Fel yr hen ystrydeb, profodd yr ornest hon yn Paarl, De Affica i fod yn gêm o ddau hanner.
Perfformiodd bechgyn Mark Jones yn arwrol yn yr hanner cyntaf. Er iddyn nhw ildio cais cynnar wedi 7 munud i Caleb Tangitau, fe sgoriod y Cymry dri chais eu hunain cyn troi o ganlyniad i ymdrechion Lewis Lloyd, Dan Edwards a Morgan Morse. Gyda dau o’r tri chais yn cael eu trosi gan Edwards – ‘roedd gan y cochion fantais o 19-5 wrth droi.
Ond stori dra gwahanol gafwyd yn 20 munud agoriadol yr ail gyfnod gyda’r Baby Blacks yn sgorio 22 o bwyntiau’n ddi-wrthwynebiad. Macca Springer, Sam Hainsworth-Fa’ofo a Che Clarke groesodd am y ceisiau sicrhaodd y pwynt bonws ychwanegol i’w tîm hefyd.
Er i Sam Scarfe sgorio pwyntiau cyntaf y Cymry ym munud ola’r gêm – gan hawlio pwynt bonws haeddiannol – ‘roedd tîm Mark Jones dal yn brin o gyfanswm Seland Newydd o bwynt yn unig hyd yn oed wedi i Edwards drosi’r cais.
Er gwaetho’r siom yn Paarl – fe hawliodd Ryan Woodman a’i dîm ddau bwynt bonws a bydd ganddynt y cyfle i gadw’u gobeithion yn fyw yn y Bencampwriaeth pan fyddan nhw’n herio Japan yn Stellenbosch ddydd Iau y 29ain o Fehefin. Fe gollodd Japan o 75-12 yn erbyn Ffrainc yn eu gornest agoriadol nhw o’r Bencampwriaeth.