Mae Owens, a wnaeth sgorio unig gais Cymru yn erbyn yr Alban, yn ymwybodol y bydd “beirniadaeth yn dod o’r tu allan” ar ôl colli 35-7 yn Murrayfield, ond mae’n benderfynol o wneud yn siŵr bod y tîm yn canolbwyntio ar yr hyn sydd i ddod.
“Mae’n rhaid i ni fel carfan barhau i gadw’r ffydd ac mae’n rhaid i ni fod yn onest gyda’n gilydd. Rhaid i ni roi gêm dda i’r timau eraill, rhywbeth rydyn ni wedi’i arfer ei wneud,” meddai Owens.
“Mae’n golygu gweithio’n galed yr wythnos nesaf, gan nad oes gêm dros y penwythnos. Bydd hi’n wythnos anodd, ond bydd rhaid i ni gyd weithio’n galed a chadw’r ffydd ymysg y tîm.
“Fe gawson ni lawer o newidiadau yn y tîm yr wythnos diwethaf, ac roeddwn i’n teimlo bod pawb wirioneddol wedi dangos eu potensial. Cawsom berfformiad da iawn dros yr hanner cyntaf, ac roedden ni’n anlwcus i beidio cael blaen ar y sgôr pan ddaeth hi’n hanner amser.
“Fe wnaethon ni gyflawni popeth roedden ni wedi’i drafod, ond yn yr ail hanner fe wnaethon ni un camgymeriad ar ôl y llall, a rhoi gormod o bwysau arnom ni ein hunain. Pan fyddwch chi’n rhoi cyfle i dîm fel yr Alban, maen nhw’n mynd i’ch cosbi chi.
“Dyna beth ddigwyddodd yn yr ail hanner gan ein bod wedi gwneud camgymeriadau ac wedi caniatáu iddyn nhw ein herio ni. Mae hyder yn allweddol – pan fyddwch chi’n ennill ac yn cael momentwm, mae’n anodd ei golli, ond nawr rydyn ni ar yr ochr arall i hynny.”