Neidio i'r prif gynnwys
Cymry Cymraeg: Marc Carter

Cymry Cymraeg: Marc Carter

Os ydych chi’n gweithio mewn rygbi ac am brofi gwledydd newydd, mae’r cyfleoedd gallu fod yn ddiddiwedd.

Rhannu:

Mae’r ffaith bod Marc Carter yn gymeriad cymdeithasgar – yn ogystal â’i allu fel dadansoddwr – yn amlwg wedi creu argraff ar y bobl sydd wedi cyflogi’r gŵr o’r Barri ar draws y byd.

Ond dechreuodd ei yrfa yn agosach i adre, trwy interniaeth gyda’r Gleision. Ar ôl hynny daeth swydd gyda Rygbi Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Ar y pryd, roedd cysylltiadau cryf rhwng RGC a Canada – gyda naw o’r Canucks yn eu carfan yn 2010 – ac yn fuan roedd Marc yn helpu’r ochr genedlaethol i addasu i feddalwedd dadansoddi newydd ar eu taith Ewropeaidd.

“Dim ond 23 oed oeddwn i ar y pryd, felly roedd yn brofiad anhygoel i mi. Yna daeth rôl Academi i fyny yn y Scarlets felly symudais yn ôl,” meddai Marc, a wnaeth hefyd cynorthwyo’r tîm Cymru D18. “Ar ôl dwy flynedd arall gyda Scarlets fel dadansoddwr ar gyfer y tîm cyntaf, symudais i draw i weithio llawn amser gyda Chymru D20.

“Ro’n i’n angerddol dros weitho gyda’r Undeb, yn enwedig gyda’r chwaraewyr a hyfforddwyr mor dalentog sy’n dod trwy’r llwybr datblygol hynny.”

Ar ôl ddeng mlynedd yn gweithio yng Nghymru, roedd arno Marc her newydd. “Trwy siawns roeddwn i allan yn Hong Kong yn ymweld â chwpl o ffrindiau o Gaerdydd sy’n byw yno, Tom Isaacs [enillydd Cwpan Rygbi’r Byd saith-bob-ochr] a Scott Sneddon, ac yn naturiol cwrddes i ag aelodau’r Undeb Rygbi Hong Kong. Pan ddaeth swydd i fyny gyda nhw cwpl o fisoedd yn hwyrach, penderfynais i gymryd y siawns unigryw yma.”

Unigryw mewn nifer o safbwyntiau: creu adran ei hun, er esiampl. “Gyda’r Undeb yng Nghymru mae ‘na rhwydwaith cefnogaeth gref iawn o fewn yr adran, ond doedd dim byd fel ‘na yn Hong Kong – roeddwn i wir ar ben fy hun,” meddai Marc. “Ond ar yr un pryd, edrychais i ar hwnna fel positif: roedd gen i ‘cynfas wag’ i weithio gyda.” Erbyn nawr mae Marc wedi llwyddo i greu adran gyda 3 dadansoddwr arall sydd yn darparu dadansoddiad am dros 100 o gemau pob tymor i’r tîm cenedlaethol, yn ogystal â thimoedd dynion a menywod ar lefel clwb.

“Mae’n adfywiol i weithio gyda chwaraewr a hyfforddwyr sy’n dod o bob cwr o’r byd. Dyna natur Hong Kong: mae hi fel y Cenhedloedd Unedig ar ynys fach.”

Er dros chwe mil o filltiroedd i ffwrdd mae Hong Kong a’r Barri, cafodd Marc syndod pan sylweddolodd gymaint o bobl Gymreig sy’n byw yn y cornel yma o Asia. “Mae’r Gymdeithas Dewi Sant Hong Kong yn boblogaidd iawn ac rydw i’n falch i fod yn aelod ohono. Mae ‘na chinio mawr pob mis Mawrth sy’n ddigwyddiad pwysig yn y calendr cymdeithasol!”

Mae e hefyd yn cael ei galonogi gan y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae cyfran sylweddol o enwau cyfarwydd i’r gêm yng Nghymru wedi gweithio i’r Undeb Rygbi Hong Kong dros y blynyddoedd diwethaf – megis Paul John, Jevon Groves a Dai Rees. Roedd y prif hyfforddwyr, Leigh Jones, newydd helpu Eddie Jones a Japan curo De Affrica yng Nghwpan y Byd 2015 pan ymunodd â Hong Kong.

Mae Marc yn parhau i osod heriau newydd iddo’i hun, yn y byr a’r hir dymor. “Hoffwn i rannu fy mhrofiadau gyda dadansoddwyr ifanc mewn un o’r cynghreiriau newydd, lle gallwn i hefyd helpu uwchsgilio’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda thimoedd neu wledydd sy’n agored i newid ac yn barod i addasu, ac felly mae Hong Kong wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt i fy natblygiad.”

Beth am rywle fel America, lle mae Major League Rugby wedi profi’n llwyddiannus hyd yma? “Dwi wastad wedi bod wrth fy modd â’r angerdd sydd gan Americanwyr dros chwaraeon, felly o bosib mae hwnna’n rhywbeth gallwn i ychwanegu gwerth ato. Pwy a ŵyr?”

A beth am ddychwelyd i Gymru rhywbryd? “Yn bendant. Rwy’n colli teulu a ffrindiau, yn enwedig achos bod fi mor bell i ffwrdd. Ond mae dal bach mwy o deithio gyda fi i neud!”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Rhino Rugby
Sportseen
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Cymry Cymraeg: Marc Carter
Amber Energy
Opro
Cymry Cymraeg: Marc Carter