Diweddariad statws URC 06/05/2020
Mae’r sefydliadau gorau’n chwarae at gryfderau’r unigolion sydd y tu mewn iddynt.
Er enghraifft, yn Undeb Rygbi Cymru, mae’n Bwrdd yn y pen draw’n gyfrifol am Lywodraethiant ein gêm, ond rydym, i raddau helaeth, yn ddibynnol ar ein staff gwaith a’n PW i weithredu’n strategaeth yr ydym wedi cytuno arno gyda’n gilydd.
Dyma’r wedd fodern a phroffesiynol ac mae’n un sy’n cael ei hadlewyrchu ar lefel gymunedol gyda chlybiau o gwmpas Cymru’n gwneud yr hyn a wnaent orau gan gael eu cefnogi gan yur Undeb.
Fel na fyddai neb yn dewis pymtheg mewnwr i wneud tîm rygbi, mae gennym oll ein gwaith i’w wneud a’r tric yw llwyddo i gael yr unigolion cywir i rolau neilltuol.
Mae gan y pwynt hwn berthnasedd i etholiadau diweddar ar brif fwrdd y gêm.
Yn gyntaf, fod yr ornest am y cadeirydd a’r is-gadeirydd nesaf o Rygbi’r Byd, a enillwyd gan Bill Beaumont a Bernard Laporte yn ôl eu trefn, yr wythnos hon ddim yn foment drws llithr i’r gêm.
Nid oedd unrhyw fforch yn y ffordd i’n harwain y ffordd yna neu’r llall; dim dewis du a gwyn rhwng Bill a’i wrthwynebydd, Augustin Pichot; dim ond dau ymgeisydd galluog a chyraeddadwy gyda dyheadau tebyg a’r brwdfrydedd i warchod dyfodol rygbi ac, yn bwysig, gyda thîm sefydlog o bobl broffesiynol o’u cwmpas.
Bu i’r ddau ymgeisydd siarad yn ddifrifol am adolygiad llywodraethiant y gêm yn eu maniffestau a dyma lle y bydd cyrhaeddiad yn digwydd. Dyma lle y gall y tîm o gwmpas y cadeirydd gael teimlo’n gryf a’u harfogi yn niddordebau cydlynol y gêm. Mae peth moderneiddio eisoes wedi’i gyrraedd a gwnaethpwyd llawer o waith da’n yr ardal hon, ond, mae mwy i ddod a hwn fydd y mater a ddiffinia rygbi tros y blynyddoedd nesaf.
Yn ail, neu hwyrach yr un pwynt mewn termau gwahanol, y cadeirydd yw’r prif gymeriad ond ymdrech tîm yw llywodraethiant dda. Dylai Pwyllgor Gwaith Rygbi’r Byd deimlo’r un pwysau o gyfrifoldeb a’i gadeirydd, gan fod yr un mor atebol, ac yn awr, yn wir, yw’r amser i’r holl dîm mewnol gamu i fyny.
Fel ag y dywedwyd yn barod, mae gennym gyfle euraidd o’n blaenau – wedi’i gyflwyno gan y creisis cyfredol – i osod calendr global newydd, sy’n gwrthweithio’n erbyn gwrthdrawiadau rhwng y gêm ryngwladol â’r tymor clwb proffesiynol. Gallwn rannu’r flwyddyn yn flociau a chanfod rhestr gemau a fydd yn iawn i bawb.
Os oes unrhyw benderfyniad yn arwain i gadwyn o ddigwyddiadau a fydd yn newid y gêm am byth, er gwell, yna, hyn ydyw.
Yr eiddoch mewn rygbi,
Gareth Davies
Cadeirydd URC
Covid 19 – y gobaith o ddychwelyd i chwarae
Hwyrach y bu i glybiau ddarllen canllawiau Rygbi’r Byd ar gyfer dychweliad diogel i weithredoedd rygbi trwy ei safwe llesiant chwaraewyr gyda manylion llawn yma: playerswelfare.worldrugby.org/covid-19.
Dylid darllen yr arweiniad ar y cyd â rheolau a pholisiau a ddefnyddir gan awdurdodau llywodraeth neu iechyd cyhoeddus lleol mewn perthynas â COVID-19, gan gynnwys cyfyngiadau casglu cyhoeddus, ymbellhau a chyfyngiadau cymdeithasol, a byddent yn cael eu defnyddio gan URC i helpu diffinio polisi pan fydd yr amser yn iawn.
