Neidio i'r prif gynnwys
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr

Mae Cymru yn canu’r anthem ar yr achlysur olaf iddyn nhw chwarae ym Mharc Eirias

Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr

Mae tocynnau tair gêm gartref Cymru Dan 20 ym Mharc Eirias ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2022 ar werth nawr. Gallwch eu prynu ar-lein yn www.venuecymru.co.uk

Rhannu:

Bydd y genhedlaeth nesaf o sêr rygbi Cymru yn dychwelyd i Fae Colwyn wrth groesawu’r Alban ar nos Wener Chwefror 11 yn ail rownd y bencampwriaeth ar ôl teithio i Iwerddon ar gyfer gêm gyntaf yr ymgyrch yr wythnos flaenorol.

Yna bydd carfan Byron Hayward yn teithio i wynebu Lloegr, cyn chwarae dwy gêm gartref yn erbyn Ffrainc nos Iau 10 Mawrth yn rownd pedwar a’r gêm olaf yn erbyn yr Eidal ddydd Sul 20 Mawrth.

Mae tocynnau yn yr eisteddle yn £15 i oedolion a £5 i bobl ifanc dan 17 oed. Mae tocynnau i sefyll o amgylch y cae yn £10 i oedolion a £5 i bobl ifanc dan 17. Mae pob tocyn a brynir drwy Venue Cymru wedi’i warchod gan bolisi Ad-daliad / Gwarant Covid.

Wrth gyhoeddi heddiw bod y tocynnau nawr ar werth, mae carfan Cymru yn gobeithio y bydd hyn gam yn nes at ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd ar ôl i’r ddau dymor blaenorol gael eu chwalu gan y pandemig byd-eang.

“Mae dychwelyd at ymgyrch draddodiadol y Chwe Gwlad yn bwysig iawn i ni,” meddai Rheolwr Talent a Llwybr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Andy Lloyd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i’r Gogledd er mwyn i’r bechgyn allu dangos eu gallu. Yn amlwg, fe gawson ni’r Chwe Gwlad yn ystod y cyfyngiadau symud yng Nghaerdydd a oedd yn brofiad cwbl wahanol, felly mae’n mynd i fod yn braf iawn dod yn ôl i drefn arferol.

“Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth yn y gorffennol ac mae’r cyfleusterau’n dda iawn ym Mae Colwyn – hyd yn oed pan oedd y glaw yn tywallt i lawr, mae yna bob amser dyrfa dda yn ein cefnogi ac mae hynny’n wych i’r bechgyn. Mae gennym dair gêm gartref anodd ar y gorwel a fydd yn her enfawr i’r tîm dan 20.

“Mae’r ffaith bod tocynnau’n mynd ar werth yn gam yn nes at y daith i’r Gogledd a dychwelyd i’r drefn arferol.

“I ni, mae wedi bod yn wych cynllunio ar gyfer yr ymgyrch. Rydyn ni wedi cael cwpwl o wersylloedd ymarfer ac rydyn ni nawr yn dechrau dwysáu’r paratoadau ar gyfer y bencampwriaeth ac mae gweld y tocynnau’n mynd ar werth yn arwydd ein bod yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.”

Alex Mann, o dîm Rygbi Caerdydd, oedd wedi arwain Cymru Dan 20 mor arwrol yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad dros yr haf ac mae’n edrych ymlaen at gamu allan i’r cae ym Mae Colwyn o flaen torf angerddol eleni – sy’n brofiad gweddol newydd iddo fe a’i gyd-chwaraewyr dros y cyfnod diweddar.

“Mae’n dwrnament cyffrous i ni. Mae’r bechgyn wedi bod yn hyfforddi’n galed a bydd yn braf cael torfeydd yn ôl gan nad yw’r rhan fwyaf ohonom wedi chwarae o flaen torf ers peth amser, felly mae hynny’n rhywbeth i ni edrych ymlaen ato hefyd,” meddai.

“Mae chwarae dros eich gwlad yn ddigon o ysbrydoliaeth, ond mae cael cefnogaeth y dorf yn rhoi hwb enfawr i’r tîm cartref. Pan fyddwch chi dan bwysau mewn gêm, mae clywed bonllefau’r dorf yn gallu wneud gwahaniaeth mawr mewn gemau.”

Gorffennodd tîm Dan 20 Cymru ei ymgyrch Chwe Gwlad yn yr haf ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Alban ac mae Mann yn hyderus y gall Cymru, gyda thorf fawr y tu ôl iddynt, fynd o nerth i nerth.

“Fe wnaethon ni ddysgu llawer o’r gystadleuaeth ym mis Mehefin – roedd llawer o’r bechgyn heb chwarae lot o rygbi tan hynny ac roedd yn agoriad llygad. Ond nawr ein bod ni wedi cael y profiad hwnnw, gobeithio y gallwn wneud yn well eleni gyda thorf fawr y tu ôl i ni yn y Gogledd,” meddai Mann.

Ychwanegodd y Cynghorydd Louise Emery, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Hamdden: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r tîm Dan 20 yn ôl i Eirias ar gyfer y Chwe Gwlad. Bydd yn gyfle i gefnogwyr rygbi yn y Gogledd fwynhau gemau cyffrous ar garreg eu drws unwaith eto.

“Mae gennym gyfleuster gwych ym Mharc Eirias ac mae cynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn rhan allweddol o’n rhaglen i ysgogi adfywio, i ddenu buddsoddiad, i roi hwb i fusnesau lleol ac i gefnogi sefydlogrwydd busnesau yn y rhanbarth.”

Gemau Cartref CYMRU Dan 20 yn y Chwe Gwlad ym Mharc Eirias

Nos Wener 11 Chwefror – Cymru Dan 20 v Yr Alban Dan 20 – 8pm
Nos Iau 10 Mawrth – Cymru Dan 20 v Ffrainc Dan 20 – 8pm
Dydd Sul 20 Mawrth – Cymru Dan 20 v Yr Eidal Dan 20 – 2pm

Tocynnau ar gael yn: www.venuecymru.co.uk

Gellir prynu tocynnau mynediad hygyrch drwy swyddfa docynnau Venue Cymru – 01492 872000

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Rhino Rugby
Sportseen
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr
Amber Energy
Opro
Tocynnau Gemau Cymru Dan 20 yn y Chwe Gwlad ar werth nawr