Gyda’r Scarlets a Chymru, mae siarad Cymraeg yn beth cyffredin i ŵr sy’n gysylltiedig â Sir Gaerfyrddin. “Boed hynny gyda fy nghyd-chwaraewyr, aelodau o’r staff hyfforddi neu’r tîm dadansoddi, mae Cymraeg wastad yn cael ei siarad,” meddai Owens, un o fachwyr enwocaf y gêm. “Mae canu emynau Cymraeg yn draddodiad gyda chlwb a gwlad – hyd yn oed gyda’r Llewod – ac mae wedi bod yn wych i chwarae fy rhan yn ei barhad dros y blynyddoedd.”
Yn Eisteddfod 2019, derbyniodd ef a Jonathan Davies un o’r anrhydeddau mwyaf yn niwylliant Cymru. “Oherwydd ei fod yn beth mor gyffredin i nifer ohonom i siarad yr iaith, efallai nad ydych yn ei ystyried i fod yn rhywbeth i’w ddathlu – felly pan gyflwynwyd gwisg las yr Orsedd i Jon a minnau, roedd e’n achlysur balch iawn.”
Dim ond dechrau ar ei gyrfa ryngwladol mae Manon Johnes, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, ond fel Owens, Cymraeg yw ei hiaith gyntaf. “Doeddwn i ddim yn gallu siarad Saesneg tan fy mod i’n saith oed, pan gafodd ei ddysgu i ni yn yr ysgol gynradd,” meddai’r rheng-ôl 19 oed. “Yn fy mlwyddyn TGAU yn Ysgol Glantaf, doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi fy ngallu i siarad Cymraeg gymaint a ddylwn i – efallai oherwydd ein bod ni’n cael stŵr am siarad Saesneg mor aml! – ond unwaith roeddwn i yn y Chweched Dosbarth, dechreuais gydnabod ei gwerth lawer yn fwy.”
Mae Johnes yn paratoi i ddechrau ar bennod newydd arall yn ei bywyd: wythnos nesaf, bydd hi’n mynd i Brifysgol Rhydychen. “Wrth siarad â fy holl ffrindiau sydd hefyd yn mynd i brifysgol yn Lloegr, rydyn ni’n poeni y gallen ni golli’r iaith; hynny yw, y gallu i siarad Cymraeg â rhywun o ddydd i ddydd, sy’n fy ngwneud yn drist.”
Nid yw’r diffyg Cymraeg hwnnw’n bryder i Johnes pan ai hi’n ôl adref i hyfforddi gyda Chymru – na chwaith pan mae hi gyda’i chlwb, Bristol Bears. “Mae cymaint ohonom ni’n siarad yr iaith yng ngharfan Cymru; mae mwy ohonon ni sy’n gallu ei siarad na rhai sydd methu, ddwedwn i,” meddai Johnes. “Mae’n braf cael y rhan fwyaf o’n galwadau trwy gyfrwng y Gymraeg – pethau bach fel ‘na. Ac yna, ym Mryste, mae pump neu chwech ohonom ni’n siarad Cymraeg, felly mae’n teimlo’n debyg iawn i adref pan fydda’ i yna.”
Mae bod yn ddwyieithog yn ddawn wych i’w chael, meddai. “Ni fydden wedi cael fy swydd dysgu yn ystod fy mlwyddyn i ffwrdd, pe na bawn i’n medru’r Gymraeg, felly rwyf eisoes wedi elwa o’i siarad. Mae bendant yn rhywbeth galonogol bod yr iaith ar gynnydd, oherwydd gall fod yn frwydr anodd ei hennill. Rydych chi eisiau i bobl ifanc ei gwerthfawrogi’n fwy, ond ‘dych chi ddim eisiau eu troi i ffwrdd trwy eu gorfodi i’w siarad. Mae’r iaith bendant yn rhywbeth rydych chi’n ddiolchgar amdani pan rydych chi ychydig yn hŷn.”
Nid yw mewnwr y Dreigiau, Tavis Knoyle, sydd ag 11 cap dros ei wlad, yn dod o ardal sy’n cael ei hystyried yn gadarnle’r iaith Gymraeg. Mae tref Glyn-nedd, mae e’n amcangyfrif, â rhaniad “efallai 70-30 rhwng siaradwyr Saesneg a Chymraeg”.
Pan oedd Knoyle yn tyfu i fyny, teithiodd y mwyafrif o’r plant o’i ardal i Ferthyr neu Aberdâr i fynychu ysgolion Saesneg, ond roedd ef yn y lleiafrif a aeth i ysgol Gymraeg ei hiaith, Ystalyfera. “Mae yn rhoi hunaniaeth i chi achos, ar y pryd rwyt ti’n teimlo ychydig yn y lleiafrif,” esbonia. “Ond mae’n gwneud i fi deimlo’n falch fy mod i’n siaradwr Cymraeg. Bydd fy mhlant yn mynd i ysgol Gymraeg ac rydw i mor falch ein bod ni’n gallu rhoi’r cyfle hwnnw iddynt.”
Pan oedd Knoyle gyda’r Scarlets ar ddechrau ei yrfa, byddai’n siarad Cymraeg â phobl fel Ken Owens ac, yn bwysicach fyth o ystyried ei safle, y maswr, Stephen Jones. “Bydden i a Steve yn rhedeg o amgylch y cae yn siarad Cymraeg, yn cael sgwrs ac yn mynd trwy ein symudiadau nesaf,” meddai Knoyle, wrth chwerthin. “Golyga hyn fod pethau’n haws wrth i ni chwarae’n erbyn llawer o dimau di-Gymraeg!”
Er efallai nad yw’r Gymraeg yn cael ei chlywed gymaint yn Rodney Parade o gymharu â’r Gorllewin, bu mewnlifiad o siaradwyr Cymraeg yno’n ddiweddar. “Mae Mefin Davies a Jamie Roberts gyda ni nawr, felly mae’r niferoedd wedi cynyddu,” meddai Knoyle. “Rwy’n siarad Cymraeg â Mef drwy’r amser. Mae’n gallu bod yn dipyn o Wenglish ar fy rhan i achos dw’ i heb ei siarad cyhyd, ond rwyf wrth fy modd yn gallu gwneud hynny.”
Un arall sydd ddim wedi ei hanu o ardal sydd wedi’i thrwytho yn yr iaith yw bachwr y Gweilch, Dewi Lake, a gofleidiodd y Gymraeg diolch i’w addysg. “Dim ond un ysgol uwchradd Gymraeg sydd yn ardal Pen-y-bont,” meddai cyn-gapten dan-20 Cymru, “felly rwy’n ffodus bod fy rhieni, sydd ddim yn siaradwyr Cymraeg, wedi danfon fy chwaer a minnau i Langynwyd. Ond ar ôl i ni ddechrau yno fe ddysgon nhw dipyn bach o Gymraeg diolch i ni a byddent yn ceisio cael sgyrsiau gyda ni.”
Oherwydd ei rôl fel capten y tîm dan-20, mae Lake wedi gwneud nifer fawr o gyfweliadau yn fyw ar y teledu yn y Gymraeg. “Mewn gwirionedd, rydw i wastad wedi bod yn fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg yn y cyfweliadau ‘ma oherwydd byddai adegau pan fyddwn i’n gwybod geiriau neu dermau yn y Gymraeg, na fyddwn i’n eu gwybod yn Saesneg oherwydd dyna sut y cawsom ein dysgu yn yr ysgol,” meddai Lake. “Pan rydych chi’n yr ysgol, dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor werthfawr yw’r iaith. Dim ond yn hwyrach ymlaen rydych chi’n sylweddoli pa mor ddefnyddiol gall fod, ac mae’n gwneud i chi deimlo’n ddiolchgar eich bod wedi derbyn y cyfle i’w dysgu.”
Er hyn, mae Lake yn cyfaddef ei fod wedi synnu cymaint y mae wedi defnyddio’r iaith ers gadael Llangynwyd. “Yn y Gweilch, gallwch glywed cymaint ohonom yn cael sgyrsiau yn y Gymraeg oherwydd rydyn ni i gyd yn gyffyrddus yn gwneud hynny.” Daeth o hyd i gymuned yr un mor gynhwysol pan dreuliodd amser gyda’r garfan genedlaethol yn ddiweddar. “Mae’n beth naturiol. Hyd yn oed yn safle’r bachwr yn unig, mae Ken Owens, Ryan Elias a fi i gyd yn sgwrsio yn y Gymraeg.
“Os ydych chi’n clywed pobl yn siarad Cymraeg, rydych chi’n dueddol o ymuno mewn gyda nhw.”