Felly, er bod dyddiau anodd o’n blaenau, a heriau anorfod wrth i ni symud i fyw gyda’r firws yn cael ei ddisodli neu ei drechu, hoffwn siarad am ein gobeithion yn hytrach nag ofnau. Mae gennym weledigaeth ar gyfer sut y gall bywyd fod i ni mewn rygbi Cymreig os yr ydym yn credu y bydd pethau da yn digwydd. Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd pawb yn Undeb Rygbi Cymru yn impio ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi i ddod â’r gêm yn ôl yn gryfach – ni fyddwn yn gadael dim ar y maes.
Yn ystod amseroedd heriol, gall fod yn anodd gweld heibio’r dydd i ddydd. Fodd bynnag, fe’m trawyd yn ddiweddar gan nid yn unig sut y gall rygbi yng Nghymru oroesi’r pandemig hwn ond, yn wir ffynu. Rwy’n siwr fod llawer ohonom wedi bod trwy broses o ail-asesu’r hyn sydd wir yn bwysig mewn bywyd.
Yn amlwg, ar flaen y meddwl y mae teulu, iechyd a llesiant ond, yn ogystal, teimla gwerth cymuned, o ymwneud cymdeithasol, o’n hamgylchedd lleol a bod yn rhan o gylch cymdeithasol mwy’n bwysig yn awr.
Mewn sawl ffordd, gwnaethpwyd rygbi ar gyfer y foment hon. Mae budd iechyd chwaraeon yn hunan-dystiolaethu, ond beth yw clwb rygbi os nad yn hwb croesawgar a chymdeithasol?
Beth yw clwb rygbi os nad yn gynnyrch o ymdrechion cyflenwol chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, gwirfoddolwyr a theuloedd?
Beth yw bloedd Stadiwm y Principality os nad yw’n sŵn ein cymunedau’n dathlu ein hunaniaeth Gymreig gyda’n gilydd?
Bydd rygbi’n dychwelyd. A bydd rygbi’n well os y gwnawn oll roi y neu lle y pethau hynny a ddysgom yn ystod y bwlch hwn.
Felly, o berspectif fydd o gymorth ac yn obeithiol:
• Bydd ein chwaraewyr wedi colli chwarae a byddwn yn ysu i ddychwelyd gyda’u ffrindiau’n y tîm. Mae gennym hefyd gyfle euraidd i recriwtio chwaraewyr newydd a fydd yn edrych i fod yn rhan o dîm ac a fydd yn chwilio am y cyfeillgarwch y mae camp tîm fel rygbi yn ei ddarparu
• Rygbi yw’r gȇm tîm mwyaf cymdeithasol sydd gyda dim yn cymharu â’r dychweliad hwnnw at yr ymdeimlad o “hwyl”
• Bydd chwaraewyr sydd wedi rhoi’r gorau i chwarae yn awyddus i wisgo’r crys ymlaen eto a byddwn yn rhoi’r croeso
• Bydd ein hyfforddwyr ar bob lefel wedi cael amser i gynllunio gan ddychwelyd gyda syniadau newydd, ar ôl dysgu sgiliau newydd a chydag egni newydd
• Bydd ein gwirfoddolwyr wedi methu’r ymdeimlad o bwrpas a ddaw yn sgîl gwirfoddoli, y cyfle hwnnw i roi rhywbeth yn ôl i’n cymunedau
• Yn well fyth, gallwn groesawu gwirfoddolwyr newydd a fydd wedi dioddef misoedd o unigedd cymharol, ag a fydd yn awyddus i fod yn rhan o rywbeth pwrpasol a lle y gellir ffurfio perthnasau newydd
• Rydym wedi dysgu rhai triciau newydd yn ystod y clo. Rydym wedi cynnal llawer o gynadleddau fideo a webinarau. Yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ni deithio weithiau i gael cyfarfod neu weithdy hyfforddi, ond erbyn hyn, weithiau, gallwn wneud hyn yn gyfleus o’n cartrefi
• Rydym wedi colli’r ymdeimlad o berthyn na all ond clwb rygbi ei gynnig. Yr ymdeimlad hwnnw o gymuned, yn rhan o rywbeth ac adrodd stori neu ddwy gyda’n cyd-chwaraewyr a’n ffrindiau
• Mae pob un o’n staff yn Undeb Rygbi Cymru yn gofalu am y gêm ac yr ydym i gyd yn ysu am fynd yn ôl i’n gweithleoedd, yn ôl i glybiau, ysgolion a cholegau i ymgysylltu a chyffroi am bopeth a ddaw yn sgîl rygbi
• Clybiau rygbi yw’r lleoedd mwyaf croesawgar, sy’n agored i bawb, ac mae gennym gyfle i fod yn lleoliad o ddewis i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd ar gyfer y profiad “cymdeithasol” eithaf
• Mae mantra rygbi Cymru wedi bod yn “Crys i bawb”. Boed yn 15’au, 7’au, cyffyrddiad, tag, cerdded, anabledd neu rygbi cymysg, mae gennym gêm i bawb
• Mae gennym dros 300 o glybiau, rydym yn rhychwantu Cymru gyfan a gallwn fod y chwaraeon mwyaf cynhwysol yn y wlad. Gallwn gofleidio’r cyfan o gymdeithas, dynion, menywod a phlant, waeth beth fo’r cefndir.
• Mae’r pandemig wedi bod yn wiriad realiti ariannol. Yr ydym wedi gorfod torri ein brethyn yn unol â hynny ac mae gennym y cyfle yn awr i fynd â’r meddylfryd newydd hwnnw i’n byd newydd ac i fyw’n wirioneddol o fewn ein modd. Gallwn ddewis peidio â chymryd taliadau am chwaraewyr i mewn i’n byd newydd. Mae’n ein dwylo ni.
• Mae gennym lawer o bartneriaid rygbi gwych a llawer o bartneriaid masnachol gwych sydd wedi aros gyda ni drwy’r cyfnod anodd hwn. Mae’r cyfle gennym, wrth inni aros i ailddechrau chwarae, i adeiladu cynlluniau ar gyfer dyfodol llwyddiannus a rennir
• Bydd bywyd yn fwy “lleol” am beth amser. Gallwn sefydlu ein clybiau i fod yn hybiau chwaraeon a chymdeithasol yn ein cymunedau wrth inni i gyd edrych yn lleol am ein hamser hamdden
• Wrth i bobl aros yn lleol, mae gan ein clybiau y potensial i gael mwy o ddigwyddiadau a dathliadau nag erioed o’r blaen
• Mae rhai pobl wedi defnyddio ‘r cload i fod yn fwy egnïol nag erioed a byddant yn chwilio am weithgarwch corfforol mewn grwpiau yn hytrach nag fel unigolion. Nid yw rhai pobl wedi bod yn ddigon egnïol a byddant yn chwilio am rywle i fod yn egnïol. Mae gennym gêm i bawb
• Rydym i gyd yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y gall gweithgarwch corfforol a’r ymdeimlad o berthyn i rygbi ddod inni. Gallwn fod yno i’r rhai y mae angen iddynt fod gydag eraill, i gael rhywun i siarad â hwy a rhywle i fynd iddo
• Mae ôl-groniad o rygbi proffesiynol i gyd-fynd ag ef. Gallwn fynd i gefnogi ein timau lleol neu gwrdd yn y clybiau i wylio’r gemau gyda’n gilydd
• Rydym yn gwybod bod gwirfoddolwyr clybiau wedi bod yn brysur yn peintio, gosod a chynnal a chadw. Pa mor gadarnhaol yw hyn pan fyddwn ar ein traed eto i ddychwelyd i’r clybiau y rhoddwyd bywyd newydd iddynt
Rydym yn bwriadu cydweithio er mwyn gwneud ein clybiau yn leoedd diogel i fynd iddynt – bydd y broses fanwl yr ydym yn ymgymryd â hi yn gwneud y clwb rygbi a’r holl weithgareddau cysylltiedig mor ddiogel ag sy’n bosibl i chi ddychwelyd.
Amynedd – Rydym yn chwarae’r gêm aros fwyaf oll. Rydym yn deall rhwystredigaethau clwb ond gallwn ddefnyddio’r amser hwn yn ddoeth (delio gyda phopeth nad oedd gennych amser i’w wneud o’r blaen) i baratoi ein clybiau ar gyfer y mwyaf o ddychweliadau pan y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
Mae gennym gamp wych sydd wrth galon ein cymunedau. Gall bywyd ar ôl y pandemig hwn fod yn well nag yr oedd o’r blaen. Mae nifer a llawer o ffactorau sy’n golygu y gallwn ddod allan ar ochr arall yr argyfwng hwn yn gryfach na phan aethom i mewn. Dyna pam y bu inni ymrwymo £600,000 arall heddiw i glybiau sy’n aelodau, a gwelir manylion pellach amdano isod. Cymer hyn gyfanswm y cyllid argyfwng i glybiau i fwy nag £1m yn ystod y chew mis diwethaf.
Os ydym yn credu bod hyn i gyd yn bosibl, rydym yn cynllunio fel clybiau ar gyfer y cyfle a gweithio gyda’n gilydd, rwy’n siŵr y bydd y gêm yn parhau i dyfu ac yn cryfhau.
Arhoswch yn ddiogel,
Martyn Phillips,
PRIF WEITHREDWR URC
CV-19: Dychweliad i Chwarae Rygbi a Chefnogaeth Ymbellhau Cymdeithasol drwy Gymorthdaliadau a Chyllido
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd cronfa un-tro £600,000 yn cael ei rhoi i glybiau aelodau i gefnogi protocolau dychwelyd i chwarae ac i helpu i brynu cyfarpar neu addasiadau i adeiladau/cyfleusterau a allai fod yn ofynnol o ganlyniad i fesurau ymbellhau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â CV-19.
Bydd y £600,000 yn cynnwys caffael eitemau fel PPE yn ganolog, gyda grantiau’n cael eu dyfarnu i glybiau unigol ar sail meini prawf ac asesu anghenion.
Bydd pob clwb yn gymwys i wneud cais am grant ar gyfer gwariant cymwys o fewn y cynllun a gall y symiau a ddyfernir gan Undeb Rygbi Cymru gael eu cynyddu ymhellach drwy ffynonellau cyllid allanol.
“Yn dilyn cyfnod o ymgynghori trwy’r arolwg diweddar o effaith y clwb, roedd y canfyddiadau yn nodi bod clybiau wedi’u hamddiffyn am leiafswm o chwe mis,” meddai Cyfarwyddwr cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John.
“O ganlyniad, rydym bellach wedi amlinellu ein bwriad i roi cymorth ariannol pellach i’n clybiau i baratoi i fynd yn ôl i rygbi ac aros yn ganolog i’n cymunedau.
“Sefydlwyd Grŵp Gweithgor Cyfleusterau yn cynnwys cynrychiolwyr clybiau er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i wrando a chefnogi ein gêm gymunedol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
“Bydd rhagor o fanylion am y mathau o wariant y gellir eu cefnogi a sut y gall clybiau wneud cais am elfen grant y cynllun yn cael eu darparu cyn bo hir.”
Ar ôl cyhoeddi’r canllawiau ar y cynllun bydd Tîm Datblygu’r Clwb yn cynnal sesiynau lleol/rhithwir lle bydd staff Undeb Rygbi Cymru wrth law i roi arweiniad manwl ar y cymorth a fydd ar gael i glybiau.
Bydd y Gronfa £600,000 yn ychwanegol at y grantiau rygbi a datblygu ar gyfer tymor 2020/21, gyda’r manylion ar y grantiau hynny i’w cyhoeddi cyn hir.
Mae’r £600,000 ychwanegol hwn yn golygu bod Undeb Rygbi Cymru bellach wedi neilltuo dros £1m o gyllid brys i glybiau yn y chwe mis diwethaf, gan gynnwys £100,000 i gefnogi gwaith adfer yn dilyn storm Dennis, a £300,000 a dalwyd i glybiau ar gychwyn y CV-19 cloi, drwy’r grant £1,000 y clwb.
Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen gyllido newydd yn cael ei hanfon at Ysgrifenyddion y clwb cyn bo hir.
Yn y cyfamser, dylai clybiau gyfeirio unrhyw ymholiadau at clubdevelopment@wru.wales
Atgoffa am yr Etholiad
Rydym yn gobeithio fod y clybiau sy’n aelodau wedi mwynhau’r hystyingau rhithwir a gynhaliwyd ar-lein yr wythnos diwethaf ar gyfer etholiad Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol, yn cael eu herio gan Nigel Davies, Ieuan Evans a John Manders, gyda’r tri ymgeisydd yn gwneud achosion cryf ac yn ateb cwestiynau gydag angerdd a diddordeb amlwg.
Atgoffir clybiau mai’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd papurau pleidleisio ar gyfer yr etholiad hwn yw 3pm ddydd Gwener, 10fed Gorffennaf.
Dylai unrhyw glwb sydd heb dderbyn y papur pleidleisio eisoes gysylltu â Rhys Williams (rjwilliams@wru.wales ) yn uniongyrchol, cyn gynted ag y bo modd
Newyddion Rygbi
BWLCH CODI ARIAN PORTHAETHWY AR GYFER HOSBIS LLEOL
Mae aelodau o glwb rygbi o Fôn wedi rhoi eu gorau glas ymlaen i gefnogi hosbis lleol sydd wedi cael ei daro’n galed gan COVID-19.
Pan aeth Cymru i’r cload ym mis Mawrth, gorfodwyd Hosbis Dewi Sant i gau eu 26 siop elusennol ac atal gweithgarwch codi arian wyneb yn wyneb, gyda 90% o’u hincwm yn sychu dros nos.
Er gwaethaf ei sefyllfa ariannol, mae’r elusen wedi parhau i ddarparu gofal hosbis diwedd oes o safon uchel i gleifion o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn drwy gydol y pandemig.
Ar ôl clywed am drafferthion yr hosbis, bu chwaraewyr a chefnogwyr Clwb Rygbi Porthaethwy yn cyflwyno her o redeg, cerdded a beicio’r 10,104 milltir o Glwb Rygbi Porthaethwy i diroedd rygbi’r Chwe Gwlad, sef Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc a’r Eidal, yn ogystal â lleoliadau tair cyfres brawf y Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn Ne Affrica yn 2021.
Diolch i ymdrechion chwalu ysgyfaint mwy na 100 o chwaraewyr a chefnogwyr, cwmpaswyd cyfanswm o 16,045 milltir dros gyfnod o chwe wythnos, gyda £1,250 yn cael ei godi ar gyfer Hosbis Dewi Sant.
Meddai Darren Owen, Cadeirydd Clwb Rygbi Porthaethwy:
“Mae Hosbis Dewi Sant yn achos sy’n agos at galonnau llawer o’n chwaraewyr a’n cefnogwyr felly, roeddem yn falch iawn o allu helpu’r elusen wych hon mewn ffordd fach.
“Ar ran Clwb Rygbi Porthaethwy, hoffwn ddiolch i bawb a fu mor hael yn ein noddi.”
BADDON CYNNAR I GYFRES SEITHIAU
Mae gweddill rowndiau Cyfres Seithiau Rygbi’r Byd HSBC 2020 wedi’u canslo oherwydd natur barhaus a deinamig byd-eang y pandemig COVID-19, gan ddod â’r Gyfres 2020 i ben yn fuan.
Roedd tîm dynion Cymru i fod yn cystadlu yn Llundain, Paris, Singapore a Hong Kong wrth iddynt geisio dringo’n ôl i fyny’r safleoedd er mwyn osgoi gadael yr haen uchaf.
Fodd bynnag, cadarnhaodd cyhoeddiad yr wythnos hon gan Rygbi’r Byd na fydd unrhyw ostyngiad safle, er y bydd Siapan yn ymuno â chyfres Seithiau Rygbi’r Byd HSBC 2021 fel yr 16eg tîm craidd
Mwy yma:
DEE DDIM YN HWYLIO AR EI BEN EI HUN
Nid ynys yw unrhyw ddyn, fel y mae’r llinell enwog yn mynd. Cytuna bachwr Cymru a’r Dreigiau, Elliot Dee.
“Mewn rygbi, mae’n beth prin eich bod chi’n eistedd i lawr ac yn myfyrio ar eich holl gyflawniadau a’r bobl a helpodd chi i fynd i ble rydych chi,” meddai’r person 26 oed.
“Os oes unrhyw beth da wedi dod o’r amser yma yn y cload, mae wedi gwneud i mi sylweddoli faint o gorwynt y bu’r tair blynedd diwethaf. Doeddwn i ddim wedi cael cyfle o gwbl i edrych yn ôl ar Gwpan y Byd na’r Gamp Lawn, ond roedd y rhain yn llwyddiannau anhygoel.”
Dim ond pan oedd ganddo gadair arbennig wedi’i glustogi â’i holl grysau tîm yr oedd Dee’n disgyn yn y lle mwyaf croesawgar o dyllau cwningod. Tapestri o rygbi Gwent yw’r rhan fwyaf ohono.
Wedi’i eni a’i fagu yn Nhrecelyn, yn Sir Caerffili, mae atgofion cynharaf Dee yn rhai o nosweithiau gwlyb yn y Maes Llȇs.
Roedd yr Hyfforddwr, Paul Shipp, tad bachwr Cymru Dan20 a’r Dreigiau, Ellis, yn ddylanwad mawr ar Dee yn ei ddeng mlynedd yn Nhrecelyn. Heb sefydliad ieuenctid yn y clwb, fodd bynnag, aeth Dee ymlaen i ymuno â Phenallta, pymtheg munud i lawr y Cwm.
Erbyn hyn, roedd ei botensial wedi cael ei gydnabod gan Academi’r Dreigiau, a’i ddawn yn amlwg yn ei arddangosfeydd dosbarth ar gyfer Gwent, Caerffili ac Islwyn.
Darllenwch fwy yma:
McBRYDE YN TEITHIO TUAG ATOM
Mae Billy McBryde yn defnyddio Josh Adams fel ei ysbrydoliaeth wrth iddo dal ati i weithio ei ffordd i’r Gogledd i geisio dod o hyd i ffordd yn ôl tuag at yrfa lawn-amser gyda rhanbarth Cymreig.
Treuliodd maswr Cymru dan 20 a enillodd y Gamp Lawn yn 2016 y ddau dymor diwethaf yn chwarae i RGC 1404, sy’n seiliedig ym Mae Colwyn, yn Uwchgynghrair Cymru ar ôl cael ei ryddhau gan y Sgarlets. Erbyn hyn, mae wedi codi cytundeb ym Mhencampwriaethau Lloegr gyda Doncaster Knights.
Bydd McBryde yn ymuno â chyn faswr Dan 20 Lloegr, Sam Olver, yn y frwydr ar gyfer y crys rhif 10 ym Mharc y Castell ac yn gwybod y bydd yn rhaid iddo fwy na chyfateb â’r cysondeb a ddangosodd gyda RGC os yw am wneud y radd yn y bencampwriaeth.
“Byddwn wrth fy modd yn gallu dod yn ôl i Gymru yn y dyfodol a chwarae’n rheolaidd i ochr ranbarthol, ond yn awr, bydd fy holl ffocws ar ennill lle yn nhîm Doncaster a helpu fy nghlwb newydd i wneud yn dda,” meddai.
Mwy yma:
CLYWED GAN GREG
Rydym ni’n siarad â Rheolwr Menter Rygbi URC, Greg Woods, yr wythnos hon.
Dywed wrthym beth yw ei waith o ddydd i ddydd ac mae’n egluro sut y bydd fersiynau eraill o’r gêm yn chwarae eu rôl yn arwain y ffordd allan o’r argyfwng Coronaidd hwn, yn ogystal â darparu diweddariad i’w groesawu ynglŷn â sut y mae timau yn Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yn paratoi.
Gwrandewch yma:
AC YN OLAF … CHARVIS YN DWYN BLYNYDDOEDD HYDREF I GÔF
Mae aelod o Gyngor Undeb Rygbi Cymru, Colin Charvis, yn cofio’r diwrnod pan sylweddolodd fod hen dad amser wedi dal i fyny gydag ef yn Bermuda.
Mae cyn-gapten Cymru – y pumed sgoriwr ceisiau uchaf i Gymru hyd yn oed, ac allan ar ei ben ei hun fel blaenwr, gyda 22 o 94 o gapiau – yn ymwelydd cyson â’r Clasur Rygbi Byd-eang blynyddol, a gynhaliwyd ar yr ynys isdrofannol.
Mae’r twrnament, i bobl 35 oed a hŷn, bob amser wedi denu rhai o’r chwaraewyr rygbi ‘henafol’ gorau yn y byd, gan gynnwys digon o Gymry. Roedd Dafydd James a Chris Wyatt yn ymddangos yn nhwrnament 2015, yn chwarae i dîm clasurol y Llewod, mewn cystadleuaeth a oedd yn ymddangos mewn rhaglen uchafbwyntiau twrnament ar S4C nos Lun (sydd ar gael ar-lein o hyd yma: www.s4c.cymru/en/sport/# ).
Roedd Charvis wedi ymddangos mewn tri digwyddiad, a’r olaf ohonynt yn dangos grym aros trawiadol drwy chwarae yn yr hen oed gymharol aeddfed o 41 yn 2014.
Daeth ei Dîm Clasurol o’r Llewod i fyny yn erbyn yr Ariannin, yn cynnwys carfan o chwaraewyr a oedd yn bennaf wedi ffurfio craidd eu hochr genedlaethol a oedd wedi mynd i Gwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd.
Roedd digwyddiad y llynedd yn cynnwys cyn-seren Lloegr a Toulon, Delon Armitage, a oedd newydd fynd heibio ei benblwydd yn 35 oed, yn ogystal â gwyrddion bob maser Cymru ‘ James, yn awr yn 44, a Ceri Sweeney, a basiodd ei farc penblwydd yn 40 oed eleni.
Gwnaeth Charvis ddwy rownd derfynol gyda’r Llewod Clasurol ag un rownd gynderfynol, ond ni lwyddodd erioed i godi’r tlws. Ond, yn ogystal ag arddangos hufen y grŵp chwarae sy’n britho braidd Rygbi’r Byd, mae gêm Glasurol Rygbi’r Byd yn ymwneud â llawer mwy.
Mae gan y digwyddiad, meddai Charvis, fiwsig ac awyrgylch sy’n unigryw yn y gamp ac yn un sy’n ddyledus i’w apêl arbennig i sylw’r hen ysgol am draddodiadau annwyl y gêm – ar y cae ac oddi arno.
Stori llawn: www.wru.wales/2020/06/62624/