Neidio i'r prif gynnwys
Taulupe Faletau

Bydd Taulupe Faletau yn ennill ei 100fed cap i Gymru yn erbyn Ffrainc

Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi enwi’r XV fydd yn cynrychioli Cymru yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France ddydd Sadwrn (18 Mawrth am 2.45pm GMT yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Bydd yr wythwr Talupe Faletau yn ennill ei 100fed cap ddeuddeg mlynedd wedi iddo gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn y Barbariaid. Enillodd Faletau ei 50fed cap yn erbyn Fiji yn ystod Cwpan y Byd 2015.

Bydd Dillon Lewis yn ennill ei 50fed cap os y bydd yn cael ei alw o’r fainc ddydd Sadwrn. Bydd George North oedd hefyd yn wynebu’r Barbariad gyda Faletau yn 2011 yn partneru Nick Tomkins yn y canol yn erbyn Ffrainc y penwythnos hwn.

Am y trydydd tro yn ei yrfa ryngwladol – bydd Louis Rees-Zammit yn dechrau’n safle’r cefnwr gyda Rio Dyer a Josh Adams ar yr esgyll.

Mae Dan Biggar yn dychwelyd o’i anaf i safle’r maswr tra bo Rhys Webb yn parhau’n fewnwr wedi ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth eleni yn erbyn Yr Eidal y penwythnos diwethaf.

Mae dau newid ymysg y blaenwyr gydag Alun Wyn Jones yn dechrau’n yr ail reng tra bod Aaron Wainwright yn ymddangos yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf eleni’n flaen-asgellwr ar yr ochr dywyll.

Nid oedd modd ystyried Jac Morgan gan iddo anafu ei bigwrn wrth ymarfer. Ymysg y blaenwyr ar y fainc bydd Gareth Thomas a Bradley Roberts i gynnig opsiynau yn y rheng flaen.

Dafydd Jenkins a Tommy Reffell yw’r ddau flaenwr arall ar y fainc tra bydd Leigh Halfpenny, Tomos Williams ac Owen Williams yn cynnig yr opsiynau tactegol eraill.

Dywedodd Gatland: “Roedd sicrhau buddugoliaeth yn y Chwe Gwlad y Sadwrn diwethaf yn bwysig iawn i ni o safbwynt ein hyder. Roedd yn gam pendant i’r cyfeiriad cywir ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

“Ry’n ni wedi gweithio’n galed er mwyn gwella ambell fân wendid yn ein amddiffyn ac rydym yn parhau i wella’n ymosodol hefyd.

“Roedd perfformiad Ffrainc y penwythnos diwethaf gyda’r gorau i mi ei weld a nhw yw ail dîm gorau’r byd ar hyn o bryd wrth gwrs. Maen nhw’n gorfforol iawn ac wedi dechrau pob gêm yn gyflym hyd yma.

“Mae’n rhaid i ni ddechrau’n dda ddydd Sadwrn fel ein bod yn gallu cystadlu ym mhob agwedd o’r gêm fel bod gennym gyfle i gymryd ein cyfleoedd.

“Mae Ffrainc yn cicio cryn dipyn hefyd felly mae’n rhaid i’r agwedd honno o’n gêm ni fod yn effeithiol

Wrth gyfeirio at 100fed cap Faletau dywedodd Gatland: “Mae wedi bod yn was ffyddlon iawn i rygbi Cymru ac mae’r parch sydd gan bawb ato’n adrodd cyfrolau.

“Mae’n gwneud pethau pwysig nad ydi pawb yn sylwi arnyn nhw ac mae’n chwaraewr mawr ar y llwyfan byd-eang. Roedd yn allweddol yr wythnos ddiwethaf a sgoriodd gais hefyd wrth gwrs.

“Mae cyrraedd 100 cap yn glod mawr iddo a’i deulu. Gobeithio y bydd yn perfformio’n dda yn erbyn Ffrainc er mwyn cofnodi’r achlysur mewn steil”.

Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Glwad 2023, Sadwrn 18 Mawrth 2.45 GMT.
Yn fyw ar S4C ac ITV

15. Louis Rees-Zammit (Caerloyw– 24 caps)
14. Josh Adams (Caerdydd – 48 caps)
13. George North (Gweilch– 112 caps)
12. Nick Tompkins (Saracens – 26 caps)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 6 caps)
10. Dan Biggar (Toulon – 106 caps)
9. Rhys Webb (Gweilch– 39 caps)
1. Wyn Jones (Scarlets – 47 caps)
2. Ken Owens (Scarlets – 90 caps) capten
3. Tomas Francis (Gweilch– 70 caps)
4. Adam Beard (Gweilch – 45 caps)
5. Alun Wyn Jones (Gweilch – 157 caps)
6. Aaron Wainwright (Dregiau– 36 caps)
7. Justin Tipuric (Gweilch – 92 caps)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 99 caps)

Replacements
16. Bradley Roberts (Dreigiau – 4 caps)
17. Gareth Thomas (Gweilch– 20 caps)
18. Dillon Lewis (Caerdydd– 49 caps)
19. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 5 caps)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 8 caps)
21. Tomos Williams (Caerdydd– 44 caps)
22. Owen Williams (Gweilch– 6 caps)
23. Leigh Halfpenny (Scarlets – 98 caps)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i herio Ffrainc yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad 2023