Mae hwn yn fater y mae’r URC yn ei gymryd o ddifrif, ar ôl taflu goleuni ar y cam-drin a gafodd rhai o’n chwaraewyr yn y gorffennol – yn fwyaf diweddar yn ystod ymgyrch y Chwe Gwlad eleni.
Rydym yn ymwybodol na fydd dileu cam-drin ar-lein yn digwydd dros nos, ond gobeithiwn mai boicot cyfryngau cymdeithasol y penwythnos hwn fydd y cam cyntaf o lawer tuag at wneud hynny.
Bydd y boicot yn digwydd rhwng 15:00 dydd Gwener (30 Ebrill) a 23:59 ddydd Llun (3 Mai).