Carwyn James XV, i weld.
Meddai Dyfrig Davies, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru: “Roedd hon wir yn gêm ac achlysur gwbl unigryw a lwyddodd i ddenu cyhoeddusrwydd pell gyrhaeddol i’r Urdd. Mae’n bwysig ein bod ni’n cofio cyfraniad anhygoel y bobl a drefnodd popeth, gan gynnwys cadeirydd pwyllgor y digwyddiad, Dewi Bebb, ac wrth gwrs, Llywydd Anrhydeddus yr Urdd, y diweddar Bob Roberts, a fu farw cwta fis yn ôl, a’i wraig Ann. Rydym yn falch iawn i weld y bydd S4C yn dangos y gêm unwaith eto, mae’n deyrnged cwbl addas i waith Bob Roberts dros fudiad Urdd Gobaith Cymru.”
Urdd 50: Barry John XV v Carwyn James XV
Nos Fawrth 26 Mai, 9.00
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill