Bydd yr adolygiad, a gaiff ei arwain gan dri o banelwyr annibynnol, pob un ag arbenigedd yn y maes, yn sicrhau y bydd pob peth yn cael ei ystyried er mwyn darparu argymhellion ar gyfer sut i wella rhaglen berfformiad y menywod yn gyffredinol ac er mwyn dylanwadu yn bositif ar allu Menywod Cymru i gystadlu yng Nghwpan y Byd flwyddyn nesaf.
Mae’r panel yn cynnwys Helen Phillips, Cadeiryddes Gemau’r Gymanwlad Cymru, Amanda Bennett, cyn is-gapten Menywod Cymru, ac Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a chyn hyfforddwr Cymru Kevin Bowring.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol URC Steve Phillips, “O ystyried pwysigrwydd strategol gêm y menywod a’r merched i URC rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau ein bod yn symud ymlaen yn unol â’r Cynllun Strategol a gymeradwywyd ar gyfer Rygbi Perfformiad y Menywod. Roeddem yn awyddus i gynnwys arbenigwyr annibynnol yn ein hadolygiad o ochr berfformiad gêm y menywod ac ystyried eu hargymhellion er mwyn sicrhau bod gennym y cyfleoedd gorau posibl, gan gynnwys y strwythurau, amgylchedd a’r diwylliant, sydd eu hangen i ysgogi llwyddiant ar lwyfan y byd.
Fel arfer byddem yn cynnal adolygiad fel hwn gydag unrhyw un o’n timau cenedlaethol ar ôl cylchred Cwpan Rygbi’r Byd. Ond o ystyried gohirio Cwpan Rygbi’r Byd 2021, y pandemig byd-eang sydd wedi effeithio’n fawr ar ein gallu i weithredu ein nodau strategol ar draws pob lefel o’r gêm i fenywod a merched; ynghyd â Bwrdd URC, roeddem yn teimlo mai dyma’r adeg iawn i gynnal adolygiad canol tymor gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar ein rhaglen cyn Cwpan Rygbi’r Byd sydd wedi ei haildrefnu.
“Ni fyddwn yn osgoi penderfyniadau anodd ar gefn yr adolygiad hwn er mwyn gwella.”
Mae’r adolygiad yn dechrau ar unwaith, a bydd rhan ohono’n cynnwys arolwg ac ymgynghoriad ag amrywiaeth o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys chwaraewyr o’r gorffennol a’r presennol, hyfforddwyr, staff URC ac aelodau’r bwrdd i archwilio i ba raddau y mae Strategaeth bresennol ar gyfer Rygbi Menywod yn cael ei gweithredu’n effeithiol, er mwyn deall yn well y ffactorau a allai fod yn rhwystro cynnydd a pha welliannau y gellir eu gwneud.
Disgwylir i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin ac ar ôl hynny bydd argymhellion yn cael eu gwneud i Fwrdd URC.
Dywedodd is-gadeirydd URC Liza Burgess, “Ar ran Bwrdd URC, croesawaf yr adolygiad amserol ac annibynnol hwn y mae mawr ei angen o ochr perfformiad y gêm i fenywod yng Nghymru
“Mae Bwrdd URC wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi dilyniant y gêm i fenywod ac rydym wrth ein bodd gyda safon y panelwyr sy’n arwain yr adolygiad a byddem yn annog pawb o fewn y gêm i’w cefnogi wrth iddynt fwrw ymlaen â’r rôl hon.”
Bydd y panelwyr yn adrodd eu canfyddiadau i Fwrdd URC. Unwaith y caiff eu hystyried yn llawn, bydd URC yn ceisio cyflwyno’r argymhellion y maent wedi eu derbyn o’r adroddiad canol tymor ar strategaeth perfformiad y menywod.