Neidio i'r prif gynnwys
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru

13.06.23 - WRU -

Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud y penodiadau cyntaf i’w Fwrdd newydd, gyda dau Gyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol (INEDs) – Richard Collier-Keywood ac Alison Thorne yn ymuno gyda’r Bwrdd.

Rhannu:

Mae Richard Collier-Keywood, sy’n gyn-bartner rheoli yn y DU ac yn is-gadeirydd byd-eang PwC, wedi bod yn uwch ymgynghorydd i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a bydd yn Gadeirydd annibynnol cyntaf URC.

Mae Alison Thorne, oedd ar y rhestr fer ar gyfer swydd y Cadeirydd ei hun, wedi derbyn y gwahoddiad i lenwi un o ddwy swydd wag arall ar Fwrdd URC. Mae’r broses o recriwtio yn parhau ar gyfer aelodau annibynnol eraill y Bwrdd.

Daw’r newidiadau wedi i glybiau’r Undeb, bleidleisio bron yn unfrydol (97%) o blaid moderneiddio yn dilyn cynigion y Cadeirydd presennol, Ieuan Evans mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig (EGM) diweddar.

Mae Alison yn dod o Benarth, mae ganddi gefndir masnachol yn y sector manwerthu fel Cyfarwyddwr Gweithredol ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd Cymdeithas Tai Barcud.

Mae hi’n gyn-gadeirydd yr elusen cydraddoldeb flaenllaw Chwarae Teg ac mae’n Arweinydd yng Nghymru ar gyfer Menywod ar Fyrddau Cwmnïau. Creu sefydliadau cynhwysol yw ei nod craidd ac mae ganddi ymwybyddiaeth graff o’r heriau a’r cyfleoedd o ran darparu amrywiaeth.

Mae ganddi nifer o rolau eraill nad ydynt yn rhai gyda chyfrifoldebau gweithredol – gan gynnwys bod yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru, Llywodraethwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae’n aelod annibynnol o’r panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i Lywodraeth Cymru. Mae ei chariad at rygbi yn deillio o ddylanwad ei thad, Tony Thorne, a oedd yn dirmon yn yr hen Stadiwm Cenedlaethol, Parc yr Arfau Caerdydd yn y 1970au & 1980au.

Magwyd mam Richard ym Maesteg a threuliodd ei blentyndod yn Nottingham a Phorthcawl. Mae wedi dilyn rygbi Cymru yn angerddol ers dechrau’r 1970au. Ef fydd y Cadeirydd annibynnol cyntaf yn hanes URC pan fydd yn cymryd yr awenau gan Ieuan Evans.

Mae gan Richard gefndir masnachol yn y sector gwasanaethau proffesiynol, ond mae wedi aros yn agos at ei wreiddiau ac mae’n ymgyrchydd angerddol dros wella cymdeithas trwy weithio gyda chymunedau a busnesau lleol.

Ar hyn o bryd mae’n cadeirio Fair4All Finance a’r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol sy’n cefnogi cannoedd o entrepreneuriaid i ddechrau busnesau sy’n gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau. Mae hefyd ar Fwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a ‘Women of the World’, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb yn rhyngwladol.

“Rwy’n falch iawn o dderbyn y rôl fel cadeirydd URC. Mae rygbi Cymru wastad wedi bod yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n gymaint o fantais i ni bod miliynau ohonom ni sy’n poeni ac yn teimlo’r un fath am y gêm,” meddai Richard.

“Mae gwaith caled Ieuan Evans a Nigel Walker dros y misoedd diwethaf wedi golygu bod gennym lwyfan cadarn i fwrw ymlaen. Mae llawer i’w wneud ac rwy’n edrych ymlaen at:

– datblygu a gweithredu strategaeth sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo pob elfen o rygbi dynion a menywod Cymru, gan gynyddu’r buddsoddiad yn y gêm broffesiynol a’r gêm gymunedol;

– sefydlu diwylliant newydd a gweithredu argymhellion yr adolygiad annibynnol; a

– gweithio gyda’r Bwrdd i sicrhau bod gennym y cydbwysedd cywir o sgiliau a safbwyntiau i symud rygbi Cymru ymlaen

“Mae’n gyffrous bod rygbi’n esblygu i gynnwys teuluoedd cyfan ac mae angen i ni gydnabod a chefnogi hyn. Mae’n rhaid i ni hefyd gydnabod y rôl bwysig iawn y mae rygbi’n ei chwarae yng nghymunedau Cymru.

