Neidio i'r prif gynnwys
Lydia Stirling

Lydia Stirling joined the WRU in September 2021 as People Director

Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol

Mae URC wedi cadarnhau bod rhestr fer ar gyfer y cadeirydd wed ei lunio a bod panel penodi – sy’n cynrychioli Cymru gyfan – yn ei le.Y bwriad yw penodi’n ffurfiol yn ystod yr haf.

Rhannu:
Mae Cyfarwyddwr Pobl, Undeb Rygbi Cymru, Lydia Stirling wedi cadarnhau bod cannoedd o bobl wedi ymgeisio i fod yn gadeirydd a chyfarwyddwyr annibynnol URC, gyda safon yr ymgeisiwyr yn ‘arbennig’.

Dywedodd Stirling bod y rhestr fer yn cynnwys ymgesiwyr safonol tu hwnt o’r trydydd sector yn ogystal â’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Pwysleisiodd hefyd bod ymrwymiad yr Undeb i weddnewid cynrychiolaeth ar y Bwrdd yn parhau ar y trywydd cywir yn unol â dymuniad mwyafrif llethol aelodau’r Undeb yn y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ym mis Mawrth.

Y cynllun yw i benodi Cadeirydd cyn ddiwedd yr haf gyda’r Prif Weithredwr yn cael ei benodi, neu ei phenodi, yn fuan wedi hynny. Bydd y broses o sicrhau gwasanaeth dau gyfarwyddwr annibynnol pellach hefyd wedi ei gwblhau cyn y Nadolig – ond y gobaith yw cyflymu’r broses honno.

Nid yw rhestr fer ar gyfer swydd y Prif Weithredwr wedi ei lunio hyd yn hyn – ond mae’r arbenigwyr yn y maes, Odgers Berndtson bron â chwblhau rhestr hir o safon.

Gobaith Undeb Rygbi Cymru yw sicrhau bod 40% o aelodau’r Bwrdd newydd yn fenywod – naill ai fel cyfarwyddwyr annibynnol neu fel cynghorwyr etholedig cenedlaethol/ardal.

Dywedodd Stirling, ymunodd â’r Undeb fis Medi 2021 yn dilyn cyfnodau mewn swyddi dylanwadol gydag Arup a thîm rasio McLaren:

“Bydd penodi’r cadeirydd newydd yn garreg filltir bwysig a bydd newidiadau cadarnhaol eraill yn dilyn y penodiad hwnnw.

“Mae gennym restr fer arbennig ar gyfer swydd y cadeirydd ac mae’r broses o benodi’r Prif Weithredwr yn hwylus. Bydd gennym dros 300 o enwau safonol y gallwn eu cynnig i’r cadeirydd newydd i’w hystyried ar gyfer swyddi dylanwadol yn y dyfodol.

“Mae’r broses hon wedi deillio o’r penderfyniad allweddol gymrwyd ym mis Mawrth i foderneiddio ein llywodraethiant.

“Rydym eisoes yn gwybod y bydd ein cadeirydd newydd yn dod o gefndir proffesiynol gyda phrofiad ac arbenigedd aruthrol. Mae safon y rhestr fer yn arbennig ac mae pob ymgeisydd wedi eu huno gan eu hangerdd tuag at rygbi Cymru.

“Mae angen i ni newid cyfeiriad yr Undeb a manteisio ar gyfleoedd masnachol gwirioneddol sydd ar gael i ni. Mae’n gyfnod hynod o gyffrous i’n staff a’n cefnogwyr gan ein bod yn cymryd camau pwrpasol i wireddu ein potensial. Mae safon ein ymgeiswyr yn sicr o’n cynorthwyo i weithredu hyn.

Cadarnhaodd Stirling bod dros 80 o ymgeiswyr safonol tu hwnt wedi cynnig eu hunain ar gyfer y rôl i gynrychioli gêm y merched a’r menywod yn benodol ar Fwrdd yr Undeb.

“Rydym yn hynod gyffrous am safon a phrofiad yr ymgeiswyr ac o’r herwydd rydym yn hynod o hyderus y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfrannu’n fawr at ddatblygiad pellach gêm y merched a’r menywod.


“Rwyf wedi bod ynghlwm â’r broses benodi yma o’r cychwyn cyntaf ac mae safon yr ymgeiswyr yn ei gwneud hi’n allweddol ein bod yn gallu manteisio ar yr arbenigedd a’r brwdfrydedd amlwg sy’n bodoli tuag at gamp y merched. Hyd yn oed os nad yw ymgeiswyr penodol yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn – bydd ganddynt gyfraniad pwysig i’w wneud i dwf y gamp yn y dyfodol o ganlyniad i’w harbenigedd a’u hangerdd tuag at rygbi Cymru”.

Ar y 26ain o Fawrth 2023 cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru Gynnig Arbennig i benodi Cadeirydd Annibynnol a dau Gyfarwyddwr annibynnol pellach i Fwrdd yr Undeb. O ganlyniad bydd cyfanswm o chwe aelod annibynnol ar y Bwrdd fydd yn cynnwys deuddeg o bobl.

Bydd pedwar aelod o’r Bwrdd yn parhau i fod yn aelodau etholedig o Gyngor URC gan gynnwys cadeirydd y Bwrdd Cymunedol.

Bydd Prif Weithredwr yr Undeb a Chyfarwyddwr newydd â chyfrifoldeb am gêm y merched a’r menywod yn aelodau o’r Bwrdd.

Bwriad URC yw cael o leiaf bump o fenywod fel cyfarfwyddwyr.

Bydd Cyfarfod Blynyddol URC yn digwydd fis Tachwedd.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Rhino Rugby
Sportseen
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol
Amber Energy
Opro
Cannoedd yn ymgeisio i fod yn gyfarwyddwyr annibynnol