Mae’r gair ymryddawn yn un fydd yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unigolion ym myd chwaraeon, rheiny sy’n aml-dalentog yn gallu perfformio sawl rôl. Yng nghriced wrth gwrs mae’r ‘all-rounder‘ yn rol amhrisiadwy a dyw hi ddim yn syndod fod y chwaraewyr yma megis Syr Ian Botham, Ben Stokes a Jaques Kallis o Dde Affrica i enwi tri yn hawlio lle yn oriel yr anfarwolion.
Ond tra bod na fanteision bod yn ymryddawn ar y cae rygbi hefyd ma’r hyblygrwydd ar y llaw arall yn gallu bod yn rhwystr a’r chwaraewyr hynny sy’n gallu chwarae sawl safle yn aml heb unrhyw fau yn aml yn gorfod bodloni a lle ar y fainc . Un sydd wedi profi hynny yw Seb Davies o Rygbi Caerdydd – clo wrth reddf ond yn un sy’n ddiweddar wedi llenwi rôl rhif chwech yn y reng ôl. Nôl yn yr Hydref mi wnaeth y gwr o’r brifddinas ddweud mai yn yr ail reng oedd yn dal ei ystyried ei ddyfodol a oedd hynny wedi newid felly ar ôl gemau diweddar yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn safle’r blaenasgellwr.
“Dim mewn gwirionedd , dwi wedi cael y cyfle i wneud hynny gyda thim Cymru ond gyda Caerdydd mae digon o opsiynnau gyda ni yn y safleoedd yna felly dwi ddim yn gweld fyddai’n symud yno’n barhaol, mae Wayne (Pivac) wedi awgrymu y dylwn i gadw’n opsiynnau’n agored, mae’r ffaith mod i’n gallu chwarae yno ond yn beth da dwi’n credu mae’n golygu bod na fanteision pan mae’n dod i ddewis carfan a dwi’n hapus i chwarae unrhyw le yn y pump cefn arwahan i rhif saith – dwi ddim digon cloi i chwarae ar y pen agored o gwbl!
Uchelgais unrhyw chwaraewr wrth gwrs yw dechrau dros ei wlad, a beth bynnag yw rethreg (neu spin) hyfforddwr Lloegr Eddie Jones wrth fathu’r term finishers does neb am ‘ddechrau’ ar y fainc. Yn hynny o beth dyw Seb ddim yn wahanol ac ar ôl dangos amynedd ar gychwyn yr ymgyrch fe ddaeth ei gyfle wrth ddechrau gem am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth yma yn erbyn FFrainc.
“Roedd hi’n wych cael bod yno o’r dechrau – dwi wedi gwneud o’r blaen wrth gwrs ond roedd gwneud hynny yn y chwe gwlad yn erbyn un os nad y tîm gorau yn y byd yn bresennol yn brofiad gwych – lan tan hynny roedd y gystadleuaeth i mi wedi bod bach yn gymsyg ar ol tynnu nôl ar ddiwrnod y gêm yn Nulyn oherwydd anaf roeddwn ni’n teimlo wedyn mod I’n ceisio dal lan a phrofi pwynt dwi jest yn falch dwi wedi gallu gwneud digon o argraff er mwyn hoelio lle yn y ddwy gem ddiwethaf.”
Yn ddau ddeg pump oed mae yna ddigon o amser eto iddo gyraedd ei lawn botensial ond cymaint yw’r gystadleuaeth yn y pump ôl yn y pac yna mae’n rhaid perfformio’n gyson a hynny wrth i genhedlaeth newydd o chwaraewyr flodeuo. Mae Cwpan y Byd yn Ffrainc yn gymhelliad amlwg i’r garfan gyfan ond gyda chyn lleued a thri deg un yn y garfan yn Japan y tro diwethaf mi fydd hi’n dasg a hanner osgoi’r fwyell a chyraedd y garfan derfynol-ond dyma ble mae bod yn ymryddawn yn gallu dod yn eitha defnyddiol
“Y gobaith yw os yw hi’n benderfyniad agos yna efallai ma’r ffactorau yna yn gallu rhoi’r bleidlais i mi ond mae mor galed hyd yn oed gyda chwaraewyr profiadol fel Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones yn absennol a cholli Jake Ball a Cory Hill mae eraill wedi camu fewn yn ddi-drafferth chwaraewyr fel Taine Basham, Jac Morgan , Will Rowlands tra bod Adam Beard wedi cymryd rôl arweinydd yn wych , dyna’r her sy’n wynebu fi fel chwaraewr I gystadlu gyda’r chwaraewyr hynny – byddai Cwpan y Byd yn Ffrainc yn wych wrth gwrs ond am y tro dwi ond yn canolbwyntio ar yr Eidal – mae’r bechgyn rhywfaint yn siomedig wedi’r golled yn erbyn Ffrainc ond mae na gyfle os sicrhau pwyntiau llawn yn erbyn yr Eidal i godi i’r trydydd safle,dyna’n ffocws ni a dyna sy’n rhaid i ni anelu ag os wnai berfformio’n dda yn y gêm ola yna pwy a wyr efallai fydd na daith i Dde Affrica i ddilyn yn yr ha.”