Neidio i'r prif gynnwys
Y cylch yn troi’n gyflawn

Y cylch yn troi’n gyflawn

Chwaraewyr cysylltiedig

Bydd bachwr Cymru Ken Owens yn gobeithio efelychu campau 2012 pan fydd y Saeson yn ymweld â’r brifddinas.

Rhannu:

Dim ond llond dwrn o’r garfan bresennol oedd yn Nhwickenham naw mlynedd yn ôl sef y tro diwethaf roedd y Goron Driphlyg yn y fantol i Gymru yn erbyn yr hen elyn . Yn debyg i eleni roedd tîm Sam Warburton yn barod wedi curo’r Gwyddelod a’r Albanwyr ac yn codi stêm cyn teithio i Lundain . Arwahân i’r wobr , roedd y prynhawn hwnnw yn un nodiedig i’r bachwr Ken Owens. Wedi aros yn amyneddgar fe ddaeth ei gap cyntaf yn New Plymouth, Seland Newydd o bob man yng Ngwpan y Byd yr Hydref cynt. Serch hynny doedd y ‘Sheriff’ fel y gaiff ei adnabod dal heb ddechrau dros ei wlad, tan y prynhawn hwnnw yn HQ. Ac am bnawn i’w gynnwys am y tro cyntaf yn y pymtheg cychwynnol .

“Roed hi’n gêm glos nôl a mlaen, dwi’n cofio tacl anhygoel Sam [Warburton] ar Manu Tuilagi ar ddiwedd yr hanner cyntaf i gadw ni yn y gêm achos o’n i o dan bwyse ar y pryd , roedd lot o densiwn yn yr ail hanner, doedd hi ddim yn glasur jyst brwydr gorfforol galed fel byddech chi’n disgwyl mewn gêm o’r fath, a moment o ddawn unigol Scott Williams yn setlo pethe.”

Mae na rhwyfaint o ail feddwl wrth ddweud y gair ‘setlo’ oherwydd daeth y tîm cartre o fewn trwch blewyn i gipio hi o grafangau’r Cymry yn yr eiliadau olaf.

“Roedd pawb wedi rhoi popeth at yr achos i bod yn onest ac o ni o dan lot o bwyse a tacl arwrol Leigh Halfpenny ar Dave Strettle yn achub y dydd.”

Saith deg chwech o gapiau yn ddiweddarach ar drothwy cap rhif 80 dros ei wlad yr un yw’r gwrthwynebwyr, ac ie, eto y Goron Driphlyg sydd o fewn cyrraedd, ond gyda’r amgylchiadau mor wahanol y tro hwn, ac yn gwrthgyferbynnu’n llwyr i’r golygfeydd ddwy flynedd yn ôl pan oedd y stadiwm yn ferw gwyllt wedi buddugoliaeth gofiadwy ar y ffordd at y Gamp Lawn. Pa mor annifyr felly yw’r sefyllfa i’r chwaraewyr a faint o ffactor fydd gorfod ymdopi heb ysbrydoliaeth ac emosiwn y dorf?

“Mae yn wahanol. Ma mwy wedi nghlywed i yn canu mas o diwn i ddechre! Yn amlwg mae’n cael effaith oherwydd ma chwaraewyr yn ymateb ac yn tyfu oddi ar egni’r dorf , ond mae’n rhywbeth mae pawb wedi dysgu i ddelio gyda ac addasu – ma pawb yn yr un cwch. Ma tîmoedd yn delio a’r sefyllfa yn wahanol ond rwy’n credu ei fod hi’n bwysig fel unigolyn i ddod o hyd i’r hyn sydd yn eich gwthio chi ymlaen, a dod o hyd i’r egni a’r dwyster sy’n hanfodol mewn gêm rhyngwladol. Allai ddweud wrtho chi ma’r ysgwydd yn brifo yn yr un modd pe bai wyth deg mil yno neu beidio. Ma’r ddwy gêm ry’n ni wedi chwarae hyd yn hyn wedi bod yn gorfforol iawn yn gwmws fel gêmau’r gorffennol yn y Chwe Gwlad.”

Roedd Owens yn un o’r hoelion wyth yn yr ymgyrch ddwy flynedd yn ôl pan Lloegr fel leni oedd y drydedd gem a’r un allwedol ar drywydd y Gamp Lawn. Bryd hynny roedd nifer yn dal i amau’r tîm cenedlaethol wedi dau berfformiad nad oedd wedi argyhoeddi’n llwyr ac yn hynny o beth mae yna gymariaethau a sut ma’r gystadleuaeth yn datblygu y tro hwn.

“Ma modd cymharu ry ni di mynd o dan y radar rhywfaint wedi’r bythefnos gyntaf. Doedd neb yn disgwyl unrhwybeth wrtho ni ar drothwy’r gystadleuaeth – roedd y sefyllfa rhywfaint yn wahanol yn 2019 ar ôl i ni gael Hydref calanogol. Ma modd cymharu ond ma Lloegr mewn sefyllfa ychydig yn wahanol: ma nhw siwr o fod yn siomedig ar ôl colli’r gêm yn erbyn yr Alban, ond wedi’r perfformiad yn erbyn yr Eidal dwi’n siwr eu bod nhw’n barod i godi’r dwyster eto yng Nghaerdydd. Dwi ddim yn un sy’n cymharu cystadleuthau’r gorffennol a bod yn onest ma shwd ma’r gemau’n cwympo yn debyg ond nai ddweud wrtho chi os ydyn nhw’n debyg ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben”.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o hel meddyliau i nifer a’r sefyllfa yn dangos pa mor fregus yw pawb wrth ddod wyneb yn wyneb â’r pandemig. Roedd y cyfnod clo y llynedd yn gyfle i Owens ail gynne’r fflam wedi sawl blwyddyn ddi-dor o rygbi proffesiynnol, ac er iddi fynd yn anoddach ar y corff gyda phob blwyddyn sy’n pasio mae diwrnodau fel heddi yn gallu bod yn brin. Covid neu beidio, ma hon yn golygu gymaint yn fwy na phob gêm arall a byddai Coron Driphlyg yr un mor arbennig heddi ag yr oedd hi yng nghartref rygbi Lloegr naw mlynedd yn ôl.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y cylch yn troi’n gyflawn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y cylch yn troi’n gyflawn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y cylch yn troi’n gyflawn
Rhino Rugby
Sportseen
Y cylch yn troi’n gyflawn
Y cylch yn troi’n gyflawn
Y cylch yn troi’n gyflawn
Y cylch yn troi’n gyflawn
Y cylch yn troi’n gyflawn
Y cylch yn troi’n gyflawn
Amber Energy
Opro
Y cylch yn troi’n gyflawn