Neidio i'r prif gynnwys
Evans and Whitehouse

Craig EVans ac Ben Whitehouse

Dau Ddyfarnwr o Gymru’n cael eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd

Mae Craig Evans a Ben Whitehouse wedi cael eu dewis fel aelodau o’r timau dyfarnu ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn hwyrach eleni.

Rhannu:

Mae cyfanswm o 26 o swyddogion (a noddir gan Emirates) o 9 gwlad wahanol wedi eu dewis i ofalu am 48 o gemau yn ystod y gystadleuaeth ac mae ganddynt brofiad o ddyfarnu 630 o gemau prawf rhyngddynt.

Mae 12 o Ddyfarnwyr wedi eu gwahodd i’r gystadleuaeth gyda Craig Evans wedi ei ddewis yn un o’r 7 Dyfarnwr Cynorthwyol. Wedi iddo weithio fel Dyfarnwr Fideo (TMO) yng Nghwpan Rygbi’r Byd i Fenywod yn Seland Newydd y llynedd – mae Ben Whitehouse wedi ei ddewis i gyflawni’r un rôl yn Ffrainc.

Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt am gael eu dewis yn haeddiannol.

Dywedodd Rheolwr Perfformiad Cenedlaethol Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru, Paul Adams:

“Rwyf wrth fy modd fod bod gwaith caled ac arbenigedd Ben a Paul wedi ei gydnabod.

“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer o swyddogion wedi eu dewis yn gyson fel Dyfarnwyr Cynorthwyol a Dyfarnwyr Fideo mewn Gemau Prawf er mwyn eu paratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

“Mae Craig a Ben wedi bod yn rhan o’r criw dethol hwnnw ac ‘roedd eu perfformiadau’n cael eu hasesu’n fanwl. Yn naturiol felly, mae’n rhoi pleser mawr i mi weld bod safon a chysondeb eu gwaith wedi cael ei gydnabod.

“Maen nhw’n gyfarwydd gyda’r profiad o weithio yng Nghwpan y Byd gan i Ben weithredu fel Dyfarnwr Fideo yn Rownd Derfynol cystadleuaeth y Menywod y llynedd a gan bod Craig wedi bod yn y canol yng Nghwpan Y Byd y Gyfres 7 Bob Ochr. Mae hefyd wedi dyfarnu’n gampus ar y gylchdaith honno.

“Mae’r ddau ohonyn nhw’n ddigon ifanc i gael eu dewis yng Nghwpan y Byd 2027 hefyd a bydd y profiad yng nghystadleuaeth eleni yn werthfawr iddynt i sicrhau eu bod yn cael eu hystyried ymhen pedair blynedd hefyd.

Bydd Whitehouse yn dilyn ôl traed ei dad, gan i Nigel weithredu fel Dyfarnwr Cynorthwyol a Dyfarnwr Fideo yng Nhwpan y Byd yn 2003.Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Swyddogion Graham Mourie: “Hoffwn longyfarch y 26 Swyddog sydd wedi cael eu dewis fel rhan o’n tîm dyfarnu ar gyfer Cwpan y Byd Ffrainc 2023.

“ Fel y chwaraewyr, maen nhw wedi ennill eu lle ar sail eu gwaith caled a’u dawn ac maen nhw wedi gorfod gwneud aberth sylweddol er mwyn cael eu hystyried.

“Hoffwn ddiolch yn swyddogol iddyn nhw am eu gwaith. Felly hefyd y Swyddogion hynny fethodd â chael eu dewis y tro hwn. Mae’r anogaeth a’r gefnogaeth sy’n bodoli rhwng ein swyddogion yn aruthrol.

“Edrychaf ymlaen at weld y dynion a’r menywod hyn yn cynrychioli eu gwledydd eu hunain yn ystod y gystadleuaeth ac fe fyddan nhw i gyd yn ceisio perfformio hyd eithaf eu gallu gan gynrychioli ein teulu arbennig o swyddogion yn Ffrainc. Mae’n bwysig bod pawb yn dangos eu cefnogaeth i’r Dyfarnwyr yn ystod Cwpan y Byd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dau Ddyfarnwr o Gymru’n cael eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dau Ddyfarnwr o Gymru’n cael eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dau Ddyfarnwr o Gymru’n cael eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Dau Ddyfarnwr o Gymru’n cael eu dewis ar gyfer Cwpan y Byd