Neidio i'r prif gynnwys
Owen Watkin

Owen Watkin o Gymru yn cael ei daclo gan Jeronimo de la Fuente o'r Ariannin

Gwarchod canol cae

A ffocws gynyddol ar amddiffynfeydd cadarn mae Owen Watkin wedi perffeithio’i grefft yn y safle mwyaf heriol ohonyn nhw i gyd.

Rhannu:

Pan dyma Proffesiynnoldeb yn darfod ar gêm yr Undeb nôl ym 1995 roedd na deimlad bod nifer o’r gweldydd yn ddigon naturiol wedi ei gadael ar ôl ac yn ceisio ad-ennill tir. Am flynyddoedd wedi’r ‘chwyldro’mawr roedd nifer yn edrych tuag at ddylanwad rygbi tri ar ddeg oedd eisioes yn broffesiynnol ers blynyddoedd lawer. Roedd na un elfen yn symbylu’r gagendor yma efallai yn fwy nag unrhywbeth arall sef y pwyslais ar amddiffyn gre.

Wedi’r gêm fynd yn ‘agored’ roedd na fwy o arbennigo er enghraifft hyfforddwyr ffitrwydd penodedig ac ie roedd na alw nawr am hyfforddwyr amddiffynnol wrth i nifer gael ei denu o’r ‘Gogledd’ – roedd Phil Larder yn ran anatod o lwyddiant Lloegr o dan Syr Clive Woodward a Shaun Edwards ac Andy Farrell yn eu tro wedi cyfrannu at lwyddiant timoedd Warren Gatland.

Erbyn heddi ma setiau amddiffynnol yn rhwybeth i ni’n hen gyfarwydd – ac mewn gemau ble ma’r pethau bychain yn newid gêm yr amddiffyn yn anad dim sy’n ennill gemau.

Mae safle’r canolwr yn hynny o beth wedi dod yn hynod bwysig i gyd-dynnu’r amddiffyn , un o’r ddau chwaraewr sy’n gyrru’r elfen yma ac mae natur y rôl yn golygu cael meddwl chwim a chraff wrth ddelio ag ymosdiadau a phatrymau’n cael eu gweu y tu ôl. Mae’r her yn rhywbeth ma Owen Watkin yn ei fwynhau ond yn un sy’n gofyn am waith cyson a dyfalbarhad.

“Pan i chi’n amddiffyn yn y canol mae cymaint o symudiadau ac onglau i ddelio ag e, felly chi angen bod ysgafn droed ac yn ystwyth i ymateb i’r patrymau sy’n datblygu – ag os ma rhywbeth yn mynd o’i le yna ti yw’r un sy mewn trwbwl a ti sy angen datrys y sefyllfa. Dwi’n credu fod hynny’n gryfder i mi, yn fy ugeiniau cynnar roeddwn yn ymosod yn dda iawn ond doedd yr amddiffyn ddim cystal ond dwi wedi gweithio ar hynny ac erbyn hyn mae’r gwaith caled wedi dwyn ffrwyth er fydden i dal licio meddwl bod sawl cryfder yna fy ngêm a bod na gydbwysedd rhwng y ddau”.

A chymaint wedi serenu fel 12 a 13eg pwy felly yw’r ysbrydoliaeth wedi bod o ran ei ddull chwarae?

“Yn tyfu lan mi oeddwn i’n edmygu Brian O’Driscoll , mi oedd e’n chwarewr o fri yn un o’r canolwyr gorau yn y byd.

Doedd e ddim y mwyaf o ran maint ond roedd e’n gryf , yn gorfforol, yn ddewr a mor gystadleuol a’r cyflymder pur yna’n gymaint o fantais. Roedd Jonathan Davies yn yr un modd yn dipyn o ddylanwad ond y peth mae lot ddim yn ystyried gyda O’Driscoll a Foxy (Jonathan Davies) yw pa bynnag mor dda yr oedden nhw’n ymosodol roedd amddiffyn y ddau yn ddi-fau”.

Ag yntau yn hannu o bentre Bryncethin ym Mro Ogwr roedd pêl rygbi ddim yn bell o’i afael yn ystod ei blentyndod a’r fagwraeth honno wedi rhoi sail cadarn i gyraedd yr uchelfennau yn ystod ei yrfa a’r clwb rygbi lleol ac Ysgol Gyfun Llangynnwyd wedi chwarae ran amlwg yn ei ddatblygiad.

“Roedd fy nhad a nhadcu yn chwarae i’r pentre lleol felly ges i’n nhaflu fewn i’r gêm yn ifanc. Sylweddolias fod gen i dalent am y gêm yn fy harddegau a’r trobwynt oedd pan ges i wahoddiad I chwarae dros dim dan un ar bymtheg y Gweilch – dyna pryd sylweddolais bod modd i mi ddod yn chwaraewr proffesiynnol ac wedi blynyddoedd o waith caled a torchu llewys ma’r freuddwyd hynny wedi’i gwireddu”.

Breuddwyd arall wrth gwrs i’r criw presennol yw cyraedd Cwpan y Byd yn Ffrainc mewn llai na blwyddyn, ag amser yn brin mae’n rhaid bachu ar bob cyfle yn enwedig gan mai lle i 34 yn unig sydd yn y garfan derfynol ac mae canolwr y Gweilch yn cydnabod bod tioyn o gystadleuaeth yn yr un safle. “Mae’n wych i fi – ma George (North ) gyda chymaint o brofiad ac yn dipyn o bresenoldeb tu fas ac er bod Nick (Tompkins) a fi yn brwydro am yr un crys i bob pwrpas ma hynny mewn ffordd yn gwthio ni ymlaen felly pwy bynnag sydd yn y canol mae’n barteriaeth dda”.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwarchod canol cae
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwarchod canol cae
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwarchod canol cae
Rhino Rugby
Sportseen
Gwarchod canol cae
Gwarchod canol cae
Gwarchod canol cae
Gwarchod canol cae
Gwarchod canol cae
Gwarchod canol cae
Amber Energy
Opro
Gwarchod canol cae