Yn ôl cyn rheolwr Lerpwl y cawr Bill Shankly doedd Pêl-Droed ddim yn fater o fywyd neu marwolaeth ond cymaint fwy na hynny , ond bosib dyna’r unig beth fyddai modd anghytuno a’r Albanwr ac un fyddai’n siwr o gyd-fynd â hynny yw canolwr y Scarlets Johnny Williams. Ag ynte bellach yng ngharfan Wayne Pivac ma’r gwr a annwyd ar draws yr Hafren yng Ngwlad yr Haf yn gobeithio derbyn yr alwad yn ystod Cwpan Cenhedloedd yr Hydref, ond doedd cyraedd y man yma ddim yn rhwydd ac un her benodol wedi newid ei bersepectif ar fywyd yn llwyr. Ar ôl cynrychioli Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn erbyn y Barbariaid flwyddyn a hanner yn ôl roedd Williams yn synhwyro nad oedd popeth yn fêl i gyd o ran ei iechyd ac wedi rhai wythnosau o bendroni dyma’r meddyg yn cadarnhau’r hyn oedd yn ei boeni sef ‘diognosis’ o ganser y ceilliau a chwrs o chemotherapy i ddilyn .
“Roedd yn eitha brawchyus ar y pryd ond roedd oedran o’m mhlaid i. Roedd y teulu mor gefnogol ac yn hwb i gadw’r ysbryd yn uchel. Yr uchelgais i mi ers yn fachgen ifanc oedd cyraedd y brig a doedd hynny heb newid hyd yn oed yn ystod y dyddiau du. I chi’n sylweddoli beth sy’n bwysig mewn bywyd sef teulu a ffrindiau , ac yn brofiad sy’n neud i rhwyun werthfawrogi pob dim”
Er yn ddiolchgar wedi gwella o’r profiad , ma’r gofal yn parhau ac ymweld a’r Ysbyty bob pedwar mis i sicrhau nad oes unrhyw broblem o’r newydd yn angenrheidiol.
“Am y flwyddyn gynta mi oedd y driniaeth yn drwm- mae hynny wedi lleihau bellach ond ma mynd i’r ysbyty dal yn gallu bod yn brofiad amhleserus a’r straen seicolegol dal yn bodoli yn enwedig yn ystod y cyfnod ansicr yma “
Ma’r cysylltiad a Chymru yn ddwfn gyda’i dad Gareth sy’n rhugl yn y Gymraeg yn hannu o’r Rhyl. Yn aml fyddai’n mynychu gemau yn Stadiwm y Millenwim yn ystod ei blentyndod a’r enw llawn Johnny Bleddyn Rhys Williams yn gadarnhad o’r gwreiddiau Cymreig , ac o ganlyniad ‘Bledd’ yw ei enw bellach o fewn y garfan .
“Roedd na gysylltiad cryf â rygbi Cymru yn ystod fy mhlentyndod , dwi’n cofio bod yn y gêm pan enillodd Cymru o 30-3 yn erbyn Lloegr ( i ennill y bencampwriaeth ) yn 2013 a dwi’n cofio gwylio Gavin Henson yn erbyn y Cryse Duon yn 2004. Dwi wedi bod yn mynd i gemau rhyngwladiol yng Nghaerdydd ers yn wyth mlwydd oed , roedd yn ddylanwad mawr arnai . Yn ddiweddar fues i yn y stadiwm yn gwylio Cymru’n cipio’r Gamp Lawn yn erbyn Iwerddon blwyddyn diwethaf felly mae’n rhyfedd mod i bellach yn aelod o’r garfan ar ôl bod yn gefnogwr am yr holl flynyddoedd”.
Shwd brofiad felly oedd datblygu trwy system ieuenctid Lloegr a chwarae dros ‘yr hen elyn’
“Roedd hi’n brofiad anoddach i fy nhad ma hynny’n sicr . Roedd yn aml yn dweud os oedd na achlysur ble fydden yn wynebu Cymru, ei fod yn dymuno mod i’n cael gêm dda sgori hatrick- ond bod Lloegr yn colli ! Fe ddigwyddodd y profiad i mi unwaith tra’n cynrychioli tîm dan ddeunaw Lloegr , pan ddath ei ddymuniad yn wir wrth i Gymru ennill” .
Ar ol cynrychioli tîm y Gwyddelod yn Llunden ac yna Newcastle fe dyfodd y posibilrwydd o symud i chwarae yng Nghymru ar ol i Wayne Pivac gysylltu a’r chwaraewr i’w geisio ddarbwyllo i ddewis Cymru yn hytrach na Lloegr .
“ Fe waneth e sôn bod yna gyfle posib ac o hynny ymlaen roedd yna ddyhead i chwarae yng Nghymru . Wedi’i sawl canolwr adael y ranbarth yn ffodus roedd na gyfle i ymuno â’r Scarlets. Ro’n i’n gyfarwydd â’r hyfforddwr yno a felly roedd yn gyfle euraidd felly i mi ddatblygu ngyrfa . Y bwriad oedd dod i Gymru creu argraff dros y ranbarth a cael yn ddewis ar sail hynny . Dwi’n gobeithio mod i wedi gwenud hynny i rhyw raddau a nawr ma’n rhaid i mi fachu ar y cyfle pan ddaw. Rydw i ond wedi troi yn 24 felly dwi’n gobeithio bod na ddigon o amser o’m plaid ond yr hyn dwi’n gwybod mae proifiad personol wedi fy nghadw’n gytbwys , a’r profiad hwnnw gobeithio yn gymorth i oresgyn unrhywbeth ar y cae rygbi.”