Diweddariad Statws URC URC 17/06/2020
“Wrth roi sylw uniongyrchol amrwyiaeth o destunau sydd wedi derbyn ffocws cyhoeddus eang iawn yn ddiweddar, mae’n sefyllfa ariannol mewn lle da i ddechrau.
Rhoddwyd cyhoeddusrwydd da i’r broblem, ac felly, hoffwn ffocysu ar lle bydd y datrysiad.
O wybod am sioc gyllidol o’r pandemig hwn, yr unig ddatrysiad yw cynyddu’n benthyciadau. Rydym mewn trafodaethau gydag ystod o sefydliadau er asesu’n dewisiadau. Gweithiwn yn galed i sicrhau benthyciad ac, yn bwysig, ar delerau sy’n caniatau ad-daliadau tros nifer o flynyddoedd. Felly, tra bod y trawiad cyllidol yma’n un eithafol ac yn uniongyrchol, byddwn yn edrych i esmwythau a dyfrio ei effaith barhaus drwy broffil ad-dalu a graddfa lôg y gellir ei reoli.
Yn nhermau agweddau neilltuol, cedwir cyllid y gȇm gymunedol tu fewn i’r cylch sy’n golygu ein bod oll yn gobeithio y bydd ein holl glybiau’n dod trwy’r creisis hwn. Pwyntiaf allan, yn ogystal, bod y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP), (ag yn iawn felly) yn, unfryd yn ei gefnogaeth o’r dull yma o weithredu gyda’r gȇm gymunedol, er mwyn gwarchod dyfodol tymor hir rygbi Cymreig. Yn yr un modd, cymerais ran mewn cynhadledd fideo yr wythnos ddiwethaf gyda chynrychiolwyr o Uwch Gynghrair Indigo, lle y buom yn trafod opsiynau’n fanwl ar sut y gall y gynghrair ail ddechrau, ar ryw bwynt, gan ymchwilio i sefyllfaoedd posibl a chynlluniau ymateb brys i lywio’n ffordd allan a thrwy’r sefyllfa hon sy’n datblygu’n gyson.
Bydd llawer o’r benthyciad yn fenthyciad blaen, i bedwar rhanbarth proffesiynol rygbi Cymreig. Eto, mae hyn yn hollol iawn gan mai’r gȇm ryngwladol a phroffesiynol yw pwerdy cyllidol rygbi Cymreig. Hebddo, ychydig iawn, iawn o incwm neu gyllid fuasai gennym i’w ail fuddsoddi. Y gȇm broffesiynol fydd yn cario’r cyfrifoldeb am wasanaethu’r benthyciad, ond bydd hefyd yn derbyn budd o unrhyw fowns yn ôl gan gyllid ychwanegol dros berfformiad yn y dyfodol. Yn golygu, yn y cyswllt hwnnw, mae’r gȇm broffesiynol yn cario’r risg a’r gwobrau. Ein hamcan, fel gyda’n clybiau llȇd-broffesiynol a chymunedol, yw sicrhau fod y pedwar rhanbarth oll yn dod trwy’r creisis hwn.
Bu inni hefyd gadarnhau cynlluniau i weld gȇm y merched yn tyfu ac, yn benodol, i gryfhau ei gwedd berfformiadol. Yn amlwg, cafodd COVID-19 effaith ar y cynlluniau hynny fel ag y gwnaethpwyd i bob ardal yn ein sefydliad, ond bu inni gymryd y penderfyniad ymwybodol i barhau gyda’r buddsoddiadau a fwriadwyd. Mae’n hollol bosibl y bydd y buddsoddiad parhaus yn caniatau inni gau’r bwlch yn gyflymach gyda gwledydd eraill, sydd wedi bod yn graidd i’n strategaeth erioed.
Rydym wedi mynd llawer iawn o’r ffordd o gynllunio sut y byddwn yn rheoli ein costau tros y ddwy flynedd nesaf, yn benodol. Hoffwn ddiolch i staff Grŵp URC am eu dealltwriaeth, gan inni ymestyn lleihȃd mewn cyflogau am dri mis ymhellach hyd at ddiwedd Medi, pryd y byddwn yn adolygu’r sefyllfa eto.
