Ni fydd mewnwr Cymru, Ffion Lewis yn gallu cynrychioli ei gwlad yng nghystadleuaeth WXV yn ystod yr Hydref o ganlyniad i anaf difrifol i’w phen-glin.
Dioddefodd Lewis, sydd wedi cynrychioli Cymru 33 o weithiau, yr anaf yn ystod munudau olaf y fuddugoliaeth ddiweddar o 36-10 yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad TikTok yn Parma.
‘Roedd perfformiadau Lewis, sy’n 26 oed, yn ystod y Bencampwriaeth yn allweddol wrth i Gymru’n hawlio eu lle ymysg prif dimau’r byd yng nghystadleuaeth newydd y WXV.
O ganlyniad i dair buddugoliaeth Cymru yn ystod y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2009 – sicrhaodd y crysau cochion eu lle ymhlith chwe detholyn uchaf y byd am y tro cyntaf yn eu hanes.
‘Roedd Lewis yn un o’r ‘deuddeg disglair’ gwreiddiol gafodd gynnig cytundeb proffesiynol am y tro cyntaf erioed gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022.
Dywedodd Ffion Lewis, mewnwr Cymru:
‘Mae dioddef anaf fel hyn yn dorcalonus – yn enwedig gan mai dim ond dwy funed o’r gêm oedd ar ôl yn yr Eidal.
‘Mae’r garfan wedi gweithio mor galed i gyrraedd cystadleuaeth y WXV ac felly’n amlwg ‘rwy’n siomedig iawn na fyddaf yn gallu cymryd rhan ynddi. Mae yn cynnig cyfle arbennig i’r garfan brofi eu hunain yn erbyn timau gorau’r byd ac mae hynny’n beth i’w groesawu wrth gwrs.
‘Yn anffodus mae anafiadau fel hyn yn rhan o chwaraeon elît. ‘Rwy’n mynd i wneud popeth o fewn fy ngallu i wella’n iawn mor gyflym ag sy’n bosib – a dod yn ôl yn chwaraewr cryfach yn y pendraw.
‘Rwy’n lwcus iawn bod fy ffrindiau, fy nghyd-chwaraewyr a fy nheulu mor gefnogol ac mae ymrwymiad ac arbenigedd tîm meddygol a ffitrwydd yr Undeb yn rhoi pob cyfle i mi wella’n llwyr ac mor fuan ag sy’n bosib”.