Mae Watkin wedi cyflawni lot ers gadael Ysgol Llangynwyd, yr unig ysgol gyfun iaith Gymraeg ym Mhenybont – mae chwaraewyr Gweilch Harri Morgan a Dewi Lake hefyd yn cyn-ddisgyblion – gan gynnwys ennill y Gamp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2019.
Er y newyddion dros y penwythnos ynglŷn ag ymadawiad yr hyfforddwr amddiffyn, Byron Hayward, mae Watkin yn gadarn wrth nodi safbwynt y chwaraewyr. “Gyd ni gallu neud yw canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae – boed hynny yn ymarfer neu ar nos Wener yn Nulyn. Dyna’r cyfan y gallwn ni ei reoli.”
Mae e’n ymwybodol bod pethau wedi gallu mynd yn well yn erbyn yr Albanwyr penwythnos diwethaf. “Doedde ni ddim yn agos at fod yn ddigon da, sy’n siomedig iawn,” meddai Watkin. “Serch hynny, roedd yna agweddau a oedd yn dda, ond agweddau a oedd yn ddrwg iawn hefyd.”
Mae Watkin, sy’n ennill ei 24ain cap heno, yn edrych ar Gwpan Cenhedloedd yr Hydref fel dechreuad ffres i Gymru. “Meddylfryd ni yw bod y Chwe Gwlad wedi gorffen, gallwn ni cau’r llyfr ar ymgyrch ‘na. Rydyn ni’n mynd mewn i gystadleuaeth newydd ac yn mwynhau’r cyfle sydd gyda ni.
“Mae’r ffaith bod Wayne [Pivac] wedi rhoi ail gyfle i cymaint o’r tîm wedi rhoi hwb mawr a hyder inni – y ffaith bod ni wedi cael y cyfle eto i chwarae a dangos be ni gallu neud.”
Y gorffennol yw’r gorffennol, mae Watkin yn dweud. “Mae gennym ni’r garfan i guro Iwerddon ac rydym yn hyderus y gallwn wneud hynny ar ôl bloc da o hyfforddiant dros y pythefnos diwethaf.
“Rydyn ni’n edrych i’r dyfodol.”