Neidio i'r prif gynnwys
47 o chwaraewyr yng ngharfan ddiweddaraf Cwpan y Byd

Mae'r garfan wedi bod yn gweithio'n galed ar y maes ymarfer ac yn y gampfa.

47 o chwaraewyr yng ngharfan ddiweddaraf Cwpan y Byd

Heddiw mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi cyhoeddi 47 o chwaraewyr yn ei garfan ymarfer ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023.

Rhannu:

Ers y garfan estynedig gyntaf gyhoeddywd ar Fai’r 1af, mae Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Rhys Webb wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol. Yn ogystal mae Rhys Carre wedi ei ryddhau ac mae Cory Hill wedi tynnu yn ôl o’r garfan gan nad yw ar gael i chwarae yn ystod Cwpan y Byd.

Mae Sam Parry (Gweilch) wedi ei alw i ymuno gyda’r garfan.

Bellach mae tri arall wedi eu rhyddhau o ganlyniad i anafiadau – sef Ken Owens (cefn) a Josh Macleod (ysgwydd) o’r Scarlets a Will Davies-King (troed) o Gaerdydd.

Dywedodd Gatland; “Rydym wedi bod yn hapus iawn gydag agwedd ac ymroddiad ein chwaraewyr yn ystod wythnosau cyntaf ein ymarfer.

“Mae’r grŵp wedi gweithio’n galed iawn ac rydym fel tîm hyfforddi, wedi eu herio’n gorfforol ac yn feddyliol – fel efallai i chi weld mewn ambell fideo.

“Yn anffodus mae’n rhaid i ni ryddhau Ken, Josh a Will o ganlyniad i’w hanafiadau ac mae hynny’n siomedig iawn. Wedi dweud hynny, mae’r tri ohonyn nhw’n gobeithio bod yn holliach yn hwyrach eleni – ac felly mae’n bosib y byddwn yn gallu galw arnyn nhw os y byddwn yn dioddef mwy o anafiadau yn y garfan yn nes at y gystadleuaeth.

“Mae angen amser ar Ken i roi trefn ar y broblem gyda’i gefn. Anafwyd Josh ar ddyletswydd gyda’i glwb ac er ein bod wedi gobeithio ei gadw gyda’r garfan – mae asesiad yr arbenigwr wedi dangos nad yw hynny’n bosib. Cafodd Will ei anafu tra’n ymarfer gyda ni – ac fe waethygodd pethau mewn sesiwn ddiweddarach ac felly’n anffodus bu’n rhaid i ni ei ryddhau”.

Yn dilyn cyfnod o sesiynau ymarfer rhwng Mai 25ain a Mehefin 21ain, mae’r garfan wedi ymgasglu yn Hensol heddiw ar gyfer tridiau arall o ymrfer ar dir Cymru, cyn teithio i Fiesch yn y Swistir ddydd Llun, am gyfnod o bythefnos.

Ychwanegodd Gatland: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael y garfan yn ôl gyda’i gilydd am dri diwrnod cyn teithio i’r Swistir.

“Mae’n paratoadau hyd yma wedi bod yn dda yma yng Nghymru ond yn y Swistir yn benodol rydyn ni’n gobeithio manteisio ar gysgu yn uchel yn y mynyddoedd fel y gallwn ymarfer hyd yn oed yn galetach.

“Ni fydd Owen Williams nac Alex Cuthbert yn teithio i’r Swistir am resymau personol ond rydym yn hyderus y bydd y ddau ohonyn nhw yn ymuno gyda’r garfan ar gyfer y sesiynau ymarfer yn Nhwrci ymhen rhai wythnosau.

“Bydd Taulupe Faletau yn teithio i’r Swistir ar gyfer ein hail wythnos yno – fydd yn rhoi’r cyfle iddo wella’n llwyr o anaf bychan i gefn ei goes ac hefyd dreulio amser gwerthfawr gyda’i deulu yn dilyn genedigaeth diweddar ei drydydd plentyn.”

