Mae Ken Owens yn cofio’r foment yn glir fel ddoe, Cymru yn erbyn Seland Newydd y llynedd. Gafodd ei enwi eisioes yn y tim i herio’r crysau duon ar y 30 o Hydref 2021 ond hanner awr yn unig wedi’r cadarnhad bu’n rhaid iddo dynnu nol o’r gem – yn ddiymwybod iddo ar y pryd ond dyna fyddai’r agosa iddo wisgo crys coch Cymru am unarddeg mis ar ol diodde anaf difrifol i’w gefn.
Roedd y gwr o Sir Gar wedi bod mewn sefyllfa tebyg o’r blaen ar ol diodde anaf cas i’w wddf rhai blynyddoedd cynt a chyfnod ar yr ymylon ddim yn brofiad newydd, ond, ag yntau y tro hwn wedi troi’n 34 oed roedd na farc cwestiwn am y tro cyntaf yn ei yrfa a fyddai’n gallu yn gynta, gwella o’r anaf ond wedyn a fyddai’r awch a’r chwant yno i ddyfalbarhau i oresgyn clec arall ac i wisgo’r sgudie rygbi unwaith yn rhagor – mae ei hun yn cyfaddef roedd na ddyddiau anodd, tywyll wrth amau a fyddai eto yn troedio i’r maes rygbi.
“Ma rhaid dweud yn glir roedd na ddyddiau anodd pan nes i amau’n hun – a bod yn onest ar adegau doeddwn i ddim yn siwr os oedd gen i’r egni i rhoi yn hun drwy’r poen yn gorfforol ond yn fwy na hynny oen i’n gwybod y frwydr seicolegol oedd o’m mlaen, doedd gen i ddim byd i brofi unrhwyun ac wedi cyflawni bron popeth oeddwn i’n gallu felly’n sicr roedd na adegau pan nes i ystyried rhoi’r gorau i’r gem”.
Doedd yr amheuon yma ddim yn rhywbeth diarth chwaith, wedi ymgyrch Cwpan y Byd yn Japan ddod i ben yn 2019 cefais air gyda Ken a dyma’n son yn ffraith ac yn ddi-flewyn ar dafod am ba mor anodd oedd y deunaw mis o rygbi di-dor wedi bod yn deillo nol I daith y Llewod flwyddyn a hanner ynghynt yn gorfforol ie, ond yn fwy na hynny ar yr ymennydd. Beth felly oedd yr ysgogiad pennaf y tro hwn i beidio rhoi’r ‘ffidil yn y to’.
“Mae’n hen ystrydeb ond i chi’n hir wedi ymddeol a dwi’n meddwl os fydden i wedi penderfynnu rhoi’r gorau iddi yna dwi’n gwybod ar ol sbel mai difarru fydden i – doeddwn i ddim am gael y marciau cwestiwn yna yn fy mhen a chyn gynted y daeth y teimlade hynny drostai yna oedd hi’n amlwg on I am geisio brwydro nol – ma pawb sy’n yn nabod i yn gwybod mod i’n gymeriad cry penderfynnol ac mi oedd hynny’n help ar y trywydd hir yn ol fel wedes i, yr unig berson oedd gyda fi unrhywun I brofi oedd fi fy hun neb arall”.
Annoeth fyddai amau’r gwr sydd wedi ennill Y Gamp Lawn ddwywaith, y Goron Driphlyg – deirgwaith a’r Bencampwriaeth ar bedair achlysur ag yn un mor angerddol wrth wisgo crys coch ei wlad o floeddio’r anethem I wagio pob diferyn o’r tanc ar y cae fyddai’r hyn a ddigwyddodd y Sadwrn diwethaf yn erbyn Georgia wedi ei dristau a’i siomi.
“Roedd y perfformiad yn annerbyniol i ni, ond yn bwysicach i’r cefnogwyr sy’n haeddu cymaint gwell, nethon ni dangyflawni cymaint ag wedi gadael ein hunen i lawr – i ni’n bell bell ohoni ar hyn o bryd does dim gwadu ond does dim dewis da ni ond edrych ar Awstralia a llechen lan does dim pwynt i ni gwyno am hyn a’r llall ag i bwdu – ma’n rhaid i ni ennill mae mor syml a hynny er mwyn ad-ennill balcheder yn crys ag adfer hunan-barch dyna’r lleua gallwn ni ddisgwyl”.
Does dim dwywaith bod yna bwysau aruthrol ar y garfan a’r tim hyfforddi presennol mae na feirniadu wedi bod a chyfiawnhad i’r ymateb hwnnw ond os am edrych am ysbrydoliaeth yna dylid edrych I gyfeiriad bachwr Cymru sydd sawl gwaith wedi bod ar y canfas ond sydd bob tro wedi brwydro nol!!