‘Roedd torf o 9,668 yn bresennol yn Kingsholm – neu Queensholm fel mae’n cael ei adnabod ar gyfer gemau’r menywod bellach!
Er na lwyddodd Lillicrap i hawlio’i lle yng ngharfan y clwb cartref ar gyfer y Ffeinal, fe wnaeth cyn-gapten Cymru gyfraniad mawr i ymgyrch Hartpury-Caerloyw yn y cynghrair yn ystod y tymor – ac fe dderbyniodd hi ei medal yn haeddiannol wedi’r chwiban olaf.
Yn union wedi hynny, fe gyhoeddodd Lillicrap – sydd bellach yn 35 oed – ei bod hi’n amser iddi ymddeol a ‘chamu yn ôl o chwarae”. Roedd hi eisoes wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi iddi arwain Cymru i chwarteri Cwpan y Byd yn 2022.
“Mae gorffen fy ngyrfa gyda’r clwb yn ennill y Ffeinal yn freuddwyd” dywedodd Lillicrap:
“Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael profiadau anhygoel yn ystod fy nghyrfa”. Ychwanegodd.
“Roedd gweld 9,000 o bobl yn gwylio gêm glwb yn arwydd clir o faint y mae camp y merched wedi tyfu’n ddiweddar. Nid dim ond teuluoedd a frrindiau’r chwaraewyr sy’n gwylio erbyn hyn – mae’n llawer mwy na hynny.
“Mae’r byd yn dechrau sylweddoli pa mor dda yw rygbi menywod erbyn hyn ac mae’n deimlad arbennig gallu gorffen fy ngyrfa mewn achlysur arbennig iawn fel hyn. Gobeithio y gall y gamp yng Nghymru barhau i dyfu hefyd a’r gefnogaeth i’r gemau hefyd”.
Hawliodd Lleucu George wobr ‘Seren y Gêm’ yn y rownd derfynol o safle’r maswr a sgoriodd y bachwr Kelsey Jones a’r eilydd asgwellwr Lisa Neumann geisiau allweddol hefyd.
‘Roedd y Gymraes Bethan Lewis yn amlwg yn ôl ei harfer yn rheng ôl Harpury-Caerloyw ac fe gamodd y prop Sisilia Tu’ipulotu o’r fainc i hawlio’i medal hithau hefyd.
Dod ymlaen fel eilyddion dros Gaerwysg fu hanes chwaraewyr rhyngwladol Cymru Abbie Fleming a Robyn Wilkins ond y clwb catref a orfu.