Neidio i'r prif gynnwys
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi

Scott Baldwin yn herio Awstralia

Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi

Mae Scott Baldwin wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o rygbi yn dilyn gyrfa gofiadwy.

Rhannu:

Yn dilyn degawd a mwy o chwarae rygbi ar y lefel uchaf, mae wedi penderfynu canolbwyntio ar yrfa hyfforddi newydd gyda blaenwyr y Newcastle Falcons.

Enillodd y bachwr 34 oed, 37 o gapiau dros Gymru ac fe gynrychiolodd y Gweilch 183 o weithiau. Fe chwaraeodd dros Gaerwrangon a’r Harlequins hefyd.

“Mae hi wedi bod yn fraint cynrychioli’r Gweilch a Chymru ac ‘rwy’n arbennig o ddiolchgar am yr atgofion, y profiadau a’r ffrindiau yr wyf wedi eu gwneud dros y blynyddoedd.

“Roedd cael y cyfle i chwarae dros fy ngwlad yn freuddwyd ond mae fy antur fawr fel chwaraewr wedi dod i ben. Mae’n amser i mi ymddeol ac i symud ymlaen at bennod nesaf fy mywyd. ‘Rwyf wedi chwarae rygbi am amser maith a symud ymlaen yw’r peth iawn i mi ei wneud.

“Roedd gwneud y penderfyniad yn anodd ond mae’r amseru’n dda i mi. Er fy mod mor angerddol am chwarae rygbi – mae’n amser i mi gymryd cam yn ôl a chanolbwyntio ar fy nghyrfa newydd fel hyfforddwr.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol fy ngyrfa – fy nghyd-chwaraewyr, hyfforddwyr ac fy nheulu yn fwy na neb. ‘Roedd yn fraint cael chwarae dros Benybont, y Gweilch yr Harlequins a Chaerloyw ac i gynrychioli fy ngwlad wrth gwrs. Diolch am bopeth.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Rhino Rugby
Sportseen
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi
Amber Energy
Opro
Baldwin yn troi o chwarae i hyfforddi