Yn dilyn y cyfnod gyda’i gilydd yn y Swistir bydd y garfan yn cael ychydig o ddyddiau rhydd cyn ail-ymgynnull ar gyfer taith i Dwrci rhwng y 23ain a’r 31ain o Orffennaf.

Yn dilyn hynny bydd gan Gymru dair gêm brawf yng Nghyfres yr Haf. Byddant yn herio Lloegr (gartref ar Awst 5 ac oddi cartref Awst 12) cyn croesawu De Affrica i Stadiwm Principality (19 Awst).

Wedi’r dair ornest honno bydd y garfan derfynol o 33 aelod yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc.

Mae tocynnau ar gael i wylio’r ddwy gêm gartref yng Nghyfres yr Haf ar werth yma: WRU.WALES/TICKETS

Carfan Ymarfer Ddiweddaraf Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023

Blaenwyr (25)

Corey Domachowski (Cardiff Rugby / Caerdydd– Heb gap)
Kemsley Mathias (Scarlets – Heb gap)
Nicky Smith (Ospreys / Gweilch– 42 cap)
Gareth Thomas (Ospreys /Gweilch – 21 cap)
Elliot Dee (Dragons / Dreigiau– 41 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 33 cap)
Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 8 cap)
Sam Parry (Ospreys / Gweilch – 5 cap)
Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd– Heb gap)
Tomas Francis (Ospreys / Gweilch – 71 cap)
Dillon Lewis (Harlequins – 50 cap)
Henry Thomas (Montpellier – Heb gap)
Adam Beard (Ospreys / Gweilch– 46 cap)
Ben Carter (Dragons / Dreigiau– 9 cap)
Rhys Davies (Ospreys / Gweilch – 2 gap)
Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 6 cap)
Will Rowlands (Dragons / Dreigiau – 23 cap)
Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 5 cap)
Teddy Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd– Heb gap)
Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 11 cap)
Taulupe Faletau (Cardiff Rugby / Caerdydd – 100 cap)
Dan Lydiate (Dragons / Dreigiau – 68 cap)
Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 9 cap)
Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr– 9 cap)
Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 37 cap)

Olwyr (22)

Gareth Davies (Scarlets – 67 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 17 cap)
Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 45 cap)
Gareth Anscombe (Heb glwb – 35 cap)
Dan Biggar (Toulon – 107 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 2 gap)
Owen Williams (Ospreys / Gweilch – 7 cap)
Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 gap)
Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – Heb gap)
George North (Ospreys / Gweilch – 113 cap)
Joe Roberts (Scarlets – Heb gap)
Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 27 cap)
Johnny Williams (Scarlets – 5 cap)
Keiran Williams (Ospreys / Gweilch – Heb gap)
Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 49 cap)
Alex Cuthbert (Ospreys / Gweilch – 57 cap)
Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 7 cap)
Cai Evans (Ospreys/ Gweilch – Heb gap)
Leigh Halfpenny (unattached – 99 cap)
Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw– 25 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 2 gap)
Liam Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 84 cap)

GEMAU CYFRES HAF 2023

Sadwrn 5 Awst: Cymru v Lloegr
Stadiwm Principality, Caerdydd
17.30 BST
Tocynnau ar gael nawr WRU.WALES/TICKETS
CAT A £80, CAT B £60, CAT C £40 Gostyngiad o 50% ar bob tocyn i blant o dan 17 oed.
Sadwrn 12 Awst: Lloegr v Cymru
Twickenham
17.30 BST

Sadwrn 19 Awst: Cymru v De Affrica
Stadiwm Principality, Caerdydd
15.15 BST
Tocynnau ar gael nawr WRU.WALES/TICKETS
CAT A £60, CAT B £40, CAT C £20 Gostyngiad o 50% ar bob tocyn i blant o dan 17 oed.

DIWEDD.

Heddiw mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi cyhoeddi 47 o chwaraewyr yn ei garfan ymarfer ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023.

Ers y garfan estynedig gyntaf gyhoeddywd ar Fai’r 1af, mae Alun Wyn Jones, Justin Tipuric a Rhys Webb wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol. Yn ogystal mae Rhys Carre wedi ei ryddhau ac mae Cory Hill wedi tynnu yn ôl o’r garfan gan nad yw ar gael i chwarae yn ystod Cwpan y Byd.

Bellach mae tri arall wedi eu rhyddhau o ganlyniad i anafiadau – sef Ken Owens (cefn) a Josh Macleod (ysgwydd) o’r Scarlets a Will Davies-King (troed) o Gaerdydd.

Mae Sam Parry (Gweilch) wedi ei alw i ymuno gyda’r garfan.

Dywedodd Gatland; “Rydym wedi bod yn hapus iawn gydag agwedd ac ymroddiad ein chwaraewyr yn ystod wythnosau cyntaf ein ymarfer.

“Mae’r grŵp wedi gweithio’n galed iawn ac rydym fel tîm hyfforddi, wedi eu herio’n gorfforol ac yn feddyliol – fel efallai i chi weld mewn ambell fideo.

“Yn anffodus mae’n rhaid i ni ryddhau Ken, Josh a Will o ganlyniad i’w hanafiadau ac mae hynny’n siomedig iawn. Wedi dweud hynny, mae’r tri ohonyn nhw’n gobeithio bod yn holliach yn hwyrach eleni – ac felly mae’n bosib y byddwn yn gallu galw arnyn nhw os y byddwn yn dioddef mwy o anafiadau yn y garfan yn nes at y gystadleuaeth.

“Mae angen amser ar Ken i roi trefn ar y broblem gyda’i gefn. Anafwyd Josh ar ddyletswydd gyda’i glwb ac er ein bod wedi gobeithio ei gadw gyda’r garfan – mae asesiad yr arbenigwr wedi dangos nad yw hynny’n bosib. Cafodd Will ei anafu tra’n ymarfer gyda ni – ac fe waethygodd pethau mewn sesiwn ddiweddarach ac felly’n anffodus bu’n rhaid i ni ei ryddhau”.

Yn dilyn cyfnod o sesiynau ymarfer rhwng Mai 25ain a Mehefin 21ain, mae’r garfan wedi ymgasglu yn Hensol heddiw ar gyfer tridiau arall o ymrfer ar dir Cymru, cyn teithio i Fiesch yn y Swistir ddydd Llun, am gyfnod o bythefnos.

Ychwanegodd Gatland: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael y garfan yn ôl gyda’i gilydd am dri diwrnod cyn teithio i’r Swistir.

“Mae’n paratoadau hyd yma wedi bod yn dda yma yng Nghymru ond yn y Swistir yn benodol rydyn ni’n gobeithio manteisio ar gysgu yn uchel yn y mynyddoedd fel y gallwn ymarfer hyd yn oed yn galetach.

“Ni fydd Owen Williams nac Alex Cuthbert yn teithio i’r Swistir, gan bo’r tîm meddygol eisiau cadw golwg fanwl ar yr anafiadau sydd ganddynt i’r cyhyrau yn eu coesau. “Ond fe fyddan nhw’n parhau yn aelodau o’r garfan yn y gobaith y bydd y ddau ohonyn nhw’n holliach i deithio i Dwrci ar gyfer y sesiynau ymarfer yno ymhen rhai wythnosau.

“Bydd Taulupe Faletau yn teithio i’r Swistir ar gyfer ein hail wythnos yno – fydd yn rhoi’r cyfle iddo wella’n llwyr o anaf bychan i gefn ei goes ac hefyd dreulio amser gwerthfawr gyda’i deulu yn dilyn genedigaeth diweddar ei drydydd plentyn.”

Yn dilyn y cyfnod gyda’i gilydd yn y Swistir bydd y garfan yn cael ychydig o ddyddiau rhydd cyn ail-ymgynnull ar gyfer taith i Dwrci rhwng y 23ain a’r 31ain o Orffennaf.

Yn dilyn hynny bydd gan Gymru dair gêm brawf yng Nghyfres yr Haf. Byddant yn herio Lloegr (gartref ar Awst 5 ac oddi cartref Awst 12) cyn croesawu De Affrica i Stadiwm Principality (19 Awst).

Wedi’r dair ornest honno bydd y garfan derfynol o 33 aelod yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023 fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc.

Mae tocynnau ar gael i wylio’r ddwy gêm gartref yng Nghyfres yr Haf ar werth yma: WRU.WALES/TICKETS

Carfan Ymarfer Ddiweddaraf Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2023

Blaenwyr (25)

Corey Domachowski (Cardiff Rugby / Caerdydd– Heb gap)
Kemsley Mathias (Scarlets – uncapped)
Nicky Smith (Ospreys / Gweilch– 42 cap)
Gareth Thomas (Ospreys /Gweilch – 21 cap)
Elliot Dee (Dragons / Dreigiau– 41 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 33 cap)
Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 8 cap)
Sam Parry (Ospreys / Gweilch – 5 cap)
Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd– Heb gap)
Tomas Francis (Ospreys / Gweilch – 71 cap)
Dillon Lewis (Harlequins – 50 cap)
Henry Thomas (Montpellier – Heb gap)
Adam Beard (Ospreys / Gweilch– 46 cap)
Ben Carter (Dragons / Dreigiau– 9 cap)
Rhys Davies (Ospreys / Gweilch – 2 gap)
Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 6 cap)
Will Rowlands (Dragons / Dreigiau – 23 cap)
Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 5 cap)
Teddy Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd– Heb gap)
Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 11 cap)
Taulupe Faletau (Cardiff Rugby / Caerdydd – 100 cap)
Dan Lydiate (Dragons / Dreigiau – 68 cap)
Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 9 cap)
Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr– 9 cap)
Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 37 cap)

Olwyr (22)

Gareth Davies (Scarlets – 67 cap)
Kieran Hardy (Scarlets – 17 cap)
Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 45 cap)
Gareth Anscombe (Heb glwb – 35 cap)
Dan Biggar (Toulon – 107 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 2 gap)
Owen Williams (Ospreys / Gweilch – 7 cap)
Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 gap)
Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – Heb gap)
George North (Ospreys / Gweilch – 113 cap)
Joe Roberts (Scarlets – Heb gap)
Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 27 cap)
Johnny Williams (Scarlets – 5 cap)
Keiran Williams (Ospreys / Gweilch – Heb gap)
Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 49 cap)
Alex Cuthbert (Ospreys / Gweilch – 57 cap)
Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 7 cap)
Cai Evans (Ospreys/ Gweilch – Heb gap)
Leigh Halfpenny (unattached – 99 cap)
Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw– 25 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 2 gap)
Liam Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 84 cap)

GEMAU CYFRES HAF 2023

Sadwrn 5 Awst: Cymru v Lloegr
Stadiwm Principality, Caerdydd
17.30 BST
Tocynnau ar gael nawr WRU.WALES/TICKETS
CAT A £80, CAT B £60, CAT C £40 Gostyngiad o 50% ar bob tocyn i blant o dan 17 oed.
Sadwrn 12 Awst: Lloegr v Cymru
Twickenham
17.30 BST

Sadwrn 19 Awst: Cymru v De Affrica
Stadiwm Principality, Caerdydd
15.15 BST
Tocynnau ar gael nawr WRU.WALES/TICKETS
CAT A £60, CAT B £40, CAT C £20 Gostyngiad o 50% ar bob tocyn i blant o dan 17 oed.

DIWEDD.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
47 o chwaraewyr yng ngharfan ddiweddaraf Cwpan y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
47 o chwaraewyr yng ngharfan ddiweddaraf Cwpan y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
47 o chwaraewyr yng ngharfan ddiweddaraf Cwpan y Byd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro