Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm gyda Kerin Lake yn bartner iddi yng nghanol cae.
Mae Kate Williams, a aned yn Abertawe ond gafodd ei magu yn Seland Newydd wedi ei henwi ar y fainc a bydd hi’n gobeithio ennill ei chap cyntaf yn ystod y gêm y erbyn y Gwyddelod.
Ymunodd Williams, sy’n chwarae ei rygbi yn y rheng ôl, gyda charfan Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn ddiweddar ac mae hi bellach wedi symud i Gymru i geisio gwireddu ei huchelgais rhyngwladol.
Elinor Snowsill a Keira Bevan sydd wedi eu dewis yn haneri. Lisa Neumann a Carys Williams-Morris sydd wedi eu ffafrio ar yr esgyll gyda Courtney Keight yn safle’r cefnwr.
Enillodd y prop Sisilia Tuipulotu ei chap cyntaf o’r fainc yn Nulyn yn 2022 .Bydd Gwenllian Pyrs a Kelsey Jones yn cadw cwmni iddi yn y rheng flaen o’r dechrau ddydd Sadwrn.
Abbie Fleming a Gwen Crabb sydd wedi eu dewis yn yr ail reng gyda Georgia Evans, Alex Callander a Bethan Lewis yn dechrau’n y rheng ôl.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru: “Roedd rhai penderfyniadau anodd i’w gwneud gan bod gennym garfan gystadleuol iawn erbyn hyn – sef yn union beth sydd ei angen ar hyfforddwr. ‘Ry’n ni’n ysu i’r Bencampwriaeth ddechrau.
“Ry’n ni’n gwybod y bydd Iwerddon yn cynnig her a hanner i ni – ond mae’n rhaid cofio i ni orffen yn drydydd yn Chwe Gwlad TikTok y tymor diwethaf a’n bwriad yw gwneud yn well na hynny’r tymor hyn. Fel tîm, ‘ry’n ni’n gwybod ein bod yn gallu creu cyfleoedd ond mae’n rhaid i ni fanteisio’n fwy aml ar y cyfleoedd hynny o hyn ymlaen a sgorio mwy o geisiau.
“Mae’n paratoadau ni wedi mynd yn dda ac mae’r garfan wedi gweithio’n arbennig o galed. Yn naturiol felly, ‘ry’n ni’n gobeithio cael dechrau da i’n hymgyrch ni ar Barc yr Arfau ddydd Sadwrn.
“Mae’n wych i gael Gwen Crabb yn ôl yn yr ail reng, yn enwedig wedi iddi weithio mor galed er mwyn gall dod yn ôl. Mae ei phrofiad sylweddol yn werthfawr iawn i ni hefyd.
“Mae agwedd a chyfraniad Kate Williams yn y sesiynau ymarfer wedi bod yn grêt hefyd ac mae’n brofiad pleserus i allu cynnig y cyfle posib iddi ennill ei chap cyntaf ddydd Sadwrn.
“Ar y cyfan ‘ry’n ni wedi chwilio am bartneriaethau cadarn ac mae’r tîm yma wedi ei ddewis er mwyn ceisio cael y gorau ar heriau penodol y bydd Iwerddon yn eu cynnig.
“Ein bwriad yw adeiladu ar ein tymor cadarnhaol y llynedd. Fe ddylen ni fod wedi ennill tair o’r gemau bryd hynny felly ein nôd yw troi’r addewid hwnnw i mewn i fwy o ganlyniadau positif. Mae dechrau gyda gêm gartref yn rhoi cyfle da i ni ddechrau’r ymgyrch yn dda.
“Ry’n ni eisiau rhoi rhywbeth i’n cefnogwyr weiddi amdano o’r cychwyn cyntaf fydd wedyn yn rhoi momentwm pwysig i ni am weddill y gystadleuaeth.
Tîm Menywod Cymru i herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023
15 Courtney Keight
14 Lisa Neumann
13 Hannah Jones (capten)
12 Kerin Lake
11 Carys Williams-Morris
10 Elinor Snowsill
9 Keira Bevan;
1 Gwenllian Pyrs
2 Kelsey Jones
3 Sisilia Tuipulotu
4 Abbie Fleming
5 Gwen Crabb
6 Georgia Evans
7 Alex Callender
8 Bethan Lewis
Eilyddion
16 Kat Evans
17 Caryl Thomas
18 Cerys Hale
19 Kate Williams
20 Sioned Harries
21 Ffion Lewis
22 Lleucu George
23 Hannah Bluck