Amlinella’r ddogfen fanwl fynediad araf ond cynyddol i ddychwelyd i ymarfer a chwarae. Datblygwyd yr arweiniad yn llawn mewn cydweithrediad llwyr â Phrif Swyddogion Meddygol Undebau, gan gynnwys Prav Mathema (URC),y Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Rhyngwladol ac arbenigwyr heintiau heintus. Mae’r ddogfen yn cydfynd gyda Sefydliad Iechyd y Byd.
Darpara adran gyntaf y canllawiau wybodaeth i bawb sy’n ymwneud â’r gêm yn cynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a staff gweinyddu.
Cyllidebau Clwb
CRONFA GWYTNWCH ECONOMAIDD LLYWODRAETH CYMRU
Bu i nifer o glybiau a ymgeisiodd yn fuan i’r Gronfa Gwytnwch Economaidd yn awr yn derbyn taliadau gan lywodraeth Cymru. Oherwydd nifer y ceisiadau, bu seibiant yng nghweithrediad y Gronfa er mwyn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried pa gefnogaeth arall sydd ei angen ar fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol. Argymhellir eich bod yn parhau i fonitro safwe Busnes Cymru am ddiweddariadau pellach.
ARWEINIAD CLWB
Tros yr wythnosau nesaf, byddwn yn darparu set o ganllawiau hawdd i’w dilyn yn uniongyrchol i glybiau ar ystod o destunau parhăd busnes.
Yr wythnos ddiwethaf, ein ffocws oedd ar gynorthwyo clybiau i gael mynediad at holl gefnogaeth ariannol oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac adnabod y rhai a ‘oedd yn syrthio drwy’r craciau’ ar gyfer cyllid.
Yn ‘Canllaw Clwb 1’, gofynwyd i glybiau i ddilyn y siart llif a baratowyd i ddarganfod cymhwysedd i naill ai Cynllun Cefnogaeth Busnes y Llywodraeth a weinyddir gan Awdurdodau Lleol neu’r Gronfa Gwytnwch Economaidd. Hyd at hyn, bu inni ddrbyn 15 ymateb gan glybiau sy’n mynegi eu bod yn methu a chael mynediad at gefnogaeth ariannol. Os y bu i chwi benderfynu eich bod yn anghymwys ar gyfer cyllido, yna, os gwelwch yn dda, gadewch inni wybod hynny mor fuan ag sy’n bosibl.
Yr wythnos hon, rhanwyd ‘Canlaw Clwb 2’ yn uniongyrchol i Ysgrifenyddion Clybiau – mae’n ffocysu ar y cynllunio cyllidol ar gyfer y misoedd nesaf y dylai’ch clwb ei wneud yn awr gan gyfeirio at yr ardaloedd allweddol canlynol: darogan Cyllidol, Rheoli taliadau allanol, Cyfloedd i switsio neu ail negydu cytundebau a thariffiau. Dewch i gysylltiad, os gwelwch yn dda, os yr hoffech gymorth pellach ar y pwnc yma.
Rhoddion peli Gilbert
Gall plant a phobl ifanc yng Ngymru gadw’n actif gartref yn ystod cload u coronafeirws diolch i rodd y peli Gilbert.
Mae URC wedi rhoddi 130 o beli Gilbert sbâr i’w rhannu i deuluoedd o gwmpas Cymru mewn ymgais i helpu cadw pobl yn ffit ac actif gartref.
Gwnaethpwyd y rhodd fel rhan o’r ymateb parhaus i’r creisis coronafeirws gan ychwanegu at amrywiaeth o gymunedau’n ymestyn allan i geisio cadw teuluoedd, plant a phobl ifanc yn hapus ac actif yn ystod y cyfnod cload anodd hwn gan gynnwys cyfres o arweiniadau i weithgareddau’n yr ardd.
Gall cefnogwyr rygbi sy’n chwilio am ffyrdd o aros yn actif gartref ganfod mwy drwy ymweld âhttps://www.wrugamelocker.wales/en/resources-and-videos/resources/wru-activity-stayhomestaysafe/
Cefnoga’r rhodd yr ymgyrch StreetGames’§SportHelps – ymdrech genedlaethol i ddarparu ffyrdd gwahanol i bobl ifanc o gymunedau dan anfantais i aros yn actif gartref yn absenoldeb sesiynau chwaraeon rheolaidd. Mae’r elusen yn cadw trosolwg ar y rhaniad o’r peli rygbi rhoddedig mewn cydweithrediad â chlybiau chwareon cymunedol ar draws Cymru a byddent yn mynd allan gyfochr â pharseli bwyd ac angenrheidiau eraill.
