Dros nos, aeth y blaenwr 23 oed o fod yn alwad hwyr i’r garfan swyddogol Cymru, i gael ei enwi yn y XV cychwynnol Cymru am ei chap cyntaf heddiw ym Mharc y Scarlets. “O’n i jyst yn ddiolchgar i gael y siawns i ddod mewn a dangos be fi gallu neud. Gobeithio rwy wedi neud hynny a gallai mynd mas yna ar y penwythnos i ail-dalu’r ffydd mae’r hyfforddwyr wedi dangos yndda i.”
Mae gyrfa gynnar Lewis-Hughes wedi bod yn gyfystyr â rygbi yn y Cymoedd. Dechreuodd yn ifanc gyda Glynrhedynog, a chynrychiolodd Ysgolion Rhondda cyn symud i Goleg y Cymer, lle enillodd llwyth o wobrwyon – a sylw.
Gafodd yr holl waith caled yn ei harddegau ei wobrwyo yn 2016 pan chwaraeodd pob munud o ymgyrch Camp Lawn Cymru D20 yn y Chwe Gwlad. Doedd dim angen i Lewis-Hughes edrych yn bell am ysbrydoliaeth wrth ddod trwy’r rhengoedd yn y Gleision, gyda gwr o’r enw Sam Warburton yn arwain y ffordd ym mhob agwedd.
Mae Lewis-Hughes yn hapus i ddefnyddio’r gair ‘obsesiynol’ yn hunan-ddisgrifiedig, ond pan fyddai’n rhedeg mas ar Barc y Scarlets prynhawn yma, bydd yr holl oriau o ymarfer caled wedi bod yn werth chweil.
“I bob pwrpas, dwi’n credu mewn bod y fersiwn orau ohonoch chi’ch hun bob dydd,” meddai Lewis-Hughes. “Dyna feddylfryd rydw i wedi’i gael cyhyd. Beth bynnag rydw i’n gwneud, rydw i eisiau bod y gorau ynddi. Mae’n rhywbeth rydw i wastad wedi’i gael ynof a phan ddechreuais i chwarae rygbi, roeddwn i’n gwybod y gallwn i ffeindio’r fersiwn orau ohonof i fy hun ym myd rygbi.
“Os gallwch chi fynd i gysgu yn y nos gan wybod eich bod chi wedi gwneud popeth y gallwch chi’r diwrnod hwnnw i fod y fersiwn orau ohonoch chi’ch hun, ni waeth beth chi’n gwneud, gallwch chi orffwys yn hawdd.” Peidiwch synnu os mae’r meddylfryd hwn yn cymryd ef hyd yn oed ymhellach.
Yn ôl prif hyfforddwr Wayne Pivac, mae’r prosiect i amlygu Lewis-Hughes i’r amgylchedd rhyngwladol wedi cyflymu rhywfaint ar ôl anafiadau yn y garfan, ond mae e’n rhagweld dyfodol disglair i’r blaenasgellwr.
Ond beth am y gorffennol? Mae atgof cyntaf rygbi Lewis-Hughes yn glir yn ei meddwl. “Rwy’n cofio gwylio’r teledu ac roedd mam yn eistedd reit ar bwys fi… Gofynnais i, ‘be’ sydd ar y teledu?’ ac esboniodd hi taw rygbi oedd hi a Chymru oedd yn chwarae.
“Dwedais i, ‘Mam, dwi rili eisiau trio rygbi, oes ‘na unrhywle rownd fan hyn gallai chwarae?’ A dwedodd hi, “Ie, mae ‘na glwb yn Glynrhedynog, 10 eiliad rownd y cornel o ni!’ Dwi’n cofio popeth o’r sesiwn cynta’. Heb fod yn gor-deimladol, ges i deimlad pan gyffyrddes i’r bêl… teimlad doeddwn i ddim eisiau gadael i’r bêl fynd. Mae hynna wedi gyrru fi ymlaen pob dydd ers ‘ny.
“Rwy’n caru rygbi yn llwyr. Mae’n rhywbeth sydd wastad wedi bod yn fy nghalon ac mae’n golygu popeth i fi a fy nheulu. Gyd fi’n gobeithio yw fy mod i allu gwneud fy holl ffrindiau a theulu yn browd trwy’r gêm.”
Os oes owns o dristwch am ei gyflawniad heddiw, falle taw’r ffaith bydd ei anwyliaid ddim yno i’w cefnogi ar ei chap cyntaf. “Ie. Fy mam yw fy ysgogiad mwyaf, nid yn unig yn rygbi ond ym mhopeth. Bydd peidio â chael hi yno a pheidio â chael fy nghariad yno a fy nheulu a ffrindiau yn drist oherwydd roeddwn i eisiau rhannu’r foment gyda nhw. Mae hynny’n siomedig ond rwy’n gwybod y byddan nhw’n gwylio ar y teledu ac yn fy nghefnogi.”