“Yn olaf, rydym yn gyffrous am obeithion Cymru dros y misoedd nesaf yng nghystadleuthau Pencampwriaeth Dan 20 y Byd yn Ne Affrica, Cwpan Byd y dynion yn Ffrainc a chystadleuaeth WXV y merched yn Seland Newydd.”

Mae’r ddau benodiad hwn yn golygu y bydd Alison a Richard yn dechrau ymgymryd â’u cyfrifoldebau yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd Richard yn dechrau’n swyddogol fis nesaf a bydd Alison yn dilyn yn fuan wedi hynny.

Bydd gwaith nawr yn mynd rhagddo o ddifrif ar gyfer penodi Prif Swyddog Gweithredol parhaol i Grŵp URC – bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan y Cadeirydd newydd – a bydd recriwtio pellach i’r Bwrdd ar ei newydd wedd yn parhau.

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymuno â Bwrdd URC ar yr adeg cyffrous hwn yn hanes y gêm yng Nghymru,” meddai Alison.

“Mae’r angen am newid wedi bod yn amlwg ond mae’r ffordd ymlaen yn cynnig llwybr clir i ni allu bod yn fwy cynhwysol a llwyddiannus wrth i ni i gyd weithio gyda’n gilydd tuag at y nod hwnnw.

“Bydd yn ddyletswydd arnaf i sicrhau bod cynnydd yn digwydd ar sail ar y rhinweddau unigryw a gwerthfawr sy’n perthyn i rygbi Cymru.

Roedd cynigion* a basiwyd yng Nghyfarfod Eithriadol URC fis Mawrth, a gyflwynwyd gan y Cadadeirydd Ieuan Evans, yn cynnwys:

• Cynyddu nifer y Cyfarwyddwyr a benodir yn hytrach na’u hethol, o dri i chwech o leiaf
• Lleihau’r nifer o –  aelodau etholedig cenedlaethol neu ardal o Gyngor URC ar y Bwrdd – o wyth i bedwar (Bydd Cadeirydd Bwrdd y Gêm Gymunedol yn llenwi un o’r swyddi hyn)

Ac y byddai Bwrdd newydd URC hefyd yn cynnwys:

o Prif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd Annibynnol

o Pedwar Cyfarwyddwr Annibynnol Anweithredol (INEDs)
o Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) fydd hefyd yn benodiad annibynnol a chynrychiolydd ar gyfer gêm y merched
o Pedwar cynghorydd etholedig (dau aelod o’r Cyngor Cenedlaethol a dau gynrychiolydd Ardal) gan gynnwys Cadeirydd Bwrdd y Gêm Gymunedol

• gyda’r cwmni yn ymrwymo y dylai o leiaf pump (40%) o aelodau’r Bwrdd 12 person fod yn fenywod.

“Rydym wedi gwneud dau benodiad hynod gyffrous yn Alison a Richard ac rwy’n croesawu’r ddau yn gynnes iawn,” meddai Evans,( fydd yn parhau fel Cadeirydd am gyfnod pontio byr er mwyn cydweithio â’i olynydd dros yr wythnosau nesaf).

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi mynegi diddordeb i ymuno â Bwrdd URC ar yr adeg hwn o newid sylweddol yn ein strwythur llywodraethu. Mae safon yr ymgeisiwyr wedi bod yn aruthrol.

“Mae ein Bwrdd ar ei newydd wedd yn dechrau siapio ac mae gen i bob hyder y bydd gennym yr amrywiaeth o dalent sydd ei angen i sicrhau ein lle’n deilwng yn y gêm elît i ferched a dynion. Rwy’n hyderus hefyd y gallwn barhau i dyfu a chefnogi pob rhan o’n gêm gymunedol, i fechgyn, dynion, merched a menywod, pan fydd y broses wedi’i chwblhau.

“Rydym yn parhau yn ein dyhead tymor hir i wneud yn siwr ein bod yn anelu at gydraddoldeb rhywiol ar y Bwrdd. Byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni, gan sicrhau hefyd bod gennym y bobl orau i arwain rygbi Cymru’n effeithiol a hyderus tua’r dyfodol.

“Dim ond y camau cyntaf yw’r penodiadau hyn. Nesaf byddwn yn dod o hyd i’n Prif Swyddog Gweithredol parhaol ac yn llenwi’r swyddi annibynnol eraill. Bydd y Bwrdd newydd yn gosod safonau uchel ac yn cael ei graffu’n fanwl. Heb os, bydd y newidiadau hyn yn arwain at welliannau sylweddol fydd yn gwneud y genedl yn falch iawn yn y blynyddoedd i ddod” .

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru
Amber Energy
Opro
Dau benodiad annibynnol i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru