Gyda mwy o bwyslais nag erioed ar y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol, mae S4C ac ITV Cymru eto eleni yn cefnogi’r cynllun i greu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh.
Mae’r cynllun hyfforddi arloesol, sy’n bartneriaeth rhwng S4C ac ITV, yn rhedeg am y trydydd tro ac yn rhan o ymrwymiad S4C i roi cyfle i bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector i weithio yn y maes.
Bydd Lewis – sydd wedi ysgrifennu colofn ynglyn â’i thymor arbennig gyda Phont-y-pŵl – a Maia Davies, cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn olygydd ar bapur newydd Varsity, yn cael profiad o weithio ar y rhaglenni materion cyfoes mae ITV yn creu ar gyfer S4C, rhaglenni fel Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Byddant hefyd yn dysgu creu cynnwys materion cyfoes ffurf fer ar gyfer cynulleidfa Hansh Dim Sbin ar draws y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ddau wedi ennill eu lle ar y cynllun hyfforddi eleni a hynny o dros 90 o ymgeiswyr. Bydd y ddau i’w gweld ar dudalennau Hansh, yn torri straeon newydd ac yn ceisio tanio sgwrs am bynciau llosg a materion gwleidyddol ymysg y gynulleidfa iau.
Mae Lloyd, sy’n 24 oed ac yn wreiddiol o Gwmbrân, yn edrych ymlaen at ddilyn ei uchelgais o ddatblygu gyrfa yn y maes ar ôl dilyn gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg, Cyfryngau a Newyddiaduraeth:
“Mae’r cynllun yma yn gyfle anhygoel i gael syniad gwell o’r diwydiant a chael profiadau amhrisiadwy a fydd yn y pen draw yn galluogi i mi adeiladu gyrfa lwyddiannus.”
Un o’r pethau sy’n bwysig i Lloyd yw sicrhau cynrychiolaeth deg o’r wlad fel y mae hi heddiw:
“Rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol i roi cynrychiolaeth o Gymru fodern a’i chyfoeth o ddiwylliannau, felly i mi, hoffwn weld cynrychiolaeth well o wahanol ethnigrwydd yn ein cynnwys cymdeithasol, a fydd yn ei dro yn cynyddu sylfaen ein cynulleidfa.”
Fel athletwr elitaidd, mae chwaraeon o ddiddordeb mawr iddo:
“Rwy’n credu bod cyfle enfawr i greu mwy o gynnwys sy’n gysylltiedig â chwaraeon ar lwyfannau fel Hansh a fydd yn ei dro yn cynyddu sylfaen ein cynulleidfaoedd ymhellach.”