Mae’r ymgyrch §SportHelps – drwy bartneriaethau gyda sefydliadau chwaraeon, grwpiau cymunedol a busnesau’n helpu pobl ifanc a’u cymunedau frwy ddraparu adnoddau, anghenion a chyngor er gwella iechyd meddwl a llesiant corfforol yn ystod y pandemig presennol.
Newyddion Rygbi
GWREIDDIAU LOUIS
Dychwelodd Louis Rees-Zammit i’w wreiddiau rygbi i sicrhau ei fod yn dod allan o’r cload mor finiog ag erioed.
Mae’r hedfanwr o Gaerloyw wedi bod yn ymarfer yn y parc ar draws y ffordd o’i gartref newydd yng Nghaerdydd – un y mae’n ei rannu gyda’i frawd mawr, Taylor, fel yr ymgeisia i gadw’r cyflymder a aeth ag ef i ben siartau sgorio Uwch ~Gynghrair Gallagher ac at erchwyn ei gap cyntaf tros Gymru.
Mae Meysydd Pontcana gyda lle arbennig yn ei galon gan mai ar yr union feysydd y mae’n rhedeg o’u cwmpas yn awr y bu iddo afael mewn pêl rygbi gyntaf a chymryd ei gamau cyntaf fel aelod o Adran Iau yng Nghlwb Rygbi Llandaf.
Hwyl yn unig oedd hynny tra, yn awr, mae rygbi’n fusnes difrifol i’r arddegyn talentog sydd wedi ysgwyd y gêm drwyddi eleni.Dylai fod yn edrych ymlaen am daith i Siapan a Seland Newydd yr haf yma ond, yn hytrach, gadawyd ef i ystyried pa bryd y gall ddychwelyd i chwarae.
Darllenwxh fwy yma: www.wru.wales/article/rees-zammit-turns-back-time-to-advance-from-lockdown/
COLLI WAYNE?
Cyfle i glywed yn faith gan hyfforddwr cenedlaethol Cymru, Wayne Pivac, ar bodcast Undeb Rygbi Cymru’r wythnos hon.
Felly, beth y mae chwaraewyr Cymru’n ei wneud yn ystod y cload, sut y bydd yn teimlo wrth ddychwelyd i Stadiwm Principality, beth am y gohiriad o gêm yr Alban, sut y gall rygbi ddefnyddio’r amser hwn i ddod allan yn gryfach – a faint o amser fydd y chwaraewyr ei eisiau i fod yn ôl i ymarfer cyn y gallent ail ddechrau chwarae gemau rhyngwladol eto?
Gwrnadwch ar Wayne Pivac ar y podcast URC wythnosol yma: www.wru.wales/audio/welsh-rugby-union-podcast-18-2020/
SEREN YN HWYR YN CODI
Cara Jac Morgan yrawr ychwanegol neu fwy wrth aros yn ei wely bob bore’n ystod y cload, ond, yn gyfrinachol, ni all aros i ddychwelyd i ymarfer amser llawn gyda’r Sgarlets.
Dylai Capten Dan 20 Cymru fod wrthi’n paratoi i gyfeirio’i gamau tuag at yr Eidal ar gyfer Pencampwriaeth Dan 20 Rygbi’r Byd yr haf yma. Yn hytrach, mae’n paratoi ar gyfer yr ornest i gael lle rheng-ôl ar Baec y Sgarlets fel y mae’n camu’n amser llawn i rygbi hŷn.
Wedi ennill 15 cap ar lefel Dan 20, yn ogystal â nifer ar lefel Dan 18, nid yn unig fe brofodd ei hun i fod ymysg y talentau gorau mewn rygbi graddfeydd oed yng Nghymru tros y dair mlynedd ddiwethaf, ond, yn ogystal, yn hemisffer y gogledd.
Mae’i droadau trosodd nodweddiadol tros Gymru, Aberafan a’r Sgarlets wedi bod yn hynod o werthfawr i’w dimau ac maent wedi’i farcio fel chwaraewr rhyngwladol hŷn i’r dyfodol yn llygad llawer.
