Bydd y maswr 22 oed yn dychwelyd i rygbi yng Nghymru ar ôl treulio pedair blynedd ym Mryste.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd, roedd Lloyd yn aelod o Academi Gleision Caerdydd cyn ymuno â Choleg Clifton lle aeth ymlaen i ymuno â’r Bears.
Ond yn ddeunaw oed ar y pryd, fe aeth ymlaen i fod y chwaraewr ifancaf yng Nghynghrair Lloegr gan sgori gais fel eilydd yn ystod y gêm darbi yn erbyn Bath.
Derbyniodd Lloyd gap i Gymru D18 a D20 ac fe raddiodd i dîm Cymru yn 2020, gan wneud dau ymddangosiad oddi’r fainc yn ystod ymgyrch Gemau’r Hydref ym Mharc y Scarlets. Mae Ioan wedi ymddangos 78 o weithiau i Fryste.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Ioan yn chwaraewr o ansawdd uchel iawn gyda llawer o dalent a’r gallu i dorri’r llinell a herio’n amddiffynnol. Mae’n chwaraewr rydym yn teimlo bydd yn gallu addasu’n dda i’r steil o chwarae yma ac rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu yn yr haf. Mae’n ddyn ifanc gyda llawer o botensial i dyfu yn y clwb.”
Dywedodd Ioan Lloyd: “Roedd hi’n benderfyniad anodd iawn i adael Bryste. Dw i wedi mwynhau’r pedair blynedd diwethaf gyda’r clwb yn fawr ac wedi creu sawl perthynas da. Er hynny, ar ôl sawl trafodaeth gyda Dwayne, teimlaf bydd y symud i’r Scarlets yn un da i mi o ran fy rygbi a bydd yn helpu fy natblygiad fel chwaraewr. Teimlaf mai steil o chwarae’r Scarlets yn addas i fy chwarae ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno tymor nesaf.
“Am nawr, mae fy ffocws ar chwarae i Fryste a gorffen y tymor yn gryf.”
Mae cytundeb Lloyd yn dilyn y cyhoeddiad bydd bachwr Cymru Ryan Elias yn parhau ei yrfa gyda’r Scarlets gyda chytundeb newydd. Bydd mwy o gyhoeddiadau cytundebau yn cael eu gwneud wythnos yma.