Neidio i'r prif gynnwys
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr

Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae amaeth a thraddodiadau Cefn Gwlad yn treiddio trwy wythiennau Wyn Jones a’i gynefin wedi bod yn falm i’r galon yn ystod y ‘cyfnod clo’.

Rhannu:

‘Does unman yn debyg i adra’ yw geiriau’r gân enwog gan Gwyneth Glyn ac un fyddai’n siwr o gyd-fynd â hynny yw prop Cymru a’r Scarlets Wyn Jones . Wedi’i godi a’i fagu ar fferm Clynmawr yng Nghil-y-cwm ger Llanymddyfri ,mae’r cysylltiad â chefn gwlad yn rhedeg yn ddwfn yn y teulu a defynyddio bôn braich yn y parlwr godro yn ail natur . Doedd y cyfnod clo ddim yn rhwydd i sawl chwaraewr a’r rhwystredigaeth o beidio bod ar y cae a chael gwneud yr hyn oedd yn naturiol yn seicolegol anodd. Ond i eraill roedd yn gyfle i ail-gynnau’r fflam.

“I fod yn onest nes i fwynhau’r cyfnod clo: roedd cael bod nôl ar y fferm yn gweithio ac helpu gynnal bywoliaeth y teulu yn fodd i ddianc o realiti’r sefyllfa. Mi o’n i’n brysur iawn ac roedd hynny’n help i gadw’r corff yn ffit ac yn bwysig i’r meddwl hefyd – roedd yn fuddiol iawn a dweud y gwir. Wrth gwrs o’n i’n colli trefn ymarfer a chael cwrdd lan da’r bois ond i fi yn bersonol mi oedd hi’n gyfle i wneud rhywbeth gwahanol – cyfle na fyddwn wedi ei gael fel arall.”

Ma Wyn bellach yn byw ger y fferm ar lecyn yn Nantfforest ac yn hynny o beth mae’n dechre edrych tua’r dyfodol pan fydd angen creu bywoliaeth wedi’r rygbi ddod i ben.

“Nes i raddio yn Amaeth a Gwyddaorau Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth. Nes i fwynhau fy nghyfnod yn y flwyddyn gyntaf yn Neuadd Pantycelyn ac roedd yn bwysig i mi gael gymhwyster tu fas i rygbi ac astudio ym myd amaeth oedd y peth naturiol  Ma’n rhaid cynllunio at y dyfodol. Mae gyrfa chwaraewr proffesiynnol yn gallu bod yn fyr iawn ac felly drwy gymryd y camau yma dwi’n gobeithio fydd na rhywbeth i afael ynddo pan fyddai’n hongian y sgudiau lan.”

Yn ddiymhongar oddi ar y cae does fawr o bethau yn ei boeni fel person yn enwedig y feirniadaeth diweddar wedi colli chwe gêm o’r bron, er yn cydnabod roedd na rhywfaint o ryddhad o guro Georgia ar Barc y Scarlets i ddod a’r rediad siomedig hwnnw i ben.

“ Mae ‘na bwyse, oes, mae ‘na ddisgwyliadau o ennill pob gêm ar y lefel rhyngwladol ble gyda’r clwb neu ranbarth gewch chi sawl cyfle i daro nôl ar ôl colli, dyw’r amser na ddim gyda chi pan yn cynrychioli Cymru, ry ni’n deall hynny – ni yna i wneud jobyn a dyw pethe ddim cweit wedi cwympo mewn i le yn ddiweddar. Roedd curo Georgia yn bwysig, doedd hi ddim yn bert ond oedd y glaw wedi siwto nhw. Ma nhw’n dîm cryf a chorfforol yn enwedig yn y pac ble ma nhw bron i gyd yn chwarae eu rygbi yn Ffrainc – ma hwnna’n dangos pa mor dda y’n nhw. Dwi’n credo odd na bwynt i’w brofi yn y safleoedd gosod a fe wnethon ni hynny.”

Ma disgwyl i’r prop modern wneud gymaint yn fwy bellach nag angori’r sgrym a chario ac ad-ennill meddiant yn ddisgwyliadau hanfodol, ond heb sylfaen does dim gobaith a dyna ble ma’r maen prawf.

“Y safle gosod yw fy nghryfder dyna’r peth pwysig i mi – ma disgwyl neud popeth y dyddie yma ond y jobyn cyntaf yw y sgrym. Ma fe’n grêt bod cymaint o’r Scarlets yn chwarae yn rheng flaen a mae bod wrth ochr Samson, Ryan a Ken Owens pan yn ffit yn help i ni’n gyfarwydd â’n gilydd ac yn gwybod y pethe bach ma’r person arall yn neud. Yn sicr odd hwnna’n help yn erbyn Georgia.

“Amser ni’n colli ma pawb ‘da barn – ma hynny’n ddealladwy a wastod wedi bod yr un peth – ond ma’r sefyllfa fel y mae yn siwtio ni i’r dim a dwi’n edrych ymlan at y gêm yn fawr. Does dim torf wrth gwrs a bydd gofyn i ni greu cyffro’n hunen. Ma nifer o chwaraewyr ifanc wedi cael cyfle ac yn creu argraff yn barod. Ni’n gwybod pa mor enfawr yw’r gêm am fwy nag un rheswm.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Rhino Rugby
Sportseen
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr
Amber Energy
Opro
Wyn Jones: Gŵr ei filltir sgwâr