Darllenwch fwy yma: www.wru.wales/article/captain-jac-the-scarlet-scavenger/
MARCHBANK YN MARCHOGI
Mae cydlynydd rygbi URC sydd wedi’i seilio yn rhanbarth Gleision Caerdydd yn rhoi’r cload i ddefnydd da wedi iddo wirfoddoli i gael ei ddefnyddio gan Fyddin Prydain.
Penodwyd Owain Marchbank, sydd wedi bod yn eilydd am dair mlynedd. Yn Gydlynydd Rygbi URC y Rhagfyr diwethaf wedi dwy flynedd fel Swyddog Hwb yn Ysgol Gyfun Tonyrefail. Ond unwaith y daeth gweithrediadau rygbi yng Nghymru i ben tros dro, roedd yn hynod falch i ymateb i gais gan ei gatrawd, y 3ydd Bataliwn, y Cymry Brenhinol. Acv aeth yn syth i waithg wrth ddadgontamineiddio ambiwlansau mewn canolfan yn Nhredegar, Blaenau Gwent.
Darllenwch fwy yma: community.wru.wales/2020/05/05/marchbank-mobilised-to-help-the-whole-community/
Ychwaneg o weithredoedd codi arian
MARABELLA NEU FETHU
Saith aelod o garfan Rygbi’r Dreigiau yw rhai o’r chwaraewyr proffesiynol diweddaraf i neidio ar y beic ar gyfer NHS Charities Together.
Roedd Leon Brown, Ashton Hewitt, Owen Jenkins, Tyler Morgan, Brandon Nanson, Arwel Robson a Jared Rosser i gyd i fod i fwynhau toriad yr oedd gwir ei angen yn Marabella.
Fodd bynnag, gyda’r cload yn chwalu’u syniadau ar gyfer gwymiau bechgyn yn yr haul, bu iddynt daro ar syniad mwy elusennol: reidio beic y pellter o Gasnewydd i farina enwog Puerto Banús.
Mwy yma: www.wru.wales/2020/05/dragons-ride–to-marbs-for-nhs-fundraiser/
MWY O BŴER PEDAL
Disgrifiodd blaenwyr Cymru, Cory Hill a Dillon Lewis sut y gwnaethpwyd iddynt weithio’n galed am bob punt a godwyd ganddynt yn eu reid beic noddedig tros y penwythnos.
Roedd yn her y maent yn awr yn cytuno iddynt ei chymryd ymlaen heb lawn sylweddoli p[a mor galed y byddai ond, ddydd Sul, bu iddynt gwblhau 220 milltir ar eu beic llonydd – taith rithiol o Ogledd i dde Cymru – ar gyfer Gofal Cancr Tenovus.
https:/?www.wru.wales/2020/05/wales-forwards-complete-220-mile-charity-ride/
…Ac o gwmpas y clybiau
CALON LLION
Mae pandemig Covid-19 yn sicr wedi cael effaith enfawr ar fyd y campau. O stadia rhygwladol hyd at feysydd chwarae’n ein trefi a’n pentrefi.
Rhaid yw i bawb addasu, ac mae hynny’n sicr yn wir am waith llion Jones o Glwb Rygbi Nant Conwy.
Tros y ddwy flynedd ddiwethaf, gweithiodd Llion fel Swyddog Hwb yn cael ei gyflogi gan Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Creuddyn a Chlwb Rygbi Nant Conwy.
Ond gyda rygbi’n llonydd tros dro, bu i’r gŵr ifanc, 24 oed roi’i ben i lawr a chanfod ffyrdd eraill i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w gymuned. Fel yr eglura: “Mae fy rôl wedi newid yn awr. Nid wyf yn swyddog rygbi ond yn swyddog cymunedol…”
Darllenwch fwy yma: community.wru.wales/2020/05/04/rugby-club-at-the-heart-of-nant-conwy/
UN i MEWN, PAWB i FEWN YN LLANBED
Roedd chwaraewyr Clwb Rygbi Llanmbedr Pont Steffan eisiau codi cronfa i’r GIG ac felly, bu iddynt benderfynu herio’u hunain i redeg 1,000 km yn ystod Ebrill gan ddefnyddio un ymnarfdr ffitrwydd a nodwyd i fynd i redeg.
