Wrth siarad am ei benderfyniad, dywedodd Tipuric, sydd wedi ennill 93 o gapiau dros Gymru:
“Ers i’r tymor ddod i ben, ‘rwyf wedi bod yn meddwl cryn dipyn am fy ngyrfa ac wedi dod i’r penderfyniad mai ‘nawr yw’r amser iawn i gamu o’r llwyfan rhyngwladol.
“Mae hi wedi bod yn fraint i wisgo’r crys coch a chreu gymaint o atgofion arbennig.
“Hoffwn ddiolch i’r hyfforddwyr a’r chwaraewyr sydd wedi bod yno gyda mi bob cam o’r ffordd ac mae cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru wedi bod yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth.
“’Rwy’n edrych ymlaen at dreulio ychydig mwy o amser gartref a chanolbwyntio ar wneud fy ngorau dros y Gweilch.
Enillodd Tipuric ei gap cyntaf yn erbyn Ariannin yn 2011 – ac fel Alun Wyn Jones a gyhoeddodd ei ymddeoliad ar yr un diwrnod – gwisgodd y crys coch am y tro olaf ym Mharis ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness fis Mawrth.
Tyfodd Tipuric drwy rengoedd clwb Trebannws ac mae wedi ennill dwy Gamp Lawn gyda Chymru a phedair Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn ogystal.
Cafodd y fraint o fod yn gapten ar ei wlad ar sawl achlysur hefyd. Y tro diwethaf iddo wneud hynny oedd yn ystod Cyfres yr Hydref 2022.
Teithiodd gyda’r Llewod ar dair taith (2013,2017 & 2021) gan chwarae yn y Prawf olaf yn Awstralia yn 2013.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Mae Justin wedi bod yn chwaraewr allweddol yn rheng-ôl Cymru ers iddo gael ei alw i’r tîm yn 2011. Mae’n berson tawel oddi-ar y cae ond mae ei ddoniau ar y maes yn sefyll allan.
“Dyw e ddim yn hoffi llawer o sylw ond hoffwn ei longyfarch ar yrfa ragorol. Mae wedi gwneud cyfraniad arbennig iawn i rygbi Cymru ac ‘rwy’n siwr y gwnaiff pawb ymuno gyda mi, wrth i mi ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol”.