Neidio i'r prif gynnwys
Pivac gyda llygad ar y dyfodol

Pivac gyda llygad ar y dyfodol

Felly mae’r cylch yn troi’n gyflawn i Gymru wrth gwblhau’r flwyddyn yn erbyn yr un tîm ddechreuodd y cyfan nôl ym mis Chwefror sef yr Eidal.

Rhannu:

Mae’r gêm honno’n yn teimlo mewn rhyw fyd arall bron gyda bywyd ers hynny wedi throi ar ei phen. Roedd olynnu rhywun o statws Warren Gatland byth yn mynd i fod yn hawdd i Wayne Pivac wrth ddilyn gwr dyma’n goruchwylio dros oes aur i rygbi Cymru a hynny ar ôl codi’r tîm cenedlaethol o’r dyfnderoedd.

At ei gilydd mae’r mwyafrif wedi derbyn na fyddai gwyrthiau yn digwydd dros nos. Bydd cefnogwyr y Scarlets yn barod i ddweud nad oedd pethau’n fêl i gyd chwaith yn ystod ei gyfnod gyda’r ranbarth wrth golli tair gêm gynta’r ymgyrch cyn mynd ymlaen i gael eu coronu’n bencampwyr Pro Deuddeg fel yr oedd hi yn 2017.

“Dwi’n swnio fel tôn gron ond dy ni’n edrych ar y cyfnod rhyngwladol yma yn gyfle i edrych ar ddyfnder y garfan wrth symud ymlaen. Ma chwaraewyr yn mynd yn hyn felly i ni’n sylweddoli bydd na olwg gwahanol ar y garfan a ma’r broses yma wedi dechrau’n barod. Dwi ddim am eiliad yn dweud bod y record yn dderbyniol ond mae rhaid meddwl am y darlun ehangach. Ry ni’n dysgu ynglyn a’r garfan fesul gêm, ma anafiadau wedi effeithio ar ein paratoadau a’r opsiynnau sydd ar gael i ni ond mae hynny wedi agor cul y drws i eraill sy wedi bwrw’i swildod ar y llwyfan rhyngwladol a fydd hynny’n amhrisiadwy yn y tymor hir”

Mae’r pwynt yn un teg: hynny yw, mae’n eitha posib na fydd na sawl wyneb cyfarwydd yn dal i chwarae erbyn Cwpan y Byd mewn tair blynedd ac felly mae datblygu gwaed newydd yn angenrheidiol. Ma na dalent ifanc amlwg wedi cael cyfle a braf oedd gweld Louis Rees- Zammit, Ioan Lloyd a James Botham er enghraifft.

“Mae’n rhwystredig oherwydd mae’n teimlo [i ni] ar adegau mai ein camgymeriadau ni sy’n achosi trafferthion on rydyn ni’n gystadleuol yn y gemau yma ac os i ni’n parhau i weithio’n galed dwi’n siwr newn ni gyrraedd pen y daith,” meddai’r canolwr Nick Tompkins. “Roedd na welliant mawr yn erbyn Lloegr. Roedd mwy o rheolaeth a’r dwyster yn amlwg , ry’n ni’n disgwyl mwy o’n hunain fel tîm, dy ni ddim yn hapus ein bod ni di colli [yn erbyn Lloegr] ond o ystyried eu bod nhw’n ail yn y byd, ma’n rhaid bod yn bositif ynglyn a hynny a chadw dyfalbarhau.”

Mesur unrhyw hyfforddwr yw canlyniadau a thra bod hynny wedi bod yn siomedig yn 2020, mae’r tîm yn gweithio’n galed i sicrhau fe ddaw eto haul ar fryn yn 2021.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Rhino Rugby
Sportseen
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Pivac gyda llygad ar y dyfodol
Amber Energy
Opro
Pivac gyda llygad ar y dyfodol