Gyda chwaraewyr o bob grŵp oedran o Dan 7 i Ieuenctid, Merched a Dynion Hŷn ynghyd âhyfforddwyr/staff a, hyd yn oed, rhai cefnogwyr, bu iddynt chwalu’r targed o 1,000 milltir mewn wyth niwrnod. Gosodwyd targed newydd o 4,000 milltir ar gyfer Ebrill a rhedwyd cyfanswm o 4,180 milltir i gyd gan godi ychydig tros £2.1k i GIG Hywel Dda. Yn ychwanegol, cyfrannodd Merched Llanbed £500 o’u pwrs taith er prynu lluniaeth ysgafn oedd gwir ei nagen ac angenrheidiau eraill ar gyfer Ysbytai Glangwili (Caerfyrddin) a Bronglais (Aberystwyth). Yn cael eu harwain gan Reolwraig y Tîm, Nerys Davies, casglwyd yr eitemau gan weithwyr rheng flaen a chyn a chwaraewyr presennol Llanbed, Debbie Davies a Sandra Walters i’r rhai, fel y dywed ysgrifennydd y clwb, Gareth Davies, “..ein bod yn hynod werthfawrogol o’u gwaith caled a’u hymroddiad di-flino. Fel yr ydym o holl weithwyr rheng flaen ac allweddol sy’n ein cadw’n ddiogel ac iach.”
BAROD, SETARO, FFWRDD!
Gyda aelodau clwb, chwarewyr, pwnditiaid a chyn sêr o gwmpas Cymru’n ychwanegu at y milltiroedd ar gyfer elusen yn ystod y cload, gallai’r wobr am yr ymgyrch mwyaf uchelgeisiol gael ei hennill gan Glwb Rygbi Hen Dŷ Gwyn ar Daf.
Yr wythnos hon, bu i’r Borderers ddechrau gyda tharged o 404 milltir y dydd am saith niwrnod, a fyddai pe cwblheid, yn rhoi iddynt gyfanswm o 2,828 milltir.
Y newyddion da yw iddynt chwalu’u targed ar y diwrnod cyntaf gyda 603 milltir wedi’i logio ar gyfer y dydd – a chyda £6,935 eisoes wedi’i godi – gan chwaraewyr drwy’r clwb cyfan, o’r XV cyntaf i Ferched Hen Dŷ Gwyn a’r holl dimau Iau.
Bu i rai ‘cyn fechgyn’ Hen Dŷ Gwyn gynorthwyo’n ogystal gyda’r cyn chwaraewyr, Mike phillips ag Aled Davies yn addo gwneud pum milltir y dydd eu hunain gyda Ken Owens yn ymuno gyda hwy ill dau wrth anfon negeseuon o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’m ymdrech enfawr i gyd ar gyfer Laura Setaro, gwraig chwarewr y clwb, pendefig a hyfforddwr, Nico a mam Lili, a dderbyniodd wybodaeth fod ganndi gancr y fron ar oed ifanc o 26 mlwydd, yn Rhagfyr 2019.
Mae Laura’n derbyn triniaeth ar hyn o bryd a gobeithir y bu ar y ffordd i wella’n fuan iawn ond, gyda’r cyflwr y mae’n GIG ynddo ar hyn o bryd, meddyliai’r clwb ei bod yn iawn i ddangos eu gwerthfawrogiad yn eu ffordd hwy.
Aiff yr holl arian a godir at CoppaFeel, ymwybyddiaeth cancr y fron ac Elusennau Iechyd Hywel Dda (cyfrannwch yma: www.justgiving.com/crowdfunding/whitlandrfc2x202?utm_term=MP8ep7y5q )
Sylwadau’r Prif Weithredwr
Rhyw bythefnos yn ôl, amlinellais yn y diweddariad wythnosol, pa ddarnau o waith y mae angen inni roi sylw iddynt tros y misoedd nesaf. Roedd ffyrdd o weithio a chyfathrebu’n uchel ar y rhestr ac rydym yn gwybod y bydd angen inni addasu i ‘Normalrwydd newydd’ fel y bydd cyfyngiadau’n cael eu codi’n raddol tros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Yn ogystal, rydym yn gwybod fod creisis, yn aml, yn cyflymu graddfa newid gan fod yn gatalydd i syniadau newydd. Bwriadwn beidio a methu’r cyfle hwn i ddod a chyfleon newydd. Mae cyfathrebu a sut yr ydym yn gweithio yn gyfle gyda photensial i rygbi Cymreig. Bu inni sylweddoli fod gennym gyfle euraidd i ddatblygu rhai arferion newydd a gwell.
Gobeithio’ch bod wedi sylweddoli’n barod inni gryfhau’n cyfathrebu gryn dipyn yn nhermau darparu mwy o wybodaeth ac, yn bwysig, drwy ymgynghori ar faterion critigal – yr arolwg clybiau’n enghraifft dda. Bu inni hefyd wthio i fod mor agored a thryloyw ag y gallwn fod er mwyn dileu ansicrwydd lle bo hynny’n bosibl. Mae’n negeseuon wedi bod yr un yn fwenol ag yn allanol sy’n golygu, i raddau helaeth, fod pawb yn derbyn yr un neges ar yr un amser. Nid yn awr yw’r amser am negeseuon cymysglyd neu faciwm cyfathrebu. Teimlwn fod hyn yn gweithio’n dda a chynlluniwn i barhau gyda’r lefel hon o dryloywder a chaniatau mynediad wrth symud ymlaen.
Mewn perthynas i’r newid y bu imi ei grybwyll yn gynharach, mae technoleg wedi chwarae rôl gritigol yn ein gallu i redeg y busnes o bell. Mewn mater o wythnosau, rydym bellach yn hollol gyfarwydd gyda Zoom, Skype, timau Microsoft a ‘hang outs’ google. Roeddent i gyd yna ynghynt ond nid oeddem yn eu defnyddio ond i raddau bychan iawn. Wrth symud ymlaen, bwriadwn barhau gyda’n lefelau uwch o ddefnyddio er mwyn gwneud ein sefydliad yn fwy cynhyrchiol ag effeithiol. Yn awr, rydym yn gwybod nad oes arnom angen unigolion yn gyrru ar draws Cymru er mwyn mynychu cyfarfodydd misol. Gellir ymdrin â llawer o hynny drwy gyfarfodydd arlein wythnosol fydd yn fyrrach a miniocach. Pan ddaw i docynnau, gwarchod a briffiadau rheoleiddio fel engreifftiau, ni fydd angen inni bellach deithio’n aneffeithiol i naw cyfarfod Ardal. Gallwn gyrraedd y bobl bwysig yn gyflwym ac yn hawdd drwy gyfarfodydd rhithiol mewn modd wedi’i dargedu. Mae costau teithio gyda threnau i Lundain neu hedfan i Ddulyn i’n cyfarfodydd amrywiol fel Pro 14, Chwe Gwlad a Rygbi’r Byd yn sylweddol. Rydym yn gwybod y gallwn reoli hyn yn wahanol iawn yn y dyfodol gyda chydbwysedd o gyfarfodydd wyneb i wyneb a rhai rhithiol. Ymestyna’r rhestr ac rydym yn gyffrous am y dyfodol yma. Llai o deithio, costau îs, llai o anhwyluster gyda’n hamser yn cael ei defnyddio’n llawer mwy cynhyrchiol. Pa mor dda y bydd hyn i’n gwirfoddolwyr clwb hollbwysig a all gael mynediad cyflym a hawdd at staff URC arlein yn hytrach na theithio ar amseroedd anhwylus o bosibl? Dyfodol lle y bydd datblygiad hyfforddwr a dyfarnwr gael ei ddarparu mewn modd amserol, wedi’i ffocysu ac yn bersonol arlein. Gwyliwch y gwagle.
i gloi gyda’m thema, yn amlwg mae gennym rai penderfyniadau i’w gwneud yn nhermau yr hyn olyga dychweliad graddol i waith – neu, yn wir, nid yw’n ddychweliad i waith ond, yn hytrach, ddychweliad i swydd. Yn hollol onest, rydym wedi bod mor llwyddiannus wrth allu gweithio o bell, nid oes arnom angen unionsyth i ddychwelyd i’r swyddfa. Deallwn y bydd arferion teithio’n cymryd amser i addasu a pham y buasem yn ddiangen yn gwneud ein staff yn weladwy pan ein bod wedi meistroli gweithio o bell. Felly, bwriadwn barhau i geisio gweithdrefnau newydd a gweld sut y gallwn ddod yn fwy a mwy dyfeisgar wrth ddefnyddio technoleg i gynorthwyo rhedeg y sefydliad. Ar y diwrnod hapus hwnnw pryd y gallwn ddychwelyd i’r maes chwarae, gobeithiaf yn arw iawn y bydd yr amser a’r arian y bu inni eu gwario wrth deithio yn cael ei ail fuddsoddi i rygbi ar lefel gwreiddiau’r gwellt er gwelliant i’n pobl, ein clybiau a’n hamgylchedd.
Arhoswch yn ddiogel,
Martyn Phillips
PW URC