Bydd Cymru’n wynebu Ffrainc yn y Stade des Alpes yn Grenoble ddydd Sul y 23ain o Ebrill (3:15 pm) cyn herio’r Eidal yn y Stadio Sergio Lanfranchi yn Parma ddydd Sadwrn y 29ain o Ebrill (3.30pm).
Bydd y garfan yn hedfan i dde ddwyrain Ffrainc yn ystod y 24 awr nesaf ac yna wedi’r gêm yn Grenoble byddant yn teithio i Parma er mwyn paratoi am bron i wythnos cyn herio’r Eidal.
Dyma fydd y tro cyntaf yn eu hanes i Fenywod Cymru baratoi am gyfnod o’r fath ar dir eu gwrthwynebwyr, ar gyfer gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Wedi dwy fuddugoliaeth a phwyntiau bonws yn eu dwy gêm agoriadol, bydd carfan Cunningham yn gobeithio taro’n ôl wedi’r golled yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r ddwy gêm olaf yn ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok eleni yn arbennig o bwysig.
“Rydym yn creu ychydig o hanes wrth gyhoeddi carfan fydd yn ymarfer ar dir tramor rhwng y ddwy ornest. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i ni dreulio mwy o amser gyda’n gilydd i ymarfer a hyfforddi’n effeithiol.
“Fel arfer, fe fydden ni’n hedfan yn ôl adref wedi’r gêm gyntaf – ond bydd y trefniant yma’n ein galluogi i ganolbwyntio’n llwyr ar herio Ffrainc a’r Eidal.
“Ry’n ni’n hedfan mas i Grenoble i ddechrau ac yna byddwn yn teithio am rhyw 5 awr ar fws i Parma yn syth wedi i ni herio Ffrainc. Bydd ein canolfan ymarfer yno yn ein galluogi i baratoi’n drylwyr iawn ar gyfer ein her olaf o’r Bencampwraieth.
“Gan bod llai o deithio na’r arfer – bydd gennym fwy o amser i adolygu ein perfformiad yn Ffrainc a pharatoi ar gyfer wynebu’r Eidal.
“Mae’r garfan yma’n agos iawn at ei gilydd. Fe brofodd yr amser dreulion ni gyda’n gilydd yn ystod Cwpan y Byd yn Seland Newydd yn werthfawr iawn o safbwynt hynny. ‘Rwy’n siwr y bydd yr amser ychwanegol gyda’n gilydd yn yr Eidal yn cryfhau’r garfan fel uned hyd yn oed yn fwy.