Neidio i'r prif gynnwys
Jones: Cymru’n llawn cyffro wrth baratoi am yr Alban

Jones: Cymru’n llawn cyffro wrth baratoi am yr Alban

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Stephen Jones, hyfforddwr ymosod Cymru, wedi amlygu pwysigrwydd y gêm yn erbyn yr Alban ar ddydd Sadwrn.

Rhannu:

“Mae pwysigrwydd y gêm yn enfawr, mae e mor syml â hynny,” dwedodd Jones. “Fel carfan hoffwn ni gorffen y Chwe Gwlad ar nodyn positif, ac i wneud hynny mewn ffordd bositif gan gael canlyniad da.

“Mae pawb yn edrych ymlaen tuag at Gwpan Cenhedloedd yr Hydref, ond mae angen i ni gael perfformiad a chanlyniad da ar ddydd Sadwrn.”

Does dim strach o gwbl ar ôl y gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc, yn ôl Jones. “Mae rhaid i ni ennill ar ddydd Sadwrn, ond mae hwnna’n cynyddu’r cyffro i ni. Yn amlwg roedd ‘na rwd ym mherfformiad ni ym Mharis, ond da ni gyd fel carfan yn edrych i wella ar yr ardaloedd allweddol hynny.”

Felly fe wnaeth y cyfarfod gyda’r Ffrancwyr profi’n ddefnyddiol iawn yn edrych tuag at her yr Albanwyr? “Yn hollol. Wnaeth y gêm cyflawni ei bwrpas gan danlinellu ein blaenoriaethau fel hyfforddwyr, sy’n hollbwysig er mwyn chwarae’r ffordd rydyn ni eisiau chwarae wrth symud ymlaen.”

Mae Jones yn groeso’r dychwelyd i Lanelli, lle dreuliodd 20 mlynedd fel chwaraewr a hyfforddwr. “Mae’n deimlad gwych i fynd yn ôl yna,” meddai Jones. “Mae lot o atgofion cynnes gen i o’r lle, ac mae’r ffaith bod hi’n gêm ryngwladol yn gwneud pethau hyd yn oed yn fwy arbennig.”

Mae’r hanes Cymru yn chwarae gemau rhyngwladol yn y dref fwyaf Sir Gaerfyrddin yn mynd nôl i 1887, pan groesawyd Lloegr i Strade (canlyniad: 0-0); gyda’r gêm diweddara yn 1998 yn erbyn yr Ariannin (buddugoliaeth o 43 pwynt i 30 i Gymru). “Mae’r chwaraewyr gwir yn edrych ymlaen at redeg mas ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn.”

Gyda’r Albanwyr yn dod mewn i’r gêm ar gefn perfformiad da yn erbyn Georgia, mae Jones yn disgwyl cystadleuaeth gynhyrfus. “Gorffennwyd yr Alban y gêm yn gryf, maen nhw eisiau symud y bêl o gwmpas, ac mae ‘da nhw gêm cicio ymosodol da. Ond fe wyddon ni hwnna i gyd achos y paratoadau ar gyfer y gêm yma yn fis Mawrth [pan ohiriwyd y gêm].”

Mae’r hyfforddwr yn pwysleisio bod cyflwyno strategaeth ac athroniaeth newydd i dîm rhyngwladol ddim yn digwydd dros nos. “Mae pethau hyn yn cymryd amser. Fe gollon ni talp mawr o amser gyda’r pandemig, collon ni taith yr haf, er esiampl. Ond nawr mae gyda ni’r chwaraewyr am sbel hir sy’n rhoi digon o amser i ni weithredu’r steil ni. Does dim esgusodion nawr.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Jones: Cymru’n llawn cyffro wrth baratoi am yr Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Jones: Cymru’n llawn cyffro wrth baratoi am yr Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Jones: Cymru’n llawn cyffro wrth baratoi am yr Alban
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Jones: Cymru’n llawn cyffro wrth baratoi am yr Alban