Neidio i'r prif gynnwys
Sophie Spence

Sophie Spence - hyfforddwr intern Menywod Cymru ar gyfer RWC 2021

Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021

Heddiw cyhoeddodd Rygbi’r Byd ac Undeb Rygbi Cymru y bydd cyn-chwaraewr rhyngwladol Iwerddon ac ymgeisydd Rhaglen Chwaraewr i Hyfforddwr URC, Sophie Spence, yn ymuno â thîm rheoli Merched Cymru fel eu hyfforddwr intern dewisol ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2021.

Rhannu:

• Rhaglen Interniaeth Hyfforddi Cwpan Rygbi’r Byd 2021 yn creu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer darpar athletwyr benywaidd
• Targed uchelgeisiol Rygbi’r Byd y bydd o leiaf 40 y cant o’r holl hyfforddwyr yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2025 yn ferched
• Cymru ar fin wynebu’r pencampwyr diwethaf Seland Newydd, Awstralia a thîm arall sydd eto i gymhwyso ar gyfer Grŵp A Cwpan Rygbi’r Byd 2021
• Cwpan Rygbi’r Byd 2021 i’w gynnal rhwng 18 Medi a 16 Hydref

Bu Spence yn cynrychioli Iwerddon 40 o weithiau, yn ogystal â chael sylw mewn dau Gwpan Rygbi’r Byd (2014 a 2017). Roedd hefyd yn rhan o’r timau buddugol yn y Chwe Gwlad i Ferched yn 2013 a 2015.

Yr oedd yn dal i chwarae, pan ddechreuodd Spence hyfforddi ym Mhrifysgol Dulyn a Rygbi Leinster, a sefydlodd ei academi rygbi ei hun i ysbrydoli merched. Ers rhoi’r gorau i chwarae a symud i Gymru’r llynedd, mae wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr blaenwyr tîm dynion Penclawdd yn Adran 1 Gorllewin Cymru ers 2019.

Bydd Spence yn ymuno â’r prif hyfforddwr newydd Warren Abrahams a’r hyfforddwr sgiliau Rachel Taylor wrth i Gymru baratoi i gystadlu yng Ngrŵp A Cwpan Rygbi’r Byd 2021 ochr yn ochr â’r pencampwyr diwethaf Seland Newydd, Awstralia a thîm arall sydd eto i gymhwyso ar gyfer y grŵp.

Dechreuwyd Rhaglen Interniaeth Hyfforddi Cwpan Rygbi’r Byd 2021 o ganlyniad i’r adolygiad cynhwysfawr o Hyfforddi Perfformiad Uchel i Ferched, gyda chanfyddiadau’r adroddiad yn amlygu diffyg cynrychiolaeth sylweddol o ferched ar lefel hyfforddi perfformiad uchel.

Nod y Rhaglen Interniaeth Hyfforddi arloesol yw mynd i’r afael â’r diffyg hyfforddwyr benywaidd ar lefel perfformiad uchel ar draws rygbi dynion a merched. Y bwriad yw creu cyfleoedd o safon ar gyfer darpar hyfforddwyr benywaidd elitaidd mewn amgylcheddau perfformiad uchel.

Yn unol â’r elfen i ‘datblygu arweinyddiaeth ysbrydoledig’ yng nghynllun strategol Merched mewn Rygbi 2017-25, mae Rygbi’r Byd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad hyfforddwyr benywaidd yn y gamp. Mae wedi gosod targed uchelgeisiol y bydd o leiaf 40 y cant o’r holl hyfforddwyr yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2025 yn ferched.

Dywedodd Katie Sadleir, Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Byd i Ferched: “Mae cyffro’n adeiladu gyda llai na 10 mis i fynd ac mae’r grwpiau bellach wedi eu penderfynu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2021. Rydym am ddymuno’r gorau i Sophie a thîm hyfforddi newydd Cymru, Warren Abrahams a Rachel Taylor wrth i Gymru baratoi i gystadlu yn y twrnament.”

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Merched a Genethod URC, Charlotte Wathan, “Daw Sophie â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth rygbi i’n rhaglen ryngwladol i ferched. Ar hyn o bryd mae hi’n parhau drwy ein rhaglen Perfformiad Chwaraewr i Hyfforddwr ynghyd â Rhys Webb, Scott Baldwin, Liam Williams, Gareth Anscombe ac Elinor Snowsill. Mae Rhaglen Interniaeth Hyfforddi Rygbi’r Byd yn hwb gwych i hyfforddwyr benywaidd ledled y byd ym mhob bob lefel o’r gêm.”

Dywedodd Sophie Spence, “Mae hon yn fenter wych gan Rygbi’r Byd, nid yn unig i rygbi ond i ferched mewn chwaraeon. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i dorchi llewys wrth i ni baratoi at Gwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf. Mae gan Ferched Cymru dîm hyfforddi newydd ysbrydoledig iawn ac rwy’n falch o fod yn dechrau ochr yn ochr â nhw ar ddechrau eu taith.

“Rwyf wedi cwrdd â’r tîm rheoli a gallaf weld y llwybr y mae Warren wedi’i gynllunio. Dwi wedi bod yn gwylio rhai clipiau o’r Allianz 15 sy’n safon wych o rygbi ond bydd hi’n dda cwrdd â’r chwaraewyr a dechrau arni. Rwy’n awyddus i gymryd rhan yn y broses, gymaint ag sy’n bosibl. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu gan Warren, a Rachel – yr wyf wedi chwarae â hi i’r Barbariaid. Fel rhan o’r tîm byddaf yn arsylwi ac yn rhoi cymorth pryd bynnag y bydd angen.

“Mae gennym gemau cyffrous yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Mae’n wych cael y cyfle i chwarae yn erbyn Seland Newydd sy’n cynnal y twrnament, a gydag Awstralia hefyd yn y grŵp, mae’n debyg y bydd y ffocws i gyd ar y timau hynny, sy’n wych i ni. Gallwn weithio’n galed, canolbwyntio arnom ein hunain a chyrraedd mor barod â phosibl.”
Dywed Sophie ei bod wasted wedi bwriadu hyfforddi wedi iddi orffen chwarae.

“Ar ôl hyfforddi ar lefel Prifysgol yn Nulyn a chyda Rygbi Leinster, roeddwn bob amser yn awyddus i barhau fel hyfforddwr.

“Cysylltais ag URC pan symudais draw i Gymru i weld pa gyfleoedd oedd ar gael. Roeddwn i’n gwybod pa lwybr roeddwn i eisiau ei ddilyn ac yn chwilio am dîm dynion hŷn fel her newydd. Rwyf wedi mwynhau hyfforddi ym Mhenclawdd ble’r ydym ar gynnydd graddol, ac wedi i ni symud i fyny o Adran 2, yr oeddem yn chweched pan ohiriwyd gweddill y gemau.

“Yna daeth rhaglen Chwaraewr i Hyfforddwr URC sydd wedi’i hanelu at chwaraewyr lefel elît yng Nghymru. Rydym ar ein pedwerydd sesiwn ac mae wedi bod yn gadarnhaol iawn rhannu profiadau a’r hyn yr ydym wedi dysgu wrth hyfforddi. Hefyd i’r chwaraewyr proffesiynol yn ein plith, eu profiadau a’r hyn a ddysgwyd wrth chwarae ar y lefel uchaf bosibl.

“A nawr mae interniaeth Rygbi’r Byd yn gyfle gwerthfawr i mi a gweddill y interniaid. Rwy’n siŵr y byddwn yn dysgu cymaint oddi wrth ein gilydd a’r profiad.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Rhino Rugby
Sportseen
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021
Amber Energy
Opro
Sophie Spence – hyfforddwr inter RWC 2021