Unwaith eto, y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm – sy’n cynnwys wyth newid o’r ornest hynod gorfforol yn erbyn Lloegr o flaen record o dorf yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf.
Bydd Elinor Snowsill yn cyrraedd carreg filltir nodedig yn ei gyrfa pan fydd hi’n hawlio ei 75fed cap wedi gyrfa o ddegawd yn y crys coch.
Ennill ei chap cyntaf fydd y prop Abbey Constable a hi fydd y trydydd chwaraewr yn ystod y Bencampwriaeth i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf.
Y profiadol Carys Phillips a Cerys Hale fydd y ddwy arall yn y rheng flaen gyda Kate Williams yn dechrau ei gêm gyntaf fel blaen-asgellwr – wedi iddi ennill tri chap o’r fainc yn ystod y Bencampwriaeth.
Bydd y canolwr Lleucu George a’r mewnwr profiadol Ffion Lewis hefyd yn dechrau gornest ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod TikTok 2023 am y tro cyntaf tra bo Carys Williams-Morris yn dychwelyd ar yr asgell.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm Menywod Cymru, Ioan Cunningham: “Mae chwarae yn erbyn Ffrainc ar eu tomen eu hunain yn dipyn o her – yn enwedig wythnos wedi i ni wynebu un o dimau eraill gorau’r byd hefyd.
“Ond wedi dweud hynny, ry’n ni’n dîm uchelgeisiol – a dyma’r math o brofion sydd eu hangen arnom er mwyn cryfhau’r garfan cyn Cwpan y Byd.
“Ry’n ni wedi dadansoddi ein perfformiad yn erbyn Lloegr ac wedi profi ein bod yn gallu creu problemau mawr i un o dimau gorau’r byd. Gwneud yn siwr ein bod yn creu’r problemau hynny am gyfnodau hirach yn erbyn Ffrainc yw’r nôd y penwythnos yma.
“Mae’r chwaraewyr sydd wedi eu dewis i ddechrau’r gêm yn haeddu eu cyfle ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn perfformio yn y crys coch.
“Mae Elinor Snowsill yn ennill cap rhif 75 ddydd Sul – tipyn o gamp – a bydd ei phrofiad a’i gallu i berfformio o dan bwysau yn safle’r maswr, yn werthfawr iawn i ni unwaith eto yn erbyn Ffrainc.
“Mae Abbey Constable wedi ymarfer yn arbennig trwy gydol ein hamser gyda’n gilydd ac mae hi’n haeddu ei chyfle. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn perfformio.
“Abbey fydd ein trydydd cap newydd o’r Bencampwriaeth ac mae’n braf gallu rhoi cyfle i Kate Williams ddechrau gêm am y tro cyntaf hefyd – wedi ei pherfformiadau cyson hi wrth ymarfer.
Tîm Menywod Cymru i herio Ffrainc ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok 2023
15. Courtney Keight (Bryste)
14. Lisa Neumann (Hartpury Caerloyw)
13. Hannah Jones (Capten, Hartpury Caerloyw)
12. Lleucu George (Hartpury Caerloyw)
11. Carys Williams-Morris (Loughborough)
10. Elinor Snowsill (Bryste)
9. Ffion Lewis (Caerwrangon)
1. Abbey Constable (Hartpury Caerloyw)
2. Carys Phillips (Caerwrangon)
3. Cerys Hale (Hartpury Caerloyw)
4. Abbie Fleming (Caerwysg)
5. Georgia Evans (Saraseniaid)
6. Bethan Lewis (Hartpury Caerloyw)
7. Kate Williams (Hartpury Caerloyw)
8. Sioned Harries (Caerwrangon)
Eilyddion
16. Kelsey Jones (Hartpury Caerloyw)
17. Gwenllian Pyrs (Bryste)
18. Sisilia Tuipulotu (Hartpury Caerloyw)
19. Bryonie King (Bryste)
20 Alex Callender (Caerwrangon)
21. Keira Bevan (Bryste)
22. Robyn Wilkins (Caerwysg)
23. Niamh Terry (Caerwrangon)