Gydag un gêm i’w chwarae o hyd ym mhencampwriaeth Tîm dan 18 oed, mae’r Gweilch ar frig y bwrdd pwyntiau ac nid oes modd eu trechu. Caerdydd yw’r herwyr agosaf ond mae nhw 10 pwynt ar ôl y Gweilch, felly roedd buddugoliaeth neithiwr yn goron ar dymor gwych i’r dynion ifanc mewn du.
Sgoriodd y blaenasgellwr Seb Rodriguez-Davies gais cyntaf y noson ar ôl rhuthro o sgarmes yn agos at linell cais y Sgarlets yn y 12fed munud.
Cafwyd ail gais pum munud yn ddiweddarach pan ruthrodd Kian Hire am y llinell o agos, gan roi’r Gweilch 10-0 ar y blaen.
Sgoriodd Luke Tucker i’r Sgarlets ar ôl i gic clirio gan y gweilch gael ei tharo i lawr, ac roedd y prop pen rhydd wrth law i groesi’r gwyngalch.
Cafodd yr asgellwr Ben Evans gais yn fuan yn yr ail hanner gan roi’r Gweilch 15-5 ar y blaen, ond ymatebodd y Sgarlets yn gyflym gyda Matthew Williams o fewn trwch blewyn i gyrraedd y llinell gais.
Enillodd Alex George gais pwynt bonws i’r Gweilch cyn i Macs Page ymateb ar ran y Sgarlets. Ond nid oedd yr ymdrech yn ddigon gyda’r Gweilch yn fuddugoliaethus, ac yn ennill teitl pencampwyr Gradd Oedran Rhanbarthol dan 18 oed.
Yn y gêm arall a chwaraewyd, cwblhaodd y Dreigiau’r tymor gyda buddugoliaeth haeddiannol o 19-15 dros Rygbi Caerdydd.