Wedi’r golled greulon yn erbyn Seland Newydd yn eu gornest agoriadol yng Nghrŵp A ddydd Sadwrn – mae Jones wedi gwneud dau newid i’r pymtheg ddechreuodd yn Paarl. Mae’r ddau newid hwnnw ymysg y blaenwyr gyda Louis Fletcher yn disodli Ellis Fackrell yn brop pen tynn tra bo ail reng y Gweilch, Evan Hill, yn dechrau dros ei wlad am y tro cyntaf ar ôl dod i’r maes fel eilydd ddydd Sadwrn.
Mae dau newid ar y fainc yn ogystal wrth i’r prop Kian Hire a’r chwaraewr rheng ôl Mackenzie Martin hawlio’u lle yng ngharfan y gêm.
Wedi i Gymru ennill dau bwynt bonws yn y gêm gyntaf – mae Mark Jones yn chwilio am welliant pellach yn erbyn Japan. Dywedodd Jones: “Mae ambell agwedd o’n chwarae y mae’n rhaid i ni wella ac mae’r ffaith bod y rhanfwyaf o’r tîm wedi cael eu dewis eto – yn rhoi’r cyfle hwnnw iddyn nhw wneud y gwelliannau hynny.
“Tydan ni heb dreulio llawer o amser gyda’n gilydd fel carfan ac felly mae’n mynd i gymryd ychydig mwy o amser i ni asio. Er i ni berfformio’n dda ddydd Sadwrn – mae’n bwysig cofio i ni golli’r gêm yn y pendraw. Pe bydden ni wedi perfformio hyd eitha’n gallu – fe fydden ni wedi curo Seland Newydd.
“Ers y penwythnos rydyn ni unwaith eto wedi bod yn canolbwyntio ar ein perfformiad ni’n hunain. Wedi dweud hynny, rydyn ni wedi gwneud ein gwaith cartref ar Japan. Er iddyn nhw gael coten yn erbyn Ffrainc – mae’n rhaid i ni gofio ein canlyniad ni yn eu herbyn yn y 6 Gwlad. Bydd gennym barch mawr tuag Japan ond wrth berfformio’n dda – bydd yn rhaid i ni anelu am bwyntiau llawn ddydd Iau.
“Bydd yn rhaid i ni ddechrau’r gêm yn gryf a mynd amdani am yr 80 munud. Bydd yn rhaid i ni hefyd wella ar y gwendidau y cymrodd y Crysau Duon fantais arnyn nhw yn yr ornest gyntaf”.
Cymru dan 20 v Japan dan 20, Dydd Iau 29ain Mehefin. Stadiwm Danie Craven. 1pm.
15 Cameron Winnett (Caerdydd)
14 Llien Morgan (Gweilch)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Bryn Bradley (Harlequins)
11 Harri Houston (Gweilch)
10 Dan Edwards (Gweilch)
9 Archie Hughes (Scarlets);
1 Dylan Kelleher-Griffiths (Dreigiau)
2 Lewis Lloyd (Gweilch)
3 Louis Fletcher (Gweilch)
4 Evan Hill (Gweilch)
5 Jonny Green (Harlequins)
6 Ryan Woodman (Dreigiau – Capt)
7 Lucas De La Rua (Caerdydd)
8 Morgan Morse (Gweilch)
Eilyddion
16 Sam Scarfe (Dreigiau)
17 Josh Morse (Scarlets)
18 Kian Hire (Gweilch)
19 Mackenzie Martin (Caerdydd)
20 Seb Driscoll (Harlequins)
21 Tom Florence (Gweilch)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Harri Williams (Scarlets)