Roedd ganddo weledigaeth hollgynhwysol a hynod graff o rygbi. Cynhyrchodd, ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au, fersiwn o rygbi a dorrodd y mowld o’r hyn oedd, hyd at y foment honno, yn dderbyniol wrth chwarae’r gêm. O ganlyniad, daeth ‘eang’ i eiriadur rygbi fel gair i ddisgrifio’r math o gêm a ddychmygodd ac a roddodd ar waith, yn gyntaf oll gyda phobl o’r un meddylfryd ac ef yng Nghlwb Rygbi Cymry Llundain yn Old Deer Park.
Addysgwyd John yn Ysgol Lewis Pengam ac yna’n ddiweddarach ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Loughborough. Ar ôl dechrau gyda Newbridge, dros y ffin gyda Chymry Llundain y gwnaeth ei farc ar y gêm.
Fel chwaraewr roedd yn ganolwr â sgiliau craff a rhagorol. I fod yn onest, nid oedd yn chwaraewr a oedd yn dal sylw oherwydd cyflymder na sgiliau eithafol yn y ffordd yr oedd disgwyl i chwaraewr canol cae o’r dyddiau hynny fod. Roedd ganddo’r ystod lawn o sgiliau sylfaenol ar gyfer rygbi, ac roedd eraill yn elwa’n fawr o hynny. Roedd yn gatalydd a wnaeth i bethau weithio i’r chwaraewyr hynny o’i amgylch fel, er enghraifft, amseriad pas – a fyddai’n wers o’r radd flaenaf i lawer o chwaraewyr heddiw.
Gwybod ‘sut’ i basio, a ‘phryd i basio a ‘ble’ yn y symudiad i wneud hynny; i basio’r bêl gyda’r cyflymder ac amseru cywir. Y manylion bach sy’n cronni i greu argraff. Ym mhopeth a wnaeth ‘Syd’ (yr enw a ddefnyddiai ei gydweithwyr), amseru oedd popeth.
Fel asgellwr y tu allan iddo ar y cae, roeddwn yn ffodus o’i gael wedi ei leoli tu mewn i mi er mwyn derbyn y bell ganddo, a oedd wedi ei anelu yn berffaith.
Pob tro y byddai Cymry Llundain yn chwarae byddai Old Deer Park yn orlawn. Yr agwedd sylfaenol i rygbi oedd i ‘ymosod’ â chyflymder a dyfeisgarwch fel bod modd i roi cyfle i bob chwaraewr arddangos eu doniau.
Roedd un deg pump o chwaraewyr yn cyfrannu i’r gêm ar y cae. Creodd Syd fyd o bosibiliadau a chyfleoedd. Cymry Llundain oedd y tîm gorau yn y wlad. Roedd ei steil ‘eang’ hefyd yn steil ar gyfer ‘ennill’, cyhyd a’i fod yn gywir, y sgiliau wedi eu mireinio ac yn cyfateb i’r gofyn yn y foment. Os hoffech chi ddeall beth oedd yn mynd drwy feddwl Syd yn y gêm, yr oedd gofyn i chi wylio Cymry Llundain yn chwarae.
Gyda Clive Rowlands fel hyfforddwr, daeth yr arddull yma i Gymru hefyd yn ogystal â’r Llewod yn 1971 dan adain Carwyn James yn Seland Newydd. Roedd y tri yn debyg yn eu ffordd o feddwl. Cafodd dynion Cymru ddylanwad ar chwaraewyr mewn mannau eraill hefyd. Wrth chwarae rygbi a oedd yn wefreiddiol ac yn ddeniadol, roedd yn apelio at wylwyr yn weledol ac yn feddyliol. Roedd pobl yn mwynhau’r hyn a welsant.
Fel capten roedd ei arddull yn un o anogaeth a pherswâd, gan hudo chwaraewyr i berfformio, heb unrhyw osgo awdurdodaidd.