Neidio i'r prif gynnwys
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi

Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae asgellwr ifanc y Scarlets, Tom Rogers, yn brysur yn profi ei hun yn boblogaidd gyda’i chyd-chwaraewyr – ar ac oddi ar y cae.

Rhannu:

Mae’r chwaraewr 21 oed o Cross Hands, sydd wedi cynrychioli Cymru dan 20 a Chymru Saith Bob Ochr yn ystod y tymhorau diweddar, wedi rhoi’r hwb perffaith i’r tîm allan o drelar ceffyl sydd wedi ei ailwampio. Mae Y Bocs Coffi, busnes newydd Rogers, wedi ymddangos cwpl o weithiau wrth ochr Parc y Scarlets y tymor hwn.

Meddai am y proses weddnewid, a dechreuodd ym mis Ionawr 2019: “Fe wnaethon ni prynu hen flwch ceffyl o Gaerdydd, tynnu’r cyfan allan a dechrau o’r dechrau.”

Roedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer Y Bocs Coffi yn ddeublyg, eglura Rogers. “Mae gan fy chwaer a fy mrawd-yng-nghyfraith trelar gin, felly roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth tebyg gyda choffi. Sylwais hefyd sut mae holl fechgyn y Scarlets yn caru eu coffi, felly roedd yn ymddangos fel syniad da.”

Roedd hyn yn golygu dilyn diwrnodau hir lle fyddai Rogers yn dod adref o hyfforddi gyda Scarlets i weithio ar y bocs. “Yn y bôn, wnes i basio’r offer i fy nhad,” mae’n cyfaddef, “ond fe dalodd ein holl waith caled ar ei ganfed yn y diwedd.”

Y nod yn y pen draw yw i’r Bocs Coffi ddod yn siop, er bod Rogers yn cydnabod y trafferthion economaidd yn y byd ar hyn o bryd, felly mae’r uned symudol heb nifer o orbenion yn berffaith am y tro.

Mae’r blwch yn dyblu fel amgylchedd cymdeithasol ar gyfer carfan Scarlets sydd wedi bod yn teithio am y pythefnos diwethaf. “Mae’n braf dod â’r bocs i mewn a chael y bechgyn yn ôl at ei gilydd,” meddai Rogers, sydd wedi ymddangos deirgwaith i’r Scarlets y tymor hwn.

Chwaraeodd Rogers ei rygbi cynnar gyda thîm lleol Cefneithin, cyn dechrau symud ymlaen trwy raddau oedran y Scarlets. Mae wedi elwa o gamu i fyny o’r academi i’r tîm hŷn ar yr un pryd â hyfforddwr y cefnwyr, Dai Flanagan. “Mae Dai wedi bod yn dda i mi. Rwy’n gweithio’n agos gyda fe bob dydd. I’r bechgyn ifanc, mae’n gwneud y newid o’r academi i’r tîm cyntaf yn llawer haws oherwydd mae’r berthynas honna yn bodoli eisoes.”

Ers gwella o anaf a ddioddefodd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Benetton ym mis Hydref, mae Rogers yn awyddus i chwarae ei gêm nesaf. “Mae’n anodd pan ddaw’r chwaraewyr rhyngwladol yn ôl oherwydd bod yr olwyr sydd gyda ni yn anhygoel,” meddai Rogers. “Ond rydw i’n dysgu llawer ganddyn nhw ac maen nhw i gyd yn llawagored gyda’u help. Rwy’n cymryd tips gan bob un ohonyn nhw ac rydw i wedi bod yn dysgu llawer y tymor hwn.”

Hawliodd Scarlets fuddugoliaeth drawiadol iawn yng Nghaerfaddon yn y Cwpan Heineken ar ddydd Sadwrn. “Roedd hwnnw’n berfformiad anhygoel,” meddai’r cyn-ddisgybl Maes y Gwendraeth. “Rydyn ni’n gwybod beth allwn ni ei wneud ac mae ond angen i ni ei wneud hynny eto pan rydyn ni’n mynd i Toulon ddydd Gwener.”

Ymwelwch â gwefan Y Bocs Coffi fan hyn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Rhino Rugby
Sportseen
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi
Amber Energy
Opro
Rogers yn camu i’r adwy gyda’i choffi