Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi gŵr gyda phrofiad sylweddol ar y maes ac oddi-arno gan i Jones gynrychioli’r Scarlets a Chymru fel chwaraewr. Dechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr gyda’r Scarlets hefyd cyn symud i Rotherham, Rygbi Gogledd Cymru, Namibia, Crusaders a Chaerwrangon.
Yn 2013 bu’n aelod o dîm hyfforddi Cymru – enillodd y Chwe Gwlad a theithiodd i gynorthwyo Robin McBryde ar y daith o Siapan yr haf hwnnw hefyd.
Bydd haf prysur yn wynebu Jones gan y bydd Pencampwriaeth dan 20 y Byd yn dechrau ar y 24ain o Fehefin wrth i Gymru wynebu Seland Newydd yn Paarl, De Affrica. Ffrainc a Siapan fydd y ddau dîm arall yng Ngrŵp A.