Rydym hefyd yn ymchwilio i sefyllfaoedd gyda’n rhanbarthau er canfod buddion costau. Mewn realaeth, rhwng URC a phob rhanbarth, mae gennym bump o sawl peth. Weithiau, mae hynny’n iawn ag weithiau nid yw hynny’n iawn. Mae cyfleoedd i gyfuno’n ymdrechion ac mae angen inni fod yn feddylgar wrth wneud hyn. Bydd yn synhwyrol i wneud rhai pethau gyda’n gilydd tra y bydd pethau eraill yn rhwyddach i’w gwneud yn annibynnol, yn enwedig i gadw adnabyddiaeth, diwylliant a chystadleuaeth ar y maes.
Bu llawer o siarad am gyflogau chwaraewyr. Yn ôl yn Ebrill, cytunodd y chwaraewyr gyda thoriadau cyflogau tros dro er ein cynorthwyo drwy’r creisis hwn – rhywbeth eto yr ydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Yn awr, rydym mewn trafodaethau pellach,lle mae’r cam cyntaf yn gyfrifoldeb ar y BRP i, mor dryloyw ȃ phosibl, osod allan y sefyllfa ariannol gan wedyn gydweithio gyda’r chwaraewyr er canfod opsiynau a fydd yn cadw parhad y gȇm a darparu’n ddigonol ar gyfer sefyllfaoedd personol y chwaraewyr. Mae angen am ddeialog parhaus tros yr wythnosau nesaf i ymchwilio i ddewisiadau a thir posibl ar gyfer ffordd ymlaen sy’n gweithio i bawb. Rwy’n siwr y gallwn gyflawni hyn gyda’n gilydd.
Yn ogystal, bu llawer o drafodaeth am gemau rhyngwladol a’r potensial gwella’r tymor global. Gwelir llwyth enfawr o gemau clwb, proffesiynol a rhyngwladol heb eu chwarae sydd i’w hail drefnu ar gyfer gweddill y flwyddyn galendr hon. Mae pawb o gwmpas y bwrdd yn gweithio’n galed i ddarganfod cyfaddawd sy’n gweithio i bob parti.
Yn y cyd-destun yna, bydd y tymor global hefyd angen cyfaddawdu. Rwyf wedi bod yn rhan o’r grŵp gwaith bychan y gofynwyd iddo ymgynghori gyda chwaraewyr, undebau eraill a thwrnamentau i gynorthwyo canfod datrysiad tymor hir. Ni fydd neb yn cael y cyfan y maent yn gofyn amdano, ond, mae’r cyfle yna i bawb gael strwythur tymor a fydd yn well wrth fynd ymlaen.
Yn fy mhrofiad i, pan y mae rhywun yn ymgynghori mor eang ag y gwnaethom ni, yr her yw eich bod yn creu sefyllfa lle mae pobl yn dehongli ymgynghori fel arwydd y byddant yn cael y cyfan y maent yn ei ofyn amdano. Yn amlwg, yn anaml iawn y digwydd hynny, ond, gobeithiaf yn arw iawn tra y bydd, ar lefel unigol, angen cyfaddawdu, y bydd y canlyniad yn y diwedd – yn seiliedig ar ymgynghori parhaus – yn llawer iawn gwell i rygbi fel camp ac, yn enwedig, i chwaraewyr, cefnogwyr a phartneriaid masnachol.
Yn olaf, roeddwn yn falch o ganfod bron i 300 o unigolion, llawer, yn ddiweddar, wedi cymryd rôl y Rheolwr Gweithrediadau Clwb ac yn cynrychioli clybiau sy’n aelodau, yn cymryd rhan mewn cynhadledd fideo gyda’n hadran rygbi cymunedol nos Lun. Llongyfarchiadau i’r tîm am drefnu’r digwyddiad a diolch, yn enwedig, i’r rhai hynny a gymerodd ran. Fel ag y bu inni ddywedyd bob amser, rydym yn gweithio’n galed i gyfathrebu mor rheolaidd a thryloyw ȃ phosibl, yn ychwanegol at wrando ar realaeth dydd i ddydd anodd i’w ddeall ar lefel clwb.
Mae’r optimist ynof yn gobeithio ein bod wedi gweld y gwaethaf o’r creisis hwn ag y gellir ymdrin ag unrhyw bigyn arall i’r dyfodol yn gyflym ag yn lleol lle bydd hynny’n bosibl. Tra nad ydym yn gwybod yr oll yr ydym ei angen hyd yn hyn, rydym yn gwybod llawer mwy nag yr oeddem rai wythnosau’n ôl.
Mae gennym gynllun lle y gallwn weld yr ochr arall a lle y byddwn, yn ddi-ffwdan, yn gwneud ein gwaith er sicrhau y bydd y gȇm yn well wrth ddod allan o’r creisis hwn nag yr oedd wrth fynd i mewn iddo.
Arhoswch yn ddiogel,
Martyn Phillips
PW URC
Etholiad Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol
Ail-agorwyd yr wtholiad i ddarganfod Aelod Newydd o’r Cyngor Cenedlaethol, gyda Nigel Davies, Ieuan Evans a John Manders oll yn cystadlu am bleidleisiau clybiau sy’n aelodau.
Bu i’r pandemig COVID-19 dorri ar draws y trefniadau ym Mawrth wedi derbyn yr enwebiadau terfynol am y safle, a wacawyd gan Mark Taylor, ond mae Bwrdd URC yn awr wedi gallu ail-sefydlu’r broses.
Derbyniodd clybiau lythyrau manwl gan bob ymgeisydd yn cynnig datganiadau bwriad gan ddisgrifio a llunio, mewn termau da iawn, pam fod pob ymgeisydd yr un mwyaf addas ar gyfer y rôl – ac mae dweud fod y maes yn un cryf yn ddatganiad gwan iawn:
Evans yw’r cyn asgellwr Cymru, Llewod Prydain ag Iwerddon a’r Sgarlets sydd gyda 79 cap rhyngwladol, wedi bod yn gapten ar ei wlad 28 o weithiau ac, yn fwy diweddar, wedi gweithio fel pwndit teledu i Sky, BBC a ITV tra’n ogystal yn dal swyddi Bwrdd gyda rhai tebyg i Fwrdd Twristiaeth Cymru a VisitBritain.
Dywed, yn ei lythyr i glybiau:
“Mae’r newidiadau cyfansoddiadol a gyflwynwyd o dan gadeiryddiaeth Gareth Davies wedi rhoi’r cyfle i’r gȇm broffesiynol flodeuo, ond hefyd, cyflwyno’r gȇm gymunedol gyda chyfleon enfawr sydd, hyd yn hyn, heb eu defnyddio i raddau helaeth.
“Hoffwn yn fawr aiwn, fod yn rhan o wthio’r ffiniau ar y lefel honno fel ag i wneud ein cystadlaethau’n fwy cyffrous a dymunol… Anwybyddwch fôn y pyramid are ich perygl.”
Mae Davies hefyd yn gyn chwaraewr Cymru a’r Sgarlets, gyda 29 cap, aeth ymlaen i hyfforddi rhanbarth a’i wlad. Ar hyn o bryd, ef yw Prif Weithredwr Merthyr ac yn gyn brif hyfforddwr yng Nghlyn Ebwy ac wedi gweithio i adran rygbi URC a gwasanaethu fel cyfarwyddwr rygbi Caerloyw.
Ysgrifenna:
“Parchaf, a deallaf yn wir a llawn, y rhan hollbwysig y charaea rygbi yn holl gymunedau Cymru, gyda chlybiau’n greiddiol i’n gȇm, a rygbi’n rhan o synnwyr balchder ag adnabyddiaeth y wlad a’i rôl arweiniol yn uno pobl a chymunedau.
“Rwyf eisau bod yn rhan o gorff llywodraethol cynrychioladol sydd, ddim yn unig yn arwain a chynorthwyo datblygu’r gȇm, ond sydd hefyd yn gwasanaethu’n llawn, yn amlwg ag effeithiol, ei chymunedau amrywiol a chlybiau…”
Chwaraewr Ieuenctid rhyngwladol tros Gymru oedd Manders a chwaraeodd tros Gasnewydd, Caerdydd a Phontypridd ag mae’n henadur o glwb rygbi Old Illtydians, wedi gwasnaethu mewn nifer o rolau yn cynnwys cadeirydd a rheolwr tîm, a disgrifir ef fel “trawiad calon y clwb”. Yn gyn ringyll gyda Heddlu De Cymru. Wedi iddo ymddeol o wasanaeth yr Heddlu, parhaodd i weithio fel asesydd gan ddarlithio mewn cyfraith ym Mhrifysgol De Cymru, yn gyfarwyddwr artistig yn Tickledom Theatrical Productions ag yn gyfarwyddwr dysgu yn Credwch Ltd.
Dywed ei sylwadau: “Rwyf yn ymarferwr profiadol a stratagaethwr parthed materion sy’n gysylltiedig gydag hafaledd, amrywiaeth a llywodraethiant da mewn chwaraeon ac mae gennyf dȃn yn fy mol ag ymrwymiad i gyflwenwi’r egwyddorion hyn.
“Mae gennyf fwy na 30 mlynedd o brofiad yn broffesiynol ag fel gwirfoddolwr clwb parthed ymwneud cymunedol… gallaf eich sicrhau y byddaf yn gweithio’n ddiflino tros eich clwb a holl glybiau Cymru gan fod yn ‘llais’ i’r gȇm Gymunedol, yn ei holl agweddau o mini & iau, ieuenctid, hŷn ac, wrth gwrs, gȇm y merched sy’n tyfu yng Nghymru.”
Cipolwg yn unig o’r hyn a anfonwyd gan bob ymgeisydd yw hyn sydd ddim yn gwneud cyfiawnhad ȃ chryfder pob ymgais ac anogir clybiau’n gryf i ymgynghori gyda’r proffiliau’n llawn,a ddarparwyd cyn pleidleisio.
Bu i bob ymgeisydd gyflwyno’n ogystal fanylion cyswllt, gan groesawu cwestiynau pellach ac mae URC yn y broses o osod i fyny nifer o sesiynau ‘taro i mewn’ arlein (un i bob ymgeisydd) i gynorthwyo clybiau benderfynu ym mha le i roi eu cefnogaeth, fydd raid ei gyflwyno’n electronaidd drwy ffurflen falot cyn y trothwy o 3.00 o’r gloch brynhawn Gwener, 10fed Gorffennaf.
Cynllunio gȇm gymunedol:
Mae o gwmpas 82% o glybiau wedi enwebu Rheolwr Gweithrediadau Clwb yn barod,a fydd yn cynorthwyo rheoli yr holl brotocolau ar gyfer dychwelyd i chwarae’n lleol fel y bydd cyngor gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru’n ymddangos, ac rydym yn wrthfawrogol am yr ymateb cyflym ym mhob achos.
Dylai clybiau sydd heb eto wneud y penodiad angenrheidiol gysylltu gyda Jeremy Rogers, Rheolwr Polisi ag Integredeg URC, ar jrogers@wru.wales mor fuan ȃ phosibl.
Trefnwyd y webinar gyntaf, a oedd yn agored i bob clwb sy’n aelod, er mwyn egluro rôl y Rheolwr Gweithrediadau Clwb a siarad drwy gynlluniau i ddychwelyd i ymarfer a chwarae, gan y Grŵp Gwaith Dychwelyd i Rygbi URC nos Lun diwethaf gyda bron i 300 o unigolion yn tiwnio i mewn, yn cynnwys Rheolwyr Gweithrediadau Clwb yn cynrychioli’u clybiau a nifer o ryngddeiliaid eraill.
Fel ag y dywedwyd yn y webinar, mae’n glir yn awr na fydd y tymor cymunedol yn dechrau’n Medi, ond mae’r holl ddewisiadau’n parhau’n agored a all fod yn Hydref, Rhagfyr, neu Ionawr. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y tymor yn edrych yn wahanol pan y dychwel ag y bydd pwyslais ar ddychwelyd yn ddiogel ag aros yn lleol pan lunir y gemau.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a chyrff llywodraethu chwaraeon eraill a byddwn yn diweddaru clybiau bob tro y bydd Llywodraeth Cymru’n rhannu cynllun tair wythnos newydd i ddisgrifio sut y bydd hyn yn effeithio rygbi yng Nghymru.
Amcan allweddol i’r gȇm gymunedol yng Nghymru yw ein bod eisiau bod yn rhan o’r datrysiad a dim yn rhan o’r broblem yn lledaenu’r haint ac felly, ni wnawn ddim i waethygu iechyd cyhoeddus.
Gwelir pedair amod clir ar gyfer dychwelyd i chwarae rygbi yng Nghymru:
• Iechyd Cyhoeddus ac awdurdodau llywodraeth yn caniatau dychweliad
• Ni chyfaddawdir gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus
• Bydd gan glybiau amser i addysgu a pharatoi cyfleusterau
• Cyfnod ail dod yn ffit addas i chwaraewyr
• Dilyn cysylltiadau
Bydd dilyn cysylltiadau’n allweddol – bydd yn hollbwysig i gwblhau modiwl Rygbi Byd arlein cyn dychwelyd i chwarae A BYDD ANGEN cwblhau gwiriadau symptonau, hyd yn oed, cyn gadael y tŷ i ymarfer ar BOB achlysur.
Mae hefyd yn glir, wedi’r cyfnod hwyaf i ffwrdd o rygbi’n eu bywydau, y bydd angen cyfnod o ad-ennill ffitrwydd i nifer o chwaraewyr cyn ailddechrau chwarae a bydd adran cryfder a ffitrwydd URC yn cyflenwi cynllun ymarfer i’r gȇm gymunedol ar yr amser cywir.
Bydd mesurau eraill abyddwn yn cynorthwyo clybiau i fod yn barod ar gyfer pob posibilrwydd, megis petae elfennau o rygbi’n cael ei ganiatau CYN y caniateir i Dai Clybiau agor.
Bydd yn rhedeg drwy bob cam o’r broses cyfleusterau ac rydym yn gweithio’n agos yn ogystal gyda’n hyswirwyr fel pan fo rygbi’n ail ddechrau y bydd gan glybiau gyfar llawn.
Rhennir Canllawiau Dychwelyd i Rygbi Cymunedol manwl tros yr wythnosau nesaf fel y bydd cyngor yn newid, ond, os gwelwch yn dda, parhewch i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn agos ar bob achlysur.
Newyddion Codi Arian
SȆR TELEDU DAN 14 DOLGELLAU
(darparwyd gan y clwb)
Deallodd tîm Dan 14 Clwb Rygbi Dolgellau fod gan Gartref Gofal Cefn Rodyn yn Nolgellau angen teledu newydd.
Teimlir y straen o fethu gweld y rhai yr ydym yn eu caru a’n teuluoedd yn ystod y cload Covid-19 cyfredol gennym oll, ond mae’n bwysau neilltuol i breswylwyr cartrefi gofal ag ysbytai.
Daeth i sylw’r clwb y buasai gosod Teledu Smart yn caniatau i breswylwyr Cefn Rodyn weld a chlywed eu hanwyliaid ar sgrin fawr (a fydd yn arbennig o beth yn enwedig i’r rhai gyda phroblemau clyw a golwg) ac felly, roeddem eisiau helpu.
Chwiliwyd am her codi arian felly a daeth y criw Dan 14 i fyny gyda’r syniad o daith rhithiol o Gymru drwy ddefnyddio beic, rhedeg neu gerdded.
I ddechrau, ar gyfer aelodau’r tîm, eu teuluoedd a’u ffrindiau oedd y targed i gwblhau y pellter cyfartal i lwybr arfordir Cymru yn ystod wythnos hanner tymor, a ymddangosai fel tasg enfawr gyda 870 milltir i’w deithio.
Fodd bynnag, wrth fod yn griw caled, trawyd y targed erbyn amser cinio ddydd Mercher ac felly, chwiliwyd am her fwy.
Ymddangosai Llwybr Clawdd Offa a 177 milltir ychwanegol fel dewis naturiol i gwblhau’r ffordd o gwmpas Cymru, ac eto, cwblhawyd hyn yn sydyn.
Felly nesaf, dechreuodd y tîm, yn ‘rhithiol’ am adref drwy gwblhau’r siwrnai o ddiwedd y llwybr (Casgwent) yn ôl i Ddolgellau, pellter pellach o 120 milltir, y cyfan erbyn amser cinio dydd Gwener.
Bu i bob un a gymrodd ran glocio milltiroedd anhygoel gyda beic, neu drwy gerdded neu redeg a chwblhawyd yr her, gyda’r targed codi arian dechreuol cyntaf o £500 hefyd yn cael ei chwalu gyda chyfanswm cyfredol o dros £750 yn sicrhau Teledu UHD enfawr i breswylwyr Cefn Rodyn, sydd gyda charfan Dan 14 bellach wedi’i chyflwyno.
Hoffai’r tîm ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr achos teilwng yma, ac mae hyfforddwyr y tîm yn hynod falch o’r ymroddiad at y dasg a ddangoswyd gan y rhai’n eu gofal a hoffent ddiolch i’r holl rai a gymrodd ran ar y siwrnai hirfaith yma ag am yr ymdrech hynod fawr a roddwyd.
REID ARIAN MAWR MORGAN!
(Daethom a’r stori hon ichwi’r wythnos ddiwethaf, ond nid oedd gennym unrhyw syniad o’r arian a godwyd ac yn sicr yn werth ail adrodd:)
O’r diwedd nid yw Morgan Stoddart yn teimlo gyfrwy boenus bellach wedi’i reid 1,000 milltir anogol tros elusen ym Mai godi bron i £150,000 i Ganolfan Cancr Felindre ag Ysbyty Frenhinol Morgannwg.
Meddyliai’r cyn gefnwr Cymru a’r Sgarlets y buasai’n perswadio rhai ffrindiau i ymuno gydag ef a chodi “cwpl o filoedd o bunnau” ar gyfer elusen sy’n agos iawn at ei galon ei hun.
Yn y diwedd, ymunodd hyd at 130 o bobl yn y reid rhithiol gan godi swm anghredadwy o arian.
“Roeddwn eisiau cael rhai o’m mȇts i gymryd rhan i weld beth allai fod yn bosibl. Yn y diwedd, aeth fel pelen eira ac rydym wedi casglu bron i £150,000 – mae’n anghredadwy,” meddai Stoddart.
Rhai o’r enwau mawr a gefnogodd Stoddart ar y daith 1,000 milltir epig oedd y chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Rhys Webb a Tom James, seren canu Gymreig, Sophie Evans, cyn chwaraewr Dinas Caerdydd, Scott Young ag ymladdwr UFC Abertawe, Brett Johns.
Darllenwch fwy yma:
GLYN EBWY’N PARTNERU GYDA HOSBIS Y CYMOEDD
Bu i hyfforddwr amddiffyn Cymru, Byron Hayward a’i gyn glwb, Glyn Ebwy, wedi dod at ei gilydd i geisio cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol fel y mae’r cload coronafeirws yn parhau.
Cefnoga Hayward – a chwaraeodd a hyfforddodd y Gwŷr Dur – symudiad Ebwy i bartneru gyda Hosbis y Cymoedd gan godi arian sydd wir ei angen.
“Fel cyn chwaraewr i’r Ebwy, mae’n fraint cael cefnogi gwir glwb cymunedol sydd gyda hanes cyfoethog mewn rygbi Cymreig a gwerthoedd diwylliannol cryf,” meddai Hayward.
“Mae’r amseroedd yma nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen yn sicr, yn her inni gyd ond credaf ei fod hefyd yn amser sy’n dod a’r gorau allan o bobl ag yn gyfle inni fel unigolion i ddisgleirio to roi rhywbeth yn ôl i’n cymuned.”
I gefnogi Glyn Ebwy a Hosbis y Cymoedd ewch i https://www.crowdfunder.co.uk/support-the-steelmen-hospice-of-the-valleys
Ychwaneg o newyddion rygbi:
BENNETT YW’R GORAU
Yr wythnos hon, siaradwn gyda Phil Bennett, lle’r etholwyd ei gais yn erbyn yr Alban yn 1977 fel cais gorau erioed tros Gymru gan gefnogwyr Rygbi Cymreig yn ddiweddar, ar Bodcast Undeb Rygbi Cymru.
Tipyn o gyrhaeddiad, ag yn gyfle i glywed am y gȇm honno a mwy o atgofion y 70’au fel y gofynwn i Bennett ddewis un chwaraewr a allai fod wedi gwella, hyd yn oed, y tîm ardderchog hwnnw, gan ei wthio i wneud cymhariaethau gyda’r era modern.
Gwrandewch yma:
BRAWD CORY ALLEN YN GIPAR
Gallai dilyn ôl troed brawd mawr a gynrychiolodd ei wlad, fod yn obaith brawychus i rai chwaraewyr, ond ymddengys fod Mason Grady’n ei gymryd yn ei gamau (pur fawr) ei hun!
Gellid anghofio teimlad brawychus y cefnwr sawl safle i academi Gleision Caerdydd gyda chyrhaeddiadau ei frawd mawr, Cory Allen, ond bu i’r gŵr 18 mlwydd oed eisoes wneud penawdau ei hun yar ddechrau’i yrfa i awgrymu fod parhau eitfeddiaeth ei deulu’n bosibilrwydd tebygol.
Bu i ddisgybl Ysgol Gymraeg Bro Morganwg wneud i’r byd rygbi eistedd i fyny a chymryd sylw y llynnedd gyda chais unigol arbennig tros Gymru Dan 18 yn erbyn Ysgolion A de Affrig yn Paarl.
Gan godi pȇl, a oedd yn bownsio, ar yr hanner ffordd, rhedodd yr asgellwr de i’r ochr cyn cymryd mantais o gap amddiffynol. Ceisiodd un amddiffynwr anffodus afael ynddo ond llwyddodd i afael mewn awyr fain yn hytrach na choesau Grady, aeth ymlaen i agor gweddill amddiffyn mewn panig i sgorio o dan y bariau traws gyda chais unigol ardderchog a sicrhaodd fod Cymru’n cael gȇm gyfartal 31-31.
Mwy yma:
GILLY DDIM MOR SILI
Nid yw prop Cymru a Gleision Caerdydd, Rhys Gill, wedi cael cyfle i golli’r tir gwyrdd, gwyrdd artiffisial ym Mharc yr Arfau, Caerdydd yn ystod y cload mawr.
Mae’r arbenigwr pen rhydd wedi bod yn defnyddio’i gyfnod ‘furlough’ i fenthyg pȃr ychwanegol o ddwylo i’w bartner busnes oddiar y maes, Ross Johnston, y neu cwmni llorio.
Ymysg eu cynhychion arweiniol mae gwellt artiffisial ac maent wedi profi gofyn enfawr yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae edrych ar ôl ei ddyfodol wedi rygbi wedi bod yn bwysig iawn bob amser i Gill, sy’n 33 mlwydd oed, ymddangosodd fwy na 100 gwaith i’r Saraseniaid wedi gadael y Gleision yn 2009. Yr oedd yn yr ochr ‘Sarries’ cyntaf i ennill teitl yr Uwch Gynghrair Seisnig ac enillodd saith cap tros Gymru o ochr anghywir y bont.
Yna, dychwelodd at y Gleision yn 2016 gan ddechrau yn eu hail fuddugoliaeth ynn Nghwpan Her Ewrop yn Bilbao yn 2018.
Gyda mwy na 200 o gemau proffesiynol i’r Saraseniaid a’r Glesion, nid oes unrhyw arwydd ohonno’n arafu ar y maes o gwbl, ond mae’n edrych i gadw i fyny gyda’i bartner busnes oddiar y maes.
Darllenwch fwy yma:
ROACH YN STYC MEWN LLE CALED
Mae’r rhain yn ddyddiau ansicr i bobl sy’n byw pob math o fywyd, ag fel y gall Ben Roach yn wir dystio, cynnwys hynny chwaraewyr saith pob ochr rygbi.
Un o gonglfeini bywyd cylchdaith saith pob ochr yw teithio pellter maith, sy’n golygu fod dychweliad i weithrediadau Cyfres Byd yn parhau i fod ymhell i ffwrdd.
Disgwylia Roach a’i dîm gydag anadl fer i glywed beth ddywed Rygbi’r Byd ar y mater o ail ddechrau, mewn unrhyw ffurf.
Fel y gwelodd y byd tros y penwythnos gyda dechreuad Atoteoroa, Rygbi Siwper Seland Newydd, cynghreiriau domestig fydd yn rhedeg gyntaf cyn unrhyw gystadlaethau global.
Gyda’r Gemau Olympaidd yn Tokyo yn foronen ar ddiwedd y ffon, sydd wedi mynd yn hwy am gyfnod amhenodol, gallai olygu fod nifer o chwaraewyr yn chwilio am gyfleoedd mewn clybiau rygbi’r undeb yn y cyfamser.
Nid yw Roach yn wahanol.
Os y bu ochr plws i’r cload i’r cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Llanishen – roedd Roach ychydig flynyddoedd ar ôl seiclwr Tîm Ineos, Luke Rowe – yw na fu iddo golli unrhyw rygbi.
Derbyniodd law drinaieth ar ei ysgwydd ychydig cyn i’r gwaharddiadau gael eu gosod yn eu lle, ac mae’n awr yn hollol ffit, yn barod ag yn awchu i fynd.
Mwy yma:
AC YN OLAF…LAKE YN AIL FYW CURO’R BABANOD DU
“Tybiaf yn bydd yn aros gyda chwi am byth ond parha i deimlo fel iddo ddigwydd ddoe,” yw sut y mae Dewi Lake yn edrych yn ôl ar y diwrnod y bu iddo arwain tîm Dan 20 gwrol Cymru i fuddogoliaeth oedd yn sioc yn erbyn y Seland Newydd anferthol yn Rosario, oedd wedi’i tharo’n enbyd gan storm, ym mhencampwriaeth Dan 20 Rygbi’r Byd llynnedd. Ddim yn unig nad oedd hanes o blaid Cymru, ond nid oedd y duwiau chwaith. Cyrhaeddodd y timau’r maes ynghanol storm drydanol. Roedd melt a tharannau’n clecian drwy’r hanner cyntaf gyda glaw eithriadol o drwm yn ychwanegu at y seftllfa ddiflas.
Wedi 28 munud o weithredu, gyda Cymru yn ffodus i fod ar y blaen, diolch i diriad Tiaan Thomas-Wheeler, penderfynodd y dyfarnwr fod rhaid i’r chwaraewyr fynd oddiar y maes gan fod diogelwch chwaraewyr yn breeder mawr. Am dros awr, roedd Lake ag aelodau’i dîm wedi’u gwasgu i mewn i ystafell newid fechan yn aros i’r storm fynd heibio, heb wybod pa bryd ac, yn wir, a fuasai’r gȇm yn ail ddechrau.
Ond fe wnaeth – ac mae’r modd y bu i Gymru ddod i ffwrdd gydag ond eu hail fuddugoliaeth yn erbyn y Babanod Du’n parhau’n wyrth fechan.
Heb unrhyw berchnogaeth o’r bȇl o gwbl ac yn methu ennill unrhyw dîr gan badlo’n ôl yn barhaus wrth amddiffyn, bu i Lake a’i arwyr fynd yn erbyn yr holl ods i anfon Seland Newydd i’w safle ranc isaf (7fed) yn hanes 12 mlynedd y gystadleuaeth.
Deuddeg mis ymlaen, edrych bachwr y Gweilch yn ôl gyda balchder ar y ddihangfa fawr.
Darllenwch y cyfan